Fe wnaeth Opera Cenedlaethol Cymru nodi ddechrau Mis Hanes Pobl Dduon trwy ryddhau Y Paradocs - y fideo diweddaraf yn y gyfres Aralleirio sy’n cymryd detholiadau o operâu a’u gosod mewn cyd-destunau cyfoes.
Fe wnaeth y cyfarwyddwr Rebbecca Hemmings ddewis ‘Nessun Dorma’ o Turandot gan Puccini, a chreu fideo i dynnu sylw at anghyfiawnder hiliol nad yw llawer yn ei weld. Yn y darn hwn, mae canwr opera’n teithio i’w waith yn ddyddiol tra’n ystyried y berthynas rhwng ei fywyd proffesiynol a’r pwysau emosiynol sydd ar ei ysgwyddau fel dyn du yn ymdrin ag anghyfiawnder hiliol ym Mhrydain.
Aeth Rebbecca ati i weithio ar drywydd y fideo drwy addasu naratif yr opera. Yn fersiwn Rebbecca o Turandot, mae Calaf yn gofyn i Turandot ddweud ei enw. Ni all Turandot ddweud ei enw, oherwydd drwy gydnabod ei fodolaeth mae hi’n aberthu’r breintiau a’r buddion mae hi wedi’u mwynhau am flynyddoedd. Yr enw yw: Ecwiti. Mae Calaf yn ymwybodol o hyn, a gyda'r wybodaeth, yr hyder, a’r pŵer emosiynol hwn mae’n gwaeddi: ‘Vincerò! Vincerò!’ – Fe fyddaf yn fuddugol.
Y bwriad o fewn dehongliad newydd Rebbecca o’r aria oedd ail-ddychmygu byd lle gellir cael gwared ar anghyfiawnder hiliol. Dywedodd ‘Pan edrychais ar y cymeriadau a’u perthnasau mewn ffordd oedd yn adlewyrchu hiliaeth systematig a’r bobl sydd ar yr ymylon oherwydd eu hil, daeth ‘Nessun Dorma’ yn berthnasol iawn i fywyd cyfoes.’
Y bwriad oedd addasu’r geiriau, fel bod mwy o eglurder o fewn y neges, ond yn anffodus nid oedd hynny’n bosib. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd y gynulleidfa yn gweld y dynamig pwerus rhwng y dyhead a’r amharodrwydd i newid drwy’r fideo. Yn ogystal, gobeithir y bydd pobl nad ydynt fel arfer yn gweld yr anghyfiawnder hwn yn dod yn fwy ymwybodol ohono, ac yn cydymdeimlo gyda phobl sydd ar yr ymylon oherwydd eu hil, sy’n delio â microymosodiadau a gwahaniaethu amlwg bob dydd.
Dechreuwyd y prosiect yn ystod y pandemig, a wynebwyd heriau sylweddol, ond mae Covid hefyd wedi profi pa mor bwysig yw cadw lleisiau’r bobl sydd ar yr ymylon oherwydd eu hil yn y cyfryngau prif ffrwd.