Newyddion

Bernstein Bendigedig

18 Mai 2023

Cyn bo hir bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio cynhyrchiad newydd sbon o opereta wych Leonard Bernstein, Candide. Yn daith wallgof ac animeiddiedig drwy sioe ddychanol enwocaf athroniaeth, dim ond athrylith gerddorol Leonard Bernstein fyddai wedi gallu creu’r melodïau a oedd yn yr arfaeth i sicrhau’r gwaith yn y Broadway Hall of Fame. Gadewch i ni edrych yn fanylach ar yrfa ddisglair a llawn sêr Bernstein fel un o gerddorion, arweinwyr a chyfansoddwyr mwyaf llwyddiannus y byd.

Cyfansoddiadau

Wedi’i eni yn yr UDA ym 1918, Bernstein yw un o gyfansoddwyr enwocaf yr 20fed ganrif yn America. Heb os nac oni bai, ei gyfansoddiad mwyaf adnabyddus yw West Side Story, y sioe gerdd Broadway 1957 sydd ers hynny wedi’i haddasu’n ddwy ffilm (1961 a 2021). Gyda geiriau gan Stephen Sondheim, roedd y sioe gerdd yn llwyddiant ysgubol ar unwaith a daeth y caneuon yn adnabyddus ledled y byd mewn dim. Yn ddiweddarach addasodd Bernstein sgôr cerddorfaol y sioe gerdd i fod yn gasgliad dan y teitl Symphonic Dances from West Side Story, sy’n parhau hyd heddiw i fod yn ddarn annatod o repertoire y cyngerdd. 

Ymhlith yr amrywiol genres eraill y byddai Bernstein hefyd yn cyfansoddi ynddynt mae sgoriau ffilm (On the Waterfront), gweithiau corawl (Chichester Psalms), lleoliad offeren Gatholig a ysbrydolwyd gan theatr gerdd (MASS), opereta (Candide), a thair symffoni gerddorfaol. 


Arweinio

Roedd Bernstein yn ffigwr amlwg iawn yn y byd cerddorfaol ac ef oedd y prif ffigwr Americanaidd cyntaf i gyflawni statws rhyngwladol nodedig fel arweinydd. Hyfforddwyd y mwyafrif o’r arweinwyr gorau yn Ewrop ond roedd Bernstein yn wahanol yn hynny o beth gyda’i addysg Americanaidd ac ef oedd cyfarwyddwr cerddoriaeth cyntaf y New York Philharmonic oedd yn enedigol o America.

Fe’i cofir amdano’n bennaf am ei berfformiadau egnïol o gerddoriaeth ei ragflaenydd New York Philharmonic, y cyfansoddwr o Awstria Gustav Mahler (1860-1911). Bernstein oedd yr arweinydd cyntaf i gwblhau recordio cylch o symffonïau Mahler, a wnaeth ddwywaith gyda cherddorfeydd blaenllaw ledled y byd.

Fel pianydd llwyddiannus, byddai’n aml yn arwain cerddorfeydd o’r biano, a pherfformiodd ei weithiau cyngerdd mawr megis Rhapsody in Blue Gershwin, Concerto Piano yn G Ravel a’i gyfansoddiad ei hun, Symffoni Rhif 2: The Age of Anxiety.


Gwaith addysg

Roedd Bernstein yn hynod ymrwymedig i waith addysg a rhannu cerddoriaeth gyda chymaint o bobl â phosib. Un o’i brif gyflawniadau oedd ei waith gyda Chyngherddau Pobl Ifanc y New York Philharmonic - perfformiadau teledu ar gyfer plant a phobl ifanc oedd yn cyflwyno cerddoriaeth glasurol i genhedlaeth newydd ar nosweithiau Sadwrn. O 1958 i 1972, bu Bernstein yn cyflwyno ac yn arwain y cyngherddau byw, gan ysgrifennu’r sgriptiau ei hun a chynllunio’r darnau o amgylch tymor cyngherddau’r gerddorfa. 

Roedd hefyd yn adnabyddus fel mentor i sawl arweinydd ifanc a sêr y dyfodol, yn cynnwys Michael Tilson Thomas, John Mauceri, Marin Alsop, Paavo Järvi, Seiji Ozawa ymysg sawl un arall a ddaeth yn adnabyddus yn ddiweddarach. 

Daeth ei fywyd ysbrydoledig yn destun ffilm newydd, Maestro a chaiff ei rhyddhau yn ddiweddarach eleni, gyda Bradley Cooper yn chwarae rhan Bernstein ei hun.

Cofiwch ddod i weld cynhyrchiad newydd gwefreiddiol WNO o Candide yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd 22 Mehefin, cyn y bydd yn mynd ar daith i Truro, Llandudno, Rhydychen, Birmingham ac Aberhonddu tan 15 Gorffennaf.