Newyddion

Mae’r pethau gorau’n dod mewn parau: Cav a Pag

10 Mai 2021

Fred Astaire a Ginger Rogers, dŵr a sebon, pengwiniaid, Mario a Luigi, pupur a halen - mae rhai o’r pethau gorau’n dod mewn parau.  Un o'r parau mwyaf poblogaidd mewn opera Eidalaidd yw Cavalleria rusticana Pietro Mascagni a Pagliacci Ruggero Leoncavallo. Ysgrifennwyd y ddau waith yn annibynnol ond mae'r ddau yn rhannu crynoder dramatig, cyfoeth melodaidd, obsesiwn â chenfigen dreisgar ac yn gampweithiau diymwad o draddodiad realaeth verismo.

Cyfansoddodd Mascagni ddwy opera cyn Cavalleria rusticana - Pinotta yn 1880 a Guglielmo Ratcliff yn 1885. Ar ôl iddo gael ei ddiarddel o Conservatory Milan yn 1884 am ei ddiffyg ymroddiad, dioddefodd chwe blynedd o dlodi a dinodedd.

Yn 1888, clywodd am gystadleuaeth yn cynnig gwobr am yr opera un act orau, wedi’i noddi gan y cyhoeddwr cerddoriaeth Sonzogno. Mae Cavalleria rusticana yn waith angerddol 75 munud sy'n gosod stori fer yr awdur Eidalaidd Giovanni Verga (1880) a’r ddrama o’r un enw (a gynhyrchwyd 1884) i gerddoriaeth. Cymerodd ddau fis i Mascagni gyfansoddi'r opera sy'n adrodd hanes o gariad, brad a dialedd yn Sisili. Gyda'i alawon cynhyrfus, gan gynnwys Easter Hymn a’i phlot tynn, cafodd ei phleidleisio’n unfrydol yn enillydd y gystadleuaeth.

Cafodd yr opera ei pherfformio am y tro cyntaf yn Rhufain ar 17 Mai 1890, pan oedd y cyfansoddwr yn ddim ond 27 oed. Roedd yn llwyddiant ar unwaith, gan dderbyn dim llai na 60 o len-alwadau.

Er i Mascagni ysgrifennu a chynhyrchu 15 opera arall, ni ddaeth yr un ohonynt yn agos at gyflawni llwyddiant ysgubol Cavalleria rusticana. Roedd yr un peth yn wir yn achos Leoncavallo: roedd ei opera Pagliacci mor fuddugoliaethus nes iddi ddod yn enwog dros nos - llwyddiant y methodd â’i gyflawni gyda'i wyth opera eraill.

Roedd Leoncavallo yn gyfansoddwr digon di-nod ar y pryd, ond wedi’i ysbrydoli gan lwyddiant Cavalleria rusticana Mascagni, aeth ati i gyfansoddi ei ail opera - y gyntaf oedd Chatterton (1876). Nid yn aml y mae cyfansoddwyr yn ysgrifennu eu libretos eu hunain ond taniwyd dychymyg Leoncavallo gan stori go iawn, sef achos y daeth ei dad - a oedd yn ynad yr heddlu yn Napoli - ar ei thraws, am wraig a lofruddiwyd ar y llwyfan gan ei hactor o ŵr eiddigeddus. O fewn pum mis roedd wedi ysgrifennu'r libreto ac wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth.

Perfformiwyd Pagliacci am y tro cyntaf ym Milan ar 21 Mai 1892, a daeth yn llwyddiant ar unwaith; heddiw dyma'r unig waith gan Leoncavallo sy’n rhan o’r repertoire operatig safonol. Mae’r opera yn parhau i fod yn llwyddiannus hyd heddiw oherwydd gallu'r cyfansoddwr i gyfuno hiwmor, rhamant a hwyliau treisgar tywyll.

Cyflwynwyd y ddwy opera fel rhaglen ddwbl am y tro cyntaf gan gwmni’r Metropolitan Opera yn 1893. Ond y drefn oedd Pagliacci-Cavalleria, sef y gwrthwyneb i'r hyn y mae cynulleidfaoedd modern wedi arfer ei weld. Ers hynny mae'r ddwy opera wedi cael eu perfformio'n aml fel rhaglen ddwbl, y cyfeirir ati fel 'Cav a Pag'.

Roedd y rhaglen ddwbl yn nodi dechrau stori Opera Cenedlaethol Cymru. Ar ddydd Llun 15 Ebrill 1946, perfformiodd y Cwmni ei berfformiadau llwyfan llawn cyntaf - Cavalleria rusticana gyda Tom Hopkins a Margaret Williams fel Turiddu a Santuzza, a Pagliacci gyda Tudor Davies a Beatrice Gough fel Canio a Nedda yn Theatr Tywysog Cymru, Caerdydd. Ers hynny mae'r ddwy opera hyn wedi dod yn rhan annatod o'n repertoire, gan ymddangos sawl gwaith dros y blynyddoedd, yn fwyaf diweddar yn Haf 2016.