Newyddion

Tri yw'r Rhif Hud

26 Mawrth 2019

Drwy gydol hanes dynoliaeth, mae arwyddocâd unigryw wedi bod i'r rhif tri. Ond pam?

Roedd Pythagoras, yr athronydd o hen wlad Groeg, o'r farn fod ystyr hynod arwyddocaol i rifau. Yn ei lygaid ef, roedd y rhif tri yn rhif perffaith; rhif cytgord, doethineb a dealltwriaeth. Tri oedd rhif amser hefyd - y gorffennol, y presennol, y dyfodol; genedigaeth, bywyd, marwolaeth; dechrau, canol, diwedd - dyma oedd y rhif dwyfol.

Yn aml, tri yw'r rhif hud mewn straeon tylwyth teg, ac mae hyn yn bendant yn wir yn ein cynhyrchiad 'gweledol foethus' (Wales Arts Review) o The Magic Flute hynod boblogaidd Mozart. 

Caiff ein tywysog hawddgar, Tamino, ei achub rhag cimwch mawr oren gan Dair Foneddiges - morwynion Brenhines y Nos - wedi'u gwisgo fel mamaethod neu athrawesau cartref, ac mae hynny'n nodi dechrau ei daith o hunanddarganfod a goleuedigaeth. Yn ystod ei daith, caiff ei dywys gan Dri Bachgen sy'n ei arwain i deml Sarastro (dim ond yn nheyrnas Sarastro mae'r ysbrydion yn ymddangos).

Mae'r rhif tri hefyd yn gysylltiedig â'r Seiri Rhyddion, yr oedd Mozart a'i libretydd Schikaneder yn aelodau ohonynt, ac mae'r thema tri yn ymddangos dro ar ôl tro yn y darn - ar y llwyfan ac ym mhwll y gerddorfa.

Mae'r agorawd ar ddechrau'r opera wedi'i hysgrifennu yn Eb Fwyaf, sydd â thri meddalnod, ac mae'n dechrau gyda thair amnaid gordiol, yn dynwared y gnoc gyfrinachol y byddai Seiri Rhyddion wedi'i defnyddio yn Fienna bryd hynny i gael mynd i mewn i'w Cyfrinfeydd.

Dyluniwyd ein cynhyrchiad cyfareddol gan Julian Crouch, ac fe bwysleisiodd y rhif hud drwy gael tri drws ym mhob un o dair wal y set. Mae cryfder, harddwch a doethineb hefyd yn symboleiddio tair colofn fawr y Cyfrinfeydd. Mae arysgrifau ar y tair teml yn cyfeirio at Natur, Rheswm a Doethineb, sydd hefyd â tharddiad Saeryddol. I Fieniaid y cyfnod, roedd symbolaeth wleidyddol yn cael ei dehongli'n rhwydd ac yn eang. Iddyn nhw, roedd Brenhines y Nos yn cynrychioli eu Hymerodres eu hunain, Maria Theresa; roedd yr arwr, Tamino, yn cynrychioli'r Ymerawdwr "da", Joseff; ac roedd yr arwres, Pamina, yn cynrychioli pobl Awstria. 

Roedd Pythagoras o'r farn fod y rhif tri yn cynrychioli lwc dda, ac yn dilyn adolygiadau diweddar o'n hadfywiad, rydym yn cytuno. Wedi i'r beirniad ei ddisgrifio fel ‘an unabashedly entertaining evening of operatic pantomime’ (Bachtrack), peidiwch â cholli'r cyfle i weld ein dehongliad o stori aeddfedu Mozart ynghylch mewn theatr yn eich cyffiniau chi'r Tymor Gwanwyn hwn.