Newyddion

The Magic Flute: Cerddoriaeth i leisiau penodol

11 Chwefror 2019

Mae llawer o gyfansoddwyr drwy'r canrifoedd wedi addasu eu cerddoriaeth i wneud y gorau o gantorion 'enwog' y cyfnod. Nid oedd Mozart yn eithriad ac roedd yn benderfyniad pragmatig i gyfansoddwr baru cerddoriaeth gyda chast: gallai soprano enwog ddenu cynulleidfa fwy, felly byddai'r gwaith yn fwy tebygol o gael ei gomisiynu a'i berfformio.

Fe wnaeth Mozart ymestyn hyn trwy addasu ei sgoriau i aelodau gwahanol o'r cast fel y byddai yna fersiynau ar gyfer y cantorion mwy galluog gyda darnau ychwanegol a mwy anodd - i bob pwrpas, rhannau pwrpasol wedi'u creu'n arbennig i weddu i'r cantorion yn berffaith. Gweithred synhwyrol a fyddai hefyd yn y pen draw yn gwella gwaith y cyfansoddwr.

Mae The Magic Flute yn enghraifft arbennig o dda o hyn. Fel opera olaf Mozart, hon oedd ei opera gyntaf i gael ei hysgrifennu yn Almaeneg yn hytrach na'r Eidaleg gonfensiynol, gyda libreto Almaeneg gan ei gyfaill a'r impresario theatr Schikaneder. Roedd hyn yn anelu'r gwaith at gynulleidfa frodorol Wiener (Fiennaidd) fwy poblogaidd, llai uchel-ael. Nid yw'n syndod bod yr opera The Magic Flute wedi cael ei pherfformio am y tro cyntaf mewn theatr faestrefol yn Fienna gan gwmni o gantorion-actorion Schikaneder fel adloniant i'r teulu, na chwaith bod Mozart wedi ysgrifennu'r sgôr i weddu i leisiau a phersonoliaethau'r cwmni, gan fod nifer ohonynt yn ffrindiau neu deulu.

Roedd The Magic Flute yn llwyddiant ysgubol gyda'r cyhoedd yn heidio i'w gweld. Schikaneder oedd yn chware rhan Papageno, ac er nad oedd yn ganwr opera, roedd ganddo fwy o unawdau nag unrhyw un arall. Llwyddodd Mozart i ddatrys hynny: mae'r ddeuawd gyfarwydd Pa Pa Pa gyda Papagena yn cynnwys prin un wythfed yn ei amrediad lleisiol - felly gallai Schikaneder hyd yn oed ei meistroli. Fodd bynnag, ar y pen arall, roedd yn rhaid i aria Brenhines y Nos, o bosibl yr enwocaf o ariâu Mozart, gael ei chanu gan soprano gydag ystod a sgil sylweddol. Yn y perfformiad cyntaf, syrthiodd y dasg o ganu'r aria ar ysgwyddau chwaer-yng-nghyfraith Mozart, Josepha Hofer, a oedd yn adnabyddus am ei gallu i daro'r F uchel anfad yn gyfforddus a manteisiodd Mozart ar hynny. Hyd heddiw, mae gan Aria Frenhines y Nos statws 'bathodyn anrhydedd' ymysg sopranos.