Newyddion

The Godfather yn yr opera

25 Mawrth 2022

Er bod brad, angerdd a llofruddiaeth yn themâu y byddwch yn eu profi o fewn opera, rydym eisiau trafod un o deuluoedd mwyaf adnabyddus y byd ffilm, y Corleones, o ffilm The Godfather gan Francis Ford Coppola, sy’n dathlu 50 mlynedd ers ei rhyddhau'r gwanwyn hwn. Mae’r campwaith sinematig yn aml yn cael ei gymharu i opera, ac mae yna rai cysylltiadau cryf amlwg.

Cyfansoddwyd trac sain y ffilm wreiddiol gan y cyfansoddwr Eidalaidd Nino Rota, ac mae dylanwad cerddoriaeth glasurol, ac opera yn benodol, yn amlwg i’w glywed yn y sgôr, a enillodd Oscar. Byddai’n hawdd cam-gymryd y cyfansoddiadau cythryblus, a gafodd eu cyfansoddi’n benodol ar gyfer y ffilm, i fod yn rhywbeth y byddwch yn eu clywed yn un o’n perfformiadau ni, ond mae rhai alawon cyfarwydd o gewri’r byd opera i’w clywed hefyd. O ddefnyddio ‘Non so più’ (Aria Cherubino o The Marriage of Figaro gan Mozart) a Brindisi (o La traviata gan Verdi); i’r ffordd mae’r gerddoriaeth yn cyd-fynd â’r plot, yn union fel mewn opera. Byddai themâu’r ffilm hefyd yn ffitio'n hawdd yn y byd opera: pŵer, teulu, dial, cariad, trais, ac yn union fel yng nghynhyrchiad y Tymor hwn o Don Giovanni, condemnio ar ffurf cyfiawnder a chosb ddwyfol. 

Yn y ffilm ddiweddaraf, The Godfather Part III, mae Anthony Corleone – mab ac ŵyr y tadau bedydd y mae’r ffilmiau wedi’u henwi ar eu holau - yn perfformio yn Cavalleria rusticana Mascagni yn Teatro Massimo yn Palermo, ar ôl gadael ‘busnes y teulu’ i ddilyn gyrfa fel canwr opera. Mae Coppola yn ei wneud yn gwbl glir bod sawl paralel sylfaenol rhwng straeon yr opera a’r ffilm, a’r enghraifft amlycaf yw’r cysylltiad Sisilaidd agored, ynghyd â’r trais parhaus. Mae'r ‘Intermezzo’ yn ategu act olaf y ffilm, sy’n gorffen gyda thrasiedi wirioneddol operatig – marwolaeth ei chwaer Mary, wedi'i saethu gan asasin ar risiau'r tŷ opera, ac yna sgrech fud eiconig ei dad, y Godfather, Michael Corleone, sy’n cael ei disgrifio’n aml fel un o adegau gorau’r byd ffilm erioed.

Wrth gwrs, ni allwn anghofio cymeriad Carlo Rizzi yn y ffilm wreiddiol, wedi’i chwarae gan Gianni Russo, er, nid ydym yn siŵr pa mor falch byddai ein Harweinydd Llawryfog o gael ei gysylltu â’r cymeriad hwnnw a’i farwolaeth ddychrynllyd.

Mae’r Godfather gwreiddiol ac Ail Ran y Triawd o ffilmiau yn mwynhau adferiad yn y sinema ar hyn o bryd, ond os ydych chi eisiau rhoi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol, er yn debyg iawn, beth am ymweld ag Opera Cenedlaethol Cymru ar daith a phrofi pam mae opera yn ddelfrydol ar gyfer trac sain ffilmiau, ond mae hyd yn oed yn fwy dwys pan fyddwch chi'n ei weld yn fyw ar y llwyfan.