Boff Whalley
Trosolwg
Ganwyd Boff Whalley yn Sir Gaerhirfryn, lle bu'n gweithio fel postman ac yn llenwi silffoedd archfarchnad, cyn cychwyn band gyda'i ffrindiau yn ystod cyfnod Thatcher. Ar ôl 25 mlynedd o recordio a theithio gyda Chumbawamba, cychwynnodd Boff ysgrifennu - mae wedi ysgrifennu nifer o ddramâu a sioeau cerdd teithiol ar gyfer Red Ladder Theatre, yn ogystal ag ysgrifennu sioeau cerdd cymunedol ar raddfa fawr gyda phreswylwyr dwy ystâd yn Nwyrain Leeds, a berfformiwyd yn West Yorkshire Playhouse. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio gyda Cardboard Citizens Theatre ac Opera Cenedlaethol Cymru (gyda'r ysgrifennydd Sarah Woods), ac enillydd Fringe Caeredin, Daniel Bye. Yn ogystal â bod yn anarchydd gydol oes a chefnogwr Burnley FC, mae wedi cyhoeddi dau lyfr ('Footnote' a 'Run Wild'), yn ysgrifennu ar gyfer sawl cylchgrawn, ac mae newydd orffen ysgrifennu bywgraffiad am bync drwg-enwog.