Newyddion

Byd lliwgar a chymhleth Francis Poulenc

30 Ionawr 2021

Disgrifiwyd Francis [Jean Marcel] Poulenc, cyfansoddwr enwog o Ffrainc, gan yr adolygydd cerddoriaeth Claude Rostand, fel un 'sy'n caru bywyd, direidus, bon enfant, teimladwy a wynebgaled, melancolaidd a chwbl gyfriniol'. Gyda thros 200 o weithiau i'w enw, profodd ei hun mewn ystod o genres, o ganeuon, gweithiau piano a cherddoriaeth siambr i opera a cherddoriaeth gysegredig.

Ganwyd ef i deulu Parisiaidd cyfoethog ar 7 Ionawr 1899, ac etifeddodd Poulenc ddiddordeb artistig a cherddorol gan ei rieni - Emile Poulenc a Jenny Royer. Yn bump oed, cychwynnodd gael gwersi piano gan ei fam, a oedd yn edmygu Mozart, Schubert a Chopin, ac erbyn iddo gyrraedd 14 oed, roedd yn gwybod ei fod eisiau bod yn gyfansoddwr. Roedd gan ei rieni ddiddordeb brwd mewn cerddoriaeth, ac felly roedd partïon yn cael eu cynnal yn aml yn eu cartref, ac yn fuan iawn, cafodd Poulenc gwrdd â'r holl gyfansoddwyr ac artistiaid ffasiynol. 

Er iddo astudio cerddoriaeth yn fras gyda Ricardo Viñes a Charles Koechlin, dysgu ar ei liwt ei hun wnaeth Poulenc gan amlaf. Ni astudiodd erioed yn y Paris Conservatory enwog, nac unrhyw sefydliad cerddorol arall, ac oherwydd hynny, roedd yn fwy heriol iddo gael ei dderbyn gan ei gyfoedion yn hwyrach ymlaen.

Daeth yn seren dros nos yn Ffrainc yn dilyn perfformiad cyntaf ei Rapsodie Nègre ar gyfer bariton a cherddorfa siambr yn Théâtre du Vieux-Colombier - roedd yn 18 oed.

Gwasanaethodd yn y fyddin rhwng 1918-1921, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, cyfansoddodd y gyfres boblogaidd i'r piano, Trois Mouvements Perpétuels. Ar ddechrau'r 1920au roedd yn perthyn i'r grŵp o gyfansoddwyr o Baris, Les Six a arweiniodd y mudiad neo-glasurol, gan wrthod emosiwn Rhamantiaeth a oedd yn rhy boblogaidd. Roedd Louis Durey, Arthur Honegger, Darius Milhaud, Germaine Tailleferre a Georges Auric yn rhan o'r grŵp. Yn ystod y cyfnod hwn daeth Poulenc yn ymwybodol o'i gyfeiriadedd rhywiol. Roedd wedi dioddef ag pryderon personol ers rhai blynyddoedd, a chafodd drafferth gyda hunaniaeth a marwolaethau unigolion oedd yn agos ato.

Erbyn yr 1930au cynnar, ac yntau'n brwydro iselder, collodd Poulenc ei awen gerddorol. Drwy ail-ddarganfod ei ffydd Gatholig, llwyddodd i ryddhau ei ysbryd, enaid a'i gerddoriaeth. Trodd ei gefn ar gyfansoddi gweithiau ysgafn eu naws, a chychwynnodd ysgrifennu cerddoriaeth grefyddol, a llwyddo i ddod yn un o gyfansoddwyr crefyddol a cherddoriaeth gorawl mwyaf y ganrif. Mae rhai o'i brif weithiau crefyddol yn cynnwys Mass in G (1937), Stabat Mater (1950) a Gloria (1959). Yn ogystal, ysgrifennodd yr opera grefyddol, The Dialogues of the Carmelites (1957) ac opera drasiedi un-act ar gyfer soprano, La voix humaine (1959).

Bu farw Poulenc ym Mharis ar 30 Ionawr 1963 yn 64 oed, a gadawodd gatalog amrywiol o gerddoriaeth ar ei ôl, oedd yn gyfoethog o gyferbyniadau diddorol, dylanwadau modernaidd a synau poblogaidd o neuaddau cerdd Parisaidd, gydag islifau seciwlar pryfoclyd. Ysgrifennodd dair opera, ac mae pob un wedi cael eu hadfywio'n rheolaidd.