Newyddion

The Shoemaker – Ymddodiad Cerddorol

10 Hydref 2022

Mae sgôr gerddorol Opera Cenedlaethol Cymru o gynhyrchiad The Shoemakeryn gymysgedd o wahanol arddulliau a dylanwadau o bob rhan o'r byd. Roedd y prosiect yn un hynod o gydweithredol, ac roedd sawl cerddor yn cydweithio i gyfansoddi'r gerddoriaeth. Siaradwyd ag un ohonynt, Boff Whalley, i weld sut un oedd y broses o greu cyfansoddiad mor drydanol.

Yn draddodiadol, gwaith unigol yw cyfansoddi opera ond nid felly y bu gyda The Shoemaker. 'Gwaith ar y cyd oedd y gerddoriaeth. Fy rhan i, sef casglu'r gwahanol arddulliau cerddorol i ddarn naratif cyfareddol a threfnus, oedd y rhan hawdd. Gallwn fod wedi ysgrifennu'r popeth fy hun ac fe fyddai wedi bod yn haws, ond ni fyddai wedi bod mor werth chweil ac yn llawer llai diddorol ac amrywiol.' Nid yw'r cydweithwyr cerddorol o Oasis Caerdydd - sefydliad sy'n ceisio rhoi croeso cynnes i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd - erioed wedi gwneud cerddoriaeth ar gyfer opera, a nawr maent wedi cael y cyfle hwnnw, gan weld ei fod yn bosib trwy gyfrwng eu hiaith gerddorol eu hunain. Prif ddylanwad y darn oedd y cerddorion a oedd yn cymryd rhan a ddaeth â'u syniadau a'u dylanwadau o bob rhan o'r byd, ac yna wnaeth fy nghynorthwyo a'm dysgu sut i blethu'r cyfan ynghyd. 'Fe ddaeth y prosiect â'i heriau unigryw - logisteg; cyfarfod; dysgu; cyfieithu a deall beth oedd angen ei wneud.'

Un math o gydweithio sydd bob amser yn bresennol mewn opera yw hwnnw rhwng y libretwyr a'r cyfansoddwr. Yn yr achos hwn, ysgrifennwyd y libreto gan Sarah Woods a thîm o awduron o Oasis Caerdydd. Rwy'n gwybod cymaint o ofal mae Sarah yn ei gymryd gyda'r broses ysgrifennu a pha mor bwysig ydyw iddi gydweithio go iawn gyda'r awduron sy'n cymryd rhan. Pan welais y libreto, dechreuodd y geiriau ddawnsio yn fy mhen.'

Er gwaetha'r heriau, mae'r broses o ddod â The Shoemaker yn fyw wedi bod yn un bleserus. 'Un o'r pethau pwysicaf a mwyaf pleserus yn y broses yw troi geiriau'r libreto i linellau telynegol -- gan deimlo fel bod yr opera'n siapio. Clywed y lleisiau rhyfeddol a'r cerddorion anhygoel yn y gerddorfa yn troi enghraifft fras yn ddarn byw. Gweld y cerddorion a oedd yn cymryd rhan yn eistedd gydag artistiaid proffesiynol WNO a'u gweld yn cyfrannu i ddarn, eu gweld yn magu hyder wrth iddyn nhw ddod â'u syniadau eu hunain i'r sefyllfa newydd a heriol hon.' Aeth yn ei flaen i ddweud 'Pan mae'r opera'n gorffen a'r ymgysylltwyr yn ymlacio, gallwn ddeall peth mor hyfryd yr ydym wedi ei wneud, stori mor bwysig a gwych yr ydym wedi helpu i'w hadrodd drwy gerddoriaeth.'

Pan ofynnwyd pa gyngor fyddai yn ei roi i gyfansoddwyr uchelgeisiol, dywedodd Boff 'Peidiwch â chyfyngu eich hunan - gwrandewch gyda chlust chwilfrydig, rhowch gynnig ar bethau newydd. Ewch du allan i'ch ffiniau arferol. Heriwch ac addaswch. Ac yn fwy na dim - gwnewch gerddoriaeth y credwch chi sy'n bwysig i'r byd, cerddoriaeth a all ein helpu i ddeall ein gilydd, ac o wneud hynny, a all wneud y byd yn lle gwell.'