Newyddion

The Marriage of Figaro ar yr Olwg Gyntaf

20 Mai 2025

Mae The Marriage of Figaro yn opera hynod ddifyr yn llawn angerdd, hiwmor a chymhlethdodau. Mae hefyd, fel yr ysgrifennodd Cyd-gyfarwyddwyr Cyffredinol a Phrif Swyddogion Gweithredol WNO, Adele Thomas a Sarah Crabtree ‘yn bennaf, yn gomedi ddynol’, gyda’i ‘themâu canolog yn fytholwyrdd, sy’n eu gwneud mor berthnasol heddiw ag oeddynt pan gyfansoddwyd hi ym 1786’. Gyda hynny mewn golwg, roeddem yn meddwl y byddai’n ddiddorol ail-ddychmygu’r opera mewn cyd-destun cyfoes, ac yn fwy penodol drwy lygad sioe deledu realiti. A beth allai fod yn fwy addas na’r gyfres lwyddiannus ar Channel 4, Married at First Sight?

I’r rhai sydd ddim yn ymwybodol, mae MAFS yn dangos ‘arbrawf’ lle mae dieithriaid sy’n gobeithio dod o hyd i gariad yn cael eu paru â’i gilydd gan ‘arbenigwyr’ ac yn cyfarfod am y tro cyntaf yn eu seremonïau priodas. 

Y Priodasau

Un o agweddau hynod ddiddorol y sioe yw sut mae’r gwahanol briodferched a phriodfeibion yn ymateb ar ddydd eu priodas. Mae sbarc rhwng rhai cyplau ar unwaith, tra i eraill mae’r atyniad yn un ochrog neu ddim yno o gwbl; yn y cyfamser, mae rhai yn cychwyn ar eu taith fel ffrindiau a cheisio meithrin perthynas yn araf. Pe baem yn dychmygu’r ddau gwpl yn The Marriage of Figaro yn y sefyllfa hon, tybed beth fyddai’r canlyniad? 

Rydym yn credu y byddai sbarc rhwng Figaro a Susanna yn y cyfarfyddiad cyntaf, ond byddai eu cariad yn datblygu’n araf. Yn achos Iarll ac Iarlles Almaviva, rydym yn dychmygu diwrnod priodas llawn sbarc a rhamant. Wedi’r cyfan, yn The Barber of Seville, rhaghanes The Marriage of Figaro, mae’r Iarll dros ei ben a’i glustiau mewn cariad gyda Rosina, sydd wedyn yn dod yn Iarlles. Ond, fel llawer o briodasau ar y sioe, mae’n debyg y byddai hon yn rhy dda i fod yn wir…

Cyfnewid partneriaid

Mae MAFS yn enwog yn rhannol oherwydd y sgandalau sy’n digwydd yn ystod yr arbrawf. Yn aml, digwydd hyn oherwydd bod rhywun yn ceisio dwyn gŵr neu wraig person arall. Wrth gwrs, ein pechadur yma fyddai’r Iarll Almaviva anffyddlon, y merchetwr sy’n ceisio hudo Susanna. Byddai’n fflyrtian gyda hi tu ôl i gefn ei wraig ac yn ceisio ei chymryd oddi wrth Figaro. Byddai Susanna fodern, fodd bynnag, yn ei wrthod, heb fod angen cynllun cymhleth.

Seremonïau Ymrwymo

Ar ôl byw hefo’i gilydd, mae’r cyplau ar y sioe yn penderfynu a ydynt yn awyddus i aros yn yr arbrawf gyda’i gilydd ar ddiwedd pob wythnos yn ystod digwyddiad dramatig a elwir yn ‘Seremoni Ymrwymo’. Os yw’r penderfyniad yn unfrydol, mae’r ddau unigolyn yn cael yr hyn maent ei eisiau. Ond, pe bai un person yn dewis aros a’r llall yn dewis gadael, mae’n rhaid i’r ddau ohonynt aros am wythnos arall. Felly, beth fyddai cyplau Mozart yn ei wneud?

Rydym yn credu y byddai Figaro a Susanna yn dewis aros hefo’i gilydd tan ddiwedd yr arbrawf ac wedi hynny. Mae’n debyg y byddant yn dod yn eithaf enwog ac yn ymgorffori ‘nodau cyplau’. Er, mae dilyniant WNO i The Marriage of Figaro gan David Pountney, sydd â’r teitl Figaro Gets a Divorce, yn awgrymu’n wahanol! Yn y cyfamser, byddai’r Iarll Almaviva yn dewis gadael ar ôl methu swyno Susanna. Mae penderfyniad yr Iarlles Almaviva yn ddadleuol. Fodd bynnag, rydym yn tybio y byddai Iarlles o’r 18fed ganrif wedi aros yn ffyddlon i’w haddunedau priodas, a byddai Iarlles o’r 21ain ganrif yn deall ei gwerth ac wedi dewis gadael.

Beth yw eich barn - ymunwch yn y sgwrs! 

#WNOfigaro