Newyddion

Migrations: Y Rhwystr Iaith

25 Gorffennaf 2022

Un o’r nifer o straeon yn Migrations, opera newydd Opera Cenedlaethol Cymru, yw’r The English Lesson. Mae’r darn hwn a ysgrifennwyd gan Sarah Woods, wedi’i osod mewn ystafell ddosbarth mewn canolfan i ffoaduriaid yn y DU yn 2019, ac fel mae’r teitl yn awgrymu, mae gwers Saesneg yn cael ei chynnal. Mae’n canolbwyntio ar stori taith y ffoaduriaid Kadra, Adham ac Emelda.

Stori rhy gyffredin o ddosbarth o ffoaduriaid o bedwar ban byd, yn dysgu Saesneg sylfaenol er mwyn ymdopi yn eu bywyd newydd. Llwydda Sarah i ddod ag unigoliaeth i’r grŵp. Boed yn fam sydd wedi colli ei phlant wrth iddynt ddianc o Swdan; neu fachgen 16 oed o Syria oedd wedi gorfod ffoi o’i gartref, a gadael ei deulu, er mwyn osgoi cael ei orfodi i ymuno â’r fyddin; neu’n athrawes o Eritrea, a ymosodwyd arni oherwydd ei chredoau. Rhennir y straeon hyn wrth i’r ffoaduriaid ddysgu sut i gyflwyno eu hunain a rhannu hanes eu bywydau blaenorol. Adlewyrcha’r straeon y rhai a welwn bob nos ar y newyddion neu yn y papurau newydd. Mae’r stori annibynnol hon sy’n ganolbwynt i act un yn rhoi llais i’r bywydau hyn - gan ein galluogi i weld y ffoaduriaid fel pobl, gallwn ddychmygu’r hyn maent wedi’i golli, a theimlo eu poen.

Mae gwersi Saesneg am ddim yn aml yn cael eu cynnal gan elusennau a sefydliadau er mwyn cefnogi’r rhai sydd newydd gyrraedd y wlad. Mae amrywiol golegau ac adnoddau ar-lein hefyd yn cynnig dosbarthiadau i helpu pobl i integreiddio i gymdeithas mewn gwlad newydd (er nad ydynt o reidrwydd ar gael am ddim). Daeth y syniad ar gyfer y stori hon yn dilyn ymweliad ag Oasis yng Nghaerdydd, canolfan i’r rhai sy’n chwilio am noddfa a lloches. Fel yr eglurodd Sarah:

‘Ar ôl gweithio ar nifer o brosiectau’n archwilio profiadau ffoaduriaid a thrwy hynny gwneud nifer o ffrindiau sydd â phrofiad byw o fod yn ffoadur neu’n geisiwr lloches, roedd hyn yn ddewis naturiol i mi.

Cefais fy nghyffwrdd gan yr amrywiaeth o bobl yn yr ystafell - a’r pethau yr oedd pobl yn dysgu i ofyn ac ateb cwestiynau amdanynt. Roedd pob cwestiwn yn teimlo mor awgrymog, ac felly’n amhosib i’w hateb. Ond roedd pawb yn eu hateb nhw ac yn ymdrechu’n galed i ddysgu.’

Nid ydy The English Lesson yn tynnu sylw yn unig at ba mor allweddol yw rhuglder i ddod o hyd i waith neu astudio mewn gwlad newydd, i oresgyn unigrwydd a theimlo’n ynysig, a bod yn rhan o gymuned, mae hefyd yn ceisio chwalu’r brand ‘ffoadur’ i’r unigolion hynny sy’n aml yn cuddio y tu ôl iddo. Fel mae Abdul Shaytek, cyfarwyddwr y darn, yn ei roi mewn cyd-destun personol: Mae storiâu fy rhieni yn bwysig ac angenrheidiol, fel storiâu miliynau o bobl eraill, mae’n bwysig bod cymaint â phosib o bobl yn clywed y storiâu hyn ac yn y pendraw yn deall pam fod pobl yn gwneud y dewisiadau hyn.’

Gallwch ddysgu mwy am Kadra, Adham ac Emelda a’r bobl eraill sy’n cymryd rhan yn The English Lesson, mewn perfformiad o Migrations yr Hydref yma yng Nghaerdydd, Llandudno, Plymouth, Birmingham neu Southampton.