Newyddion

Y broses o greu A Song for the Future

27 Ionawr 2021

Heddiw mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi lansioA Song for the Future - ffilm newydd, a ddatblygwyd ers i’r DU fynd i gyfnod clo ym mis Mawrth 2020. Ar ôl creu Hope Has Wingsyn flaenorol ar gyfer WNO, sefydlodd Boff Whalley (cyfansoddwr), Sarah Woods (awdur) a Lydia Meehan (cynhyrchydd) bartneriaeth unwaith yn rhagor gyda’r Ganolfan Oasis ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, y tro hwn yn gweithio gyda chwech o awduron a cherddorion o wahanol rannau o’r byd i gyd-greu opera newydd - a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer perfformiad yn ystod Hydref 2020, ac yna cafodd ei haddasu’n ffilm wrth i’r pandemig ddatblygu.

Mae Sarah yn egluro mai hanfod ‘A Song for the Future’ yw geni byd newydd ac achubiaeth ein dyfodol. Wrth i’n bywydau ddechrau newid yn ystod y gwanwyn, dechreuodd y gwaith hwn o siapio’n dyfodol torfol deimlo’n fwy bregus ac yn bwysicach nag erioed. Daeth y tîm i wynebu cymhlethdod y pandemig yn uniongyrchol, er mwyn creu rhywbeth parhaol, amserol a pherthnasol gan roi llais, yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn, i bobl sy’n aml yn mynd heb gael eu clywed.’

Bu i’r grŵp gyfarfod bob pythefnos arlein, gan rannu eu sgiliau unigryw a chyfuno barddoniaeth, cyfansoddi caneuon, gair llafar, canu, bas, gitâr ac allweddi, ynghyd ag offerynnau traddodiadol o Iran fel drwm Tombak, setar, nay a tanbor. Roedd y cerddorion, a oedd oll yn gweithio’n broffesiynol yn eu gwledydd brodorol, yn teimlo’n gyffrous i archwilio sut y gallai eu gwaith ddylanwadu neu gael ei ddylanwadu gan WNO, ac i weld y canlyniad proffesiynol. Rhannodd y cyfranogwyr, a ddaeth at ei gilydd yn arbennig ar gyfer y prosiect hwn, feddyliau a theimladau am y pandemig a oedd yn dod i’r amlwg a’r hyn a allai fod yn y dyfodol. Daeth y prosiect yn achubiaeth, yn fan cysylltu mewn byd wedi’i ddatgysylltu.

Buom yn siarad am y pethau bach - y profiadau bychain hynny mewn bywyd nad oeddem yn eu gwerthfawrogi i’r un graddau ynghynt

Cyfranogwr

Rhannodd y cyfranogwyr gerddoriaeth yr oeddent wedi’i chreu a thestun yr oeddent wedi’i ysgrifennu, law yn llaw â’r flwyddyn yr oedd pawb yn ei phrofi. Gwnaeth ynysu, gwahanu, gormes, y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys oll ffurfio a dylanwadu ar y broses.

Tynnodd Boff a Sarah bopeth at ei gilydd wedyn a ffurfio drafft cyntaf a gyflwynwyd i’r grŵp ym mis Medi. Daeth stori i'r amlwg am Zana, ffoadur sydd wedi cyrraedd yn ddiweddar ac yn ceisio gwneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd iddi ac o’r byd rydym wedi’i greu.

Pan anfonais fy holl feddyliau a syniadau at Sarah...mae'r foment honno pan y gall hi ddal fy syniadau yn arbennig iawn, gan nad oeddwn yn gwybod y gall rhai pobl ddal y syniad o’r hyn rydych yn ei ysgrifennu

Cyfranogwr

Dywedodd Lydia, cynhyrchydd y prosiect, wrthym ‘Ar y pwynt hwn daeth yn amlwg y byddai COVID-19 yn effeithio ar y sector am fisoedd lawer a bod cyflwyno canlyniad byw yn 2020 yn amhosib. Ond roedd ein cyfranogwyr wedi rhoi misoedd o’u hamser a’u syniadau creadigol yn hael i ni ac roedd anrhydeddu'r ymrwymiad a wnaethom iddynt yn teimlo’n hanfodol.

Penderfynasom greu ffilm o’r opera, gan gyfuno recordiadau o gerddorion a chantorion WNO, ynghyd â lluniadau a ffotograffiaeth fedrus dau gyfranogwr. Ffilm a fyddai’n arloesol o ran yr hyn y gallai'r celfyddydau ei wneud ar adeg fel hon ac o ran y ffordd y cyflwynir opera.

Fel popeth a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod hwn mae wedi bod yn gymhleth, yn rhwystredig ac yn heriol ond gyda chefnogaeth a phenderfynoldeb ein cyfranogwyr, cerddorion, cantorion a staff WNO, rydym wedi llwyddo.’

Mae’r prosiect hwn yn real, oherwydd y cyd-destun a sut y gallwn weithio o’n hystafelloedd ac o rywbeth mwy personol. Nid yw’n teimlo fel gwaith - mae'n teimlo fel rhywbeth yr oeddwn eisiau ei fynegi ac rwyf yn falch o hynny

Cyfranogwr