Newyddion

Y Walts Fiennaidd mewn Diwylliant Pop

3 Ionawr 2023

Fel sy’n arferol gyda thraddodiad cyngerdd ar Ddydd Calan, mae cyfres gyngherddau Dychwelyd i Fienna Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnwys llawer o Waltsiau Fiennaidd drwy gydol ei rhaglen. Yn un o brif gynheiliaid dawns, cerddoriaeth a ffilm, cawn olwg ar rôl boblogaidd y Walts Fiennaidd a'i dylanwad ar ddiwylliant pop heddiw.

1: The Sleeping Beauty gan Tchaikovsky / Sleeping Beauty Disney

Mae bale Tchaikovsky The Sleeping Beauty (1890) yn gwneud defnydd gwych o lawer o wahanol ddawnsiau drwyddi draw, gan gynnwys walts fawreddog. Mae Act I o’r bale yn dod â’r holl gwmni bale at ei gilydd i ddawnsio y Grande valse villageoise(a elwir hefyd yn The Garland Waltz), dawns ensemble fawr i ddathlu pen-blwydd y Dywysoges Aurora yn un ar bymtheg yn y llys brenhinol. Defnyddiwyd y gerddoriaeth yn ddiweddarach yn Sleeping Beauty gan Walt Disney (1959) a rhoddwyd geiriau iddi gan Jack Lawrence a Sammy Fain. Mae'r gân Once Upon a Dream yn cael ei chanu gan y Dywysoges Aurora a'r Tywysog Philip, ac mae'n gweld y pâr yn cyfarfod am y tro cyntaf. 

2: Harry Potter and the Goblet of Fire

Yn ystod pedwaredd flwyddyn Harry Potter yn Hogwarts, mae Harry, Ron a Hermione yn treulio'r flwyddyn ochr yn ochr â disgyblion o ysgolion dewiniaeth rhyngwladol Beauxbatons a Durmstrang i gystadlu i ennill Twrnamaint Triwizard. Cynhelir y Ddawns Yule sy’n dathlu’r ffaith bod y gymuned hudolus yn dod at ei gilydd ar Noswyl Nadolig, ac mae Harry wedi’i arswydo o glywed y bydd yn rhaid iddo, fel pencampwr Triwizard yr ysgol, agor y ddawns ochr yn ochr â’r pencampwyr eraill a’u partneriaid dawns. Ar ôl sgrialu cyflym i ddod o hyd i bartneriaid, mae Harry a Ron yn mynd i'r ddawns yn gyndyn lle mae walts fawreddog yn cychwyn y dathliadau. Mae Potter Walts y cyfansoddwr Albanaidd Patrick Doyle bellach yn ffefryn yn y neuadd gyngerdd, i'w glywed yn rheolaidd ar y radio, ac mae'n uchafbwynt llawen yn y ffilm lle mae digwyddiadau'n cymryd tro tywyll i Harry a'i ffrindiau. 

3: Strictly Come Dancing 

Mae’r Walts Fiennaidd yn ddawns sy'n ymddangos yn aml ar Strictly Come Dancing y BBC. Perfformiodd pencampwyr sioe 2021, Rose Ayling-Ellis a Giovanni Pernice, Walts Fiennaidd i Fallin' Alicia Keys gan ennill sgôr cyd-uchaf y gyfres ar gyfer y ddawns. Mae'r ddawns ei hun yn osgeiddig ac yn ymddangos yn ddiymdrech, yn galw am wddf hir estynedig, llawer o drawsnewidiadau i mewn ac allan o afael, a symud yn gyflym trwy'r llawr dawnsio. Mae ei adroddiad emosiynol o’r stori yn portreadu chwalfa ramantus, gyda'r agoriad yn dangos y pâr yn cyfathrebu trwy Iaith Arwyddion Prydain cyn lansio i'r walts – y tro cyntaf i BSL gael sylw mewn dawns Strictly.

I glywed meistri gwreiddiol y Walts Fiennaidd mewn cyngerdd a mwynhau cyfansoddiadau fel y Blue Danube Johann Strauss II a’r waltsiau Myrtle Blossoms, ymunwch â ni ar gyfer cyngherddau Dychwelyd i Fienna Cerddorfa WNO, ar daith o amgylch Cymru a Lloegr rhwng 5 – 21 Ionawr 2023.