Newyddion

Ein Hanrheg Gerddorol y Nadolig

7 Rhagfyr 2023

Mae’r Nadolig ar y trothwy, ac rydym ni yma yn Opera Cenedlaethol Cymru yn mwynhau’r miri a’r rhialtwch yn gymaint â phawb. Ond er bod tymor y Nadolig yn llawn llawenydd i lawer o bobl, gall fod yn gyfnod unig i eraill. Fel rhan o’n cenhadaeth i gyflwyno grym cerddoriaeth i gynulleidfa mor fawr â phosibl, rydym wedi trefnu amryw byd o ddigwyddiadau mewn cymunedau ledled De Cymru, ar gyfer pobl a allai fod yn fwy agored i niwed yr adeg hon o’r flwyddyn.

Mae prosiect Cysur WNO yn helpu i godi ymwybyddiaeth o ddementia mewn ysgolion ac mae’n cynnig lle diogel i bobl sy’n byw gyda dementia fwynhau cerddoriaeth mewn man cymunedol. Dechreuodd dathliadau’r Côr Cysur ar 6 Rhagfyr gyda chyngerdd yn Eglwys Sant Ioan yn Noc Penfro, yng nghwmni plant Ysgol Gymunedol Doc Penfro, lle cawsom brynhawn yn llawn cerddoriaeth Nadoligaidd a morwrol. Bydd y Côr Cysur yn y Cloud Theatre, Bluestone ddydd Mawrth 12 Rhagfyr lle ceir perfformiad byr yn llawn clasuron Nadoligaidd fel Let it Snow, White Christmas a Deck the Halls.

Fel ffordd o arddangos doniau anhygoel pobl ifanc De Cymru, bydd Opera Ieuenctid WNO yn perfformio ar Lwyfan Glanfa Canolfan Mileniwm Cymru ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr. Mae ein criw gwych yn cynnwys pobl ifanc 10-18 oed, a byddant yn perfformio casgliad o alawon corawl a Nadoligaidd. Beth am ddod draw ac ymuno â’r canu os ydych yn gwybod y geiriau?

Gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, mae dau griw bach o gerddorion WNO yn ymweld ag Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd bob wythnos i ddiddanu’r cleifion a’r staff. Ddydd Gwener 15 Rhagfyr, bydd y tîm llawn yn dod ynghyd ar gyfer digwyddiad Nadoligaidd pwysig, pan fydd cleifion o wardiau penodol yn ymuno â ni yn y prif gyntedd i fwynhau bore yn llawn deuawdau, opera, caneuon Nadoligaidd a rhywfaint o hwyl yr ŵyl. Bydd staff yr ysbyty a staff Mental Health Matters yno i gynnig help llaw, ac fe fydd yna lond trol o fins-peis, ‘dim-secco’ a bagiau anrhegion i aelodau’r gynulleidfa.

Hefyd, ddydd Mercher 13 Rhagfyr bydd ein criw gwych yn rhoi perfformiad i amrywiaeth o gleifion, yn cynnwys cleifion yn wardiau strôc Ysbyty Port Talbot. Mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, bydd y tîm yn canu casgliad o hoff glasuron a chaneuon Nadoligaidd poblogaidd.

Dewch i ddathlu’r Nadolig gydag Opera Cenedlaethol Cymru eleni a helpwch ni i barhau i gynnal prosiectau ystyrlon a hynod werth chweil trwy gyfrannu nawr. Gyda’ch help chi, gall ein prosiectau Lles, Ysbrydoli, Noddfa a Dysgu barhau y Nadolig hwn ac i’r Flwyddyn Newydd.