Newyddion

Y Tair Delwedd o Ainadamar

18 Gorffennaf 2023
Credyd: Scottish Opera

Mae’n bryd edrych ymlaen ar Dymor Hydref 2023 Opera Cenedlaethol Cymru, sy’n cynnwys Ainadamar, opera Sbaeneg yn yr 21ain ganrif gan y cyfansoddwr o’r Ariannin, Osvaldo Golijov. Yma, cawn olwg agosach ar strwythur anarferol a dramatig fodern yr opera, sy’n ei gosod ar wahân i operâu eraill. 

Mae stori Ainadamar yn ymwneud â dienyddiad y bardd a’r dramodydd Federico Garcìa Lorca, wedi’i hadrodd trwy ôl-fflachiau cof ei ffrind a’i gydweithiwr artistig, Margarita Xirgu. Penderfynodd David Henry Hwan, libretydd yr opera, rannu’r opera yn dair rhan, neu’n dair ‘delwedd’ fel y mae’n eu galw. Mae pob delwedd yn cynrychioli ffigwr o ryddid yn yr opera; y cyntaf, Mariana Pineda, yr ail, Federico García Lorca, a’r trydydd, Margarita Xirgu ei hun.  

Delwedd Un – Mariana Pineda, Wrwgwai 1969 

Mae’r actores Margarita Xirgu yn paratoi i fynd ar y llwyfan i chwarae’r brif ran yn nrama enwog Lorca, Mariana Pineda, am y tro olaf. Roedd Mariana yn ffigwr hanesyddol go iawn a gafodd ei dienyddio am ei barn yn erbyn brenhiniaeth Sbaenaidd unbenaethol yr 1820au, chwedl am ryddfrydiaeth Sbaenaidd a phrif gymeriad y baledi a ganwyd yn ddiweddarach i blant. 

Yn agor dechreuad pob delwedd operatig mae baled Mariana Pineda o ddrama Lorca, wedi’i chanu gan yr actoresau sy’n canu am y cerrig sy’n crio am farwolaeth Mariana a thollau’r clychau. Mae’n rhagargraff iasol o’r farwolaeth sydd i ddod yn yr opera.   

Wrth aros i fynd ar y llwyfan, mae Margarita yn dweud wrth ei myfyriwr Nuria am ei hatgofion o Lorca, a’i heuogrwydd a’i gofid y gallai hi fod wedi’i achub trwy ei orfodi i ddianc rhag y Rhyfel Cartref newydd yn Sbaen. Mae Ruiz Alonso, swyddog Falangist sy’n canu fflamenco’r blaid ffasgaidd Sbaenaidd, yn torri ar draws cof Margarita, ac mae radio’r wladwriaeth yn mynnu diwedd y chwyldro yn eu herbyn. 

Delwedd Dau – Federico García Lorca, Granada 1936 

Mae’r ail ddelwedd yn cynnwys ôl-fflach cof Margarita o’i hamser gyda Lorca yn ystod Haf 1936, yn union wrth i Ryfel Cartref Sbaen ddechrau ar draws y wlad. Mae Margarita yn erfyn ar Lorca i adael Sbaen gyda hi a’i chwmni theatr am hinsawdd fwy diogel yng Nghiwba, ond mae Lorca yn mynnu aros yn Granada i ddogfennu dioddefaint y bobl.  

Mae Margarita yn cael ei gorfodi i adael Sbaen, ond yn ddiweddarach mae’n dychmygu arestiad Lorca gan y Fangalistiaid, lle caiff ei arwain at y ffynnon o ddagrau, Ainadamar ac yn cael ei saethu ochr yn ochr â dau arall, ymladdwr teirw ac athro.  

Delwedd Tri  – Margarita Xirgu, Wrwgwai 1969 

Mae’r ddelwedd olaf yn dod â ni yn ôl i’r presennol ac yn dangos y fyfyrgar Margarita wrth iddi baratoi ar gyfer marwolaeth. Caiff ei chysuro gan ysbryd Lorca sy’n diolch iddi am barhad ei etifeddiaeth ar ôl ei farwolaeth. Dewisir Nuria i barhau ag etifeddiaeth Lorca ar ôl ymadawiad Margarita. Mae Margarita yn canu ei geiriau olaf: Yo soy la libertad (rhyddid ydw i), geiriau olaf Mariana Pineda, ac yn marw, o’r diwedd yn ymuno â Lorca. 

Bydd Ainadamar yn siwr o greu golygfa afaelgar a chyffrous i bawb: gwnewch yn siwr nad ydych chi’n colli’r cyfle unigryw hwn i brofi angerdd fflamenco, canu traddodiadol Sbaenaidd, barddoniaeth ac eitemau operatig dwys. Gan agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 9 Medi, bydd Ainadamar yn teithio’n ddiweddarach i Landudno, Bryste, Plymouth, Birmingham, Milton Keynes a Southampton hyd at 22 Tachwedd.