Y Tymor hwn, yn opera fawreddog Verdi, Les vêpres siciliennes, mae'r cyfarwyddwr, David Pountney wedi cadw'r bale yn Act II at ddibenion dilysrwydd, i anrhydeddu’r cyflymder y dymunodd Verdi i'r opera ei chael. Drwy gynnwys y bale, rydym felly yn dilyn y gwaith gwreiddiol, er, yn ein cynhyrchiad ni, mae'r ddawns yn ddehongliad mwy cyfoes o stori Montfort yn ymosod ar fam Henri. Cafodd y darn ei ddawnsio gan ein cyd-breswylwyr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Mae nifer o gynyrchiadau, yn enwedig y rheiny sy'n defnyddio'r opera Eidaleg ddiweddarach wedi ei hadolygu, yn cael gwared â'r ddawns, ond mae hyn yn colli rhan annatod o genre yr opera fawreddog. Roedd bale yn elfen gyffredin yn operâu mawreddog poblogaidd Ffrengig yn yr 1800au, yn ymddangos o fewn yr act gyntaf neu'r ail act o'r cynyrchiadau pum act, ac fel arfer gyda rhyw gyswllt i stori'r opera. Er eu bod hefyd yn aml yn cael eu gweld fel dargyfeiriad yn unig, ffordd o roi cyfle i'r gynulleidfa fwynhau'r sioe yn hytrach na phoeni am y plot - yn cynnig amser i fyfyrio ar y stori.
Dechreuodd bale gael ei chynnwys mewn opera o gwmpas 1645, pan oedd operâu yn Eidaleg yn cael eu cyflwyno i lys Brenin Louis XIV ac yn cael eu teilwra i weddu chwaeth Ffrengig - a oedd yn cynnwys bale. Roedd bale wedi cael eu mwynhau yn y llysoedd Ffrengig (ballet de cour) ers o leiaf 1581, pan roedd tôn wleidyddol iddynt ac roeddent yn llawn mytholeg - chwedlau wedi eu haddasu'n propaganda gwleidyddol. Roedd cynyrchiadau cymhleth yn cael eu perfformio a oedd yn cynnwys dawns, y gair llafar, cerddoriaeth a phantomeim. Yn hwyrach yn yr ail ganrif ar bymtheg, datblygodd y rhain i ddwy ffurf ar wahân, bale ac opera, a dechreuwyd eu perfformio ar lwyfannau theatrau cyhoeddus (yn hytrach na llysoedd yn unig), gyda pherfformwyr proffesiynol ac nid aelodau o lys.
Nid bod hyn wedi rhwystro'r ddwy ffurf rhag rhannu'r un llwyfan wedi hyn, fel y nodwyd uchod, roedd bale yn cael ei chynnwys mewn operâu mawreddog, er yn ddiweddar, mae'r traddodiad ar drai. Fodd bynnag, fel teyrnged i'r traddodiad efallai, cafodd sioe gerdd hynod boblogaidd 1986 Andrew Lloyd Webber, The Phantom of the Opera, wedi ei seilio ar lyfr o'r un enw, ei hysbrydoli gan ddigwyddiadau yn y Palais Garnier yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a adnabyddir fel Paris Opèra a chartref opera fawreddog. Mae Christine, y brif rôl fenywaidd, yn ferch gorws gyffredin pan mae'r sioe gerdd yn dechrau, yn cymryd rhan mewn bale yn yr opera (Hannibal). Yn y stori wreiddiol, mae hi i fod i ganu Marguerite yn Faust (sy'n ffurfio rhan o'n Tymor y Gwanwyn 2021) ond yn cael ei herwgipio yng nghanol y perfformiad gan y 'phantom'. Yn y sioe gerdd, mae hyn yn newid i opera o'r enw Il Muto, sydd eto'n cynnwys bale. Yn briodol, mae hyn yn digwydd yn hanner cyntaf Phantom, yn adnabod arferion traddodiadol bale.
Mewn modd gwahanol, ond eto yn anrhydeddu traddodiad, yn 2016, unodd Opera Paris ei chantorion a dawnswyr gyda'i gilydd am berfformiad bil dwbl o Iolanta/The Nutcracker, y ddwy gan Tchaikovsky. Cafodd y ddau ddarn eu comisiynu'n wreiddiol gan Theatr Imperial Mariinsky yn St Petersburg a'r rhain oedd opera a bale olaf y cyfansoddwr, yn eu trefn (cawsant eu perfformio ar y cyd yn 1892) gyda'r ddwy stori yn cysylltu gyda'i gilydd drwy gerddoriaeth. Daeth y prosiect o awydd i (ail)gyfuno'r ddwy ffurf o gelfyddyd, nad ydynt, erbyn heddiw, yn rhyngweithio, er gwaethaf eu tarddiadau cyfunol, a'r ddau ddarn yn cael eu perfformio yn syth ar ôl ei gilydd heb doriad - un stori'n datblygu o'r llall.
Onid oes modd dehongli'r ddwy enghraifft hyn fel teyrnged i opera fawreddog a rôl bale ynddi? Genre sydd werth ei dathlu, nid ei hesgeuluso.