Esblygodd gwaith digidol diweddaraf Opera Cenedlaethol Cymru, A Song for the Future, o opera newydd fyw a gynlluniwyd i fod yn berfformiad ffilm yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r cyfansoddwr Boff Whalley yn dweud wrthym sut y daeth y gerddoriaeth ynghyd o dan yr amgylchiadau unigryw hyn.
‘Dechreuodd y broses o ysgrifennu’r gerddoriaeth ar gyfer A Song for the Future yn y byd cyn-bandemig - gyda theithiau trên o Swydd Efrog i Gaerdydd, pobl yn cwrdd mewn ystafelloedd, siarad a siapio pethau gyda’n gilydd. Gallaf gofio eistedd yn yr ystafell aros gyda Sarah Woods ar blatfform yng ngorsaf reilffordd Caerdydd, yn taflu syniadau at ein gilydd a phenderfynu sut i ddechrau'r holl beth. Roeddem yn arfer cofleidio ac ysgwyd llaw gyda phobl wrth gwrdd, yn doeddem? Roedd gennym gyswllt corfforol, yn edrych ar wynebau pobl, yn chwerthin gyda’n gilydd. Yn ôl ar yr adeg honno, roedd Canolfan Ffoaduriaid Oasis yn lle i gwrdd â phobl oedd yn awduron, beirdd, cerddorion a chwaraewyr ond a oedd wedi cael y label ‘ffoadur’. Nhw fyddai’n creu ac yn ffurfio’r prosiect hwn.
Ond yna gorfododd y cyfnod clo fersiwn wahanol o’r byd bob dydd arnom, a gyda’n cyfarfodydd grŵp Zoom cyntaf gwnaethom symud y prosiect yn gyflym fel ei fod yn ymwneud ag arwahanrwydd gorfodol - a hefyd am freuddwydion ac adfywio, ffyrdd newydd o fyw, gobaith. Dechreuodd y cyfranogwyr ysgrifennu syniadau a cherddi, siarad ar gamera, chwarae darnau o gerddoriaeth. Wrth i’r siawns o berfformio o flaen cynulleidfa ddechrau diflannu, gwnaethom benderfynu troi'r prosiect yn ffilm.
Yn gerddorol, roedd yn rhaid trosi popeth o recordiadau o bell a chyfarfodydd arlein wythnosol yn ddalenni cerddoriaeth a ffeiliau sain. Gwnaethom anfon meicroffonau at gyfranogwyr er mwyn iddynt allu recordio eu geiriau a’u chwarae, yn bennaf ar eu ffonau. Dywedodd y cyfranogwyr eu geiriau, a chwarae offerynnau nad oeddwn hyd yn oed yn gwybod sut i’w sillafu: y ney, y setar, y tanbor, y tombak, yn ogystal â gitâr acwstig. Roedd yn hyfryd, ond hefyd yn anodd, i uno’r holl syniadau cerddorol a dod â gwahanol arddulliau ynghyd o bell. Mae’r rhan fwyaf o gerddorion - yn enwedig ein cyfranogwyr yn y prosiect hwn - yn cael eu magu mewn diwylliant o gyd-chwarae, cyd-greu wrth eistedd gyda’i gilydd; nid yw chwarae ynghyd â cherddoriaeth wedi’i recordio ymlaen llawn yn dod i'r meddwl.
Roedd yn rhaid llunio synau’r ney a’r tanbor gyda soddgrwth a ffidil heb yr empathi naturiol a allai fod wedi’i greu pe byddem oll yn yr un ystafell. Cymrodd ychydig o blygu ac addasu, ond rhywsut dechreuodd wneud synnwyr. Yn grefftus, trosodd Sarah eiriau, barddoniaeth a syniadau’r cyfranogwyr yn eiriau, a chymysgwyd y geiriau a ganwyd gyda gair llafar i ludo'r darn at ei gilydd fel stori o obaith ac optimistiaeth.
Am dri mis eisteddais o flaen sgrin ar fy islawr yn rhoi’r holl bethau hyn at ei gilydd, wrth fy modd yn clywed holl elfennau’r prosiect yn ymdoddi drwy'r seinyddion. Yn y ffordd yr oedd Sarah yn ceisio cydbwyso geiriau pwerus a syniadau bregus, roeddem yn ceisio cydbwyso lleisiau ac offerynnau a gofnodwyd mewn ceginau ac ystafelloedd byw, ar wahân, fel eu bod yn swnio’n unedig.
Mewn sawl ffordd mae A Song for the Future yn dyst o waith nid yn unig y cyfranogwyr a’r chwaraewyr, y cantorion a’r ysgrifenwyr, ond hefyd i’w threfniadaeth a’i rheolaeth - gan ein cynhyrchydd WNO, Lydia, yn arbennig. Roedd cymaint yn ein herbyn yn y broses hon - yn enwedig o ran gweithio heb i’r cerddorion allu chwarae, creu a siapio’r sain fel y byddent fel arfer yn ei wneud. Ond yr hyn a oedd gan bawb ohonom oedd brwdfrydedd i wneud iddo ddigwydd, penderfynoldeb i adrodd y stori hon am wahanu, cartref, rhyddid, ac i adrodd y stori honno er gwaethaf y recordiadau ynysig, ynysiad y cyfnod clo a sesiynau Zoom diddiwedd...’