Newyddion

Y Clychau! Y Clychau! Tosca trwy y blynyddoedd WNO

16 Gorffennaf 2025

Mae Toscagan Puccini yn opera sy’n llawn angerdd, grym a brad. Ers ei dangosiad cyntaf yn 1900, mae wedi dod yn un o’r operâu mwyaf poblogaidd ac yn un o’r operâu sydd wedi’i chael ei pherfformio fwyaf ar draws y byd. Wrth i ni edrych ymlaen at ein cynhyrchiad o Tosca yr Hydref hwn, ac wrth i Opera Cenedlaethol Cymru nesáu at ei ben-blwydd yn 80 oed yn 2026, gadewch i ni daflu golwg ar hanes y ddrama gerddorol boblogaidd hon gyda WNO dros y wyth degawd diwethaf.

Mary Elizabeth Williams (Tosca, 2013) Ffotograffiaeth gan Robert Workman.

Ni chafodd y cwmni ei gynhyrchiad cyntaf o Tosca tan 1955 yn yr Empire Theatre, Abertawe. Cyfarwyddwyd y cynhyrchiad gan Norman Jones, gyda chorws yn cynnwys cantorion proffesiynol ac amatur, a Cherddorfa Symffoni Bournemouth yn chwarae o’r pit. Dim ond yn 1970 y sefydlwyd Cerddorfa bwrpasol WNO, a daeth Corws WNO yn ensemble proffesiynol llawn amser erbyn 1973.

Roedd arian yn brin yr adeg yno, ac roedd dull o wneud y gorau o’r hyn oedd ar gael yn parhau ymhell ar ôl blynyddoedd y rhyfel. Fodd bynnag, cafwyd cynhyrchiad newydd o Tosca yn 1958 dan gyfarwyddyd Harry Powell Lloyd, ond gyda’r un setiau, golygfeydd a gwisgoedd yn cael eu hailddefnyddio o’r cynhyrchiad blaenorol er mwyn arbed pres. 

Deborah Riedel Tosca and  Dennis  O'Neill  Cavaradossi (Tosca, 2006)  Ffotograffiaeth: Clive  Barda

Mae’n debyg fod Tosca wedi disgyn allan o ffasiwn erbyn y 1960au a’r 70au. Ni chafwyd cynhyrchiad newydd tan fis Medi 1980 yn y New Theatre, Caerdydd (a oedd erbyn hyn yn gartref rheolaidd i’r cwmni.) Cyfarwyddwyd y cynhyrchiad hwn gan John Copley ac roedd yn berfformiad poblogaidd. Erbyn y 1980au, roedd WNO hefyd yn mynd ar deithiau rheolaidd i Landudno, Lerpwl, Bryste, Rhydychen, Southampton, Birmingham a Plymouth. 

Yn 1992 cyflwynodd WNO Tosca newydd sbon gan gyfarwyddwr o Awstralia, sef Michael Blaemore. Cafodd ei gynhyrchiad clasurol groeso mawr ac fe’i perfformiwyd dros y 20 mlynedd nesaf. Un o’r tymhorau mwyaf cofiadwy oedd Gwanwyn 1998, pan ychwanegwyd at adran Offerynnau Taro’r Gerddorfa trwy brynu tair cloch eglwys go iawn ar gyfer y Te Deum yn Act 1 a rhagymadrodd gwawr Act III. Castiwyd y tair Cloch Tosca, a oedd yn pwyso 245kg yr un, yn yr enwog Whitechapell Bell Foundry, lle castiwyd Big Ben yn 1858. Daeth hanes y Gloch yn un teilwng o stori operatig – cafodd y Gloch eu dwyn wrth deithio i Lerpwl ac aethant ar goll am flwyddyn. Fodd bynnag, sylwodd masnachwr sgrap craff ar yr arysgrif ‘Welsh National Opera Tosca’ ar bob cloch cyn iddynt gael eu toddi. Cafod dy Cloch eu dychwelwyd ac maent bellach yn rhan o drysorfa orfferynau’r Gerddorfa, yn cael eu defnyddio o hyd pan fo’r foment yn galw, ac yn aml yn cael eu benthyg i gerddorfeydd eraill.

Symudodd WNO i’w gartref newydd yn Ganolfan Mileniwm Cymru yn 2004, ac adfywiwyd Tosca Blakemore, ynghyd a’r gloch eiconig, sawl gwaith yn ystod y 2000au a’r 2010au . Cafodd ei berfformiad olaf yn 2018, gydag arweinyddiaeth gan Carlo Rizzi, arweinydd anrhydeddus WNO, a Mary Elizabeth Williams a Claire Rutter yn rhannu’r rôl o Tosca; Gwyn Hughes Jones fel Cavaradossi a Mark S Doss fel y barwn drygionus, Scarpia.

Claire Rutter Tosca, Hector Sandoval Cavaradossi. (Tosca, 2018) Photography by Richard Hubert Smith. 

Mae’r rhan fwyaf o operâu yn myfyrio ar gymhlethdodau natur ddynol – ei wendidau a’r sbectrwm llawn o deimladau ac emosiynau. Nid yw Tosca yn eithriad – mae’n ffrwydriad dramatig ac emosiynol, wedi ei osod i gerddoriaeth dwyfol Puccini. Peidiwch â cholli’r cynhyrchiad newydd hwn, sydd yn ffres, grymus ac yn llawn ysbryd, dan gyfarwyddyd Edward Dick ac yn cynnwys cast rhagorol, gan gynnwys Natalya Romaniw fel Tosca.

Bydd Tosca gan Puccini yn agor Tymor yr Hydref WNO yng Nghaerdydd ar 14 Medi, ac yna’n teithio i Southampton, Llandudno a Bryste.