Newyddion

Gwisgoedd y Barbwr

3 Awst 2021

Mae The Barber of Seville gan Rossini wedi cael ei pherfformio miloedd o weithiau ledled y byd, felly gallwch ddychmygu'r ystod eang ac amrywiol o wisgoedd y mae'r holl Figaro's a Rosina's wedi'u gwisgo ers y perfformiad cyntaf yn 1816. O Sbaen swreal Glyndebourne i fraich llawn tatŵs Figaro yng nghynhyrchiad Théâtre Des Champs-Élysées; mae'r gwahanol ddehongliadau o gampwaith Rossini yn ddiddiwedd. Fodd bynnag, mae cynhyrchiad arfaethedig Opera Cenedlaethol Cymru yn glynu at yr arddull wreiddiol, oherwydd mae golygfa ddoniol yn fwy doniol pan mae'r troseddwr sy'n cael ei watwar yn cerdded o gwmpas mewn wig powdr, yn ein barn ni. Mae'r wisg wedi ei chwblhau â smotyn harddwch a oedd mor ffasiynol yn y cyfnod - yn anffodus, nid yw ein Bartolo yn edrych mor dda â Kirsten Dunst yn Marie Antoinette enwog Sofia Coppola.

Ond peidiwch â phoeni, nid oes unrhyw blwm yn ein colur fel oedd yn y cyfnod; roedd paent ar gyfer y wyneb wedi gwneud gyda'r metel gwenwynig mor boblogaidd. Hyd yn oed wedi iddynt ddarganfod bod modd marw ohono; roedd cost coegedd yn uchel iawn. Os ydych yn meddwl bod aeliau yn beth newydd mewn ffasiwn, mewn gwirionedd, dechreuodd y ffasiwn yma yn y 18fed ganrif. Byddant yn defnyddio cohl, corc llosg, sudd ysgaw, neu hyd yn oed, llygod. Byddai'r anifeiliaid bach druan yn cael eu dal a'u troi yn aeliau. Ond peidiwch â phoeni, ni chafodd unrhyw anifeiliaid eu niweidio wrth wneud cynhyrchiad WNO.

Nid dim ond eich sgert a oedd â ffrâm siâp crinolin yn y 1700au, ond gallai eich gwallt fod â ffrâm ynddo hefyd, neu rhol i'w wneud yn uchel. Gyda'r holl haeni o ddillad oedd angen eu gwisgo, nid oedd syndod bod yr Iarll wedi cwyno bod 'y gweision yn y tŷ yn cymryd mwy o amser i wisgo na'u meistri', ac ateb Figaro yw, 'achos nad oes ganddyn nhw weision i'w helpu.' Sy'n crynhoi'r ffordd feistrolgar y mae Rossini yn dangos pa mor ffôl yw'r rhaniad rhwng y dosbarthiadau.

Mae'r portreadau sydd gennym o'r adeg honno yn dangos y ffrils a'r rhubanau yn ogystal â'r colur, ac wrth gwrs y gwallt; gall pa mor wirioneddol chwerthinllyd oedd pethau bryd hynny, a dangos y dosbarthiadau elitaidd ar eu mwyaf gwirion fod y rheswm pam y dewisodd Rossini osod yr opera yn yr 18fed ganrif. Fel y dywedodd Thomas Carlyle, awdur The French Revolution, am y sioe wreiddiol ar y pryd: 'Mae Ffrainc i gyd yn ei derbyn, yn chwerthin mewn cymeradwyaeth.' Y ffordd orau i gyrraedd meddwl y gynulleidfa yw chwerthin wrth gwrs ... a wig fawr.