Newyddion

Y pum darn gorau o gerddoriaeth glasurol i blant

25 Chwefror 2022

Gall y byd cerddoriaeth glasurol ymddangos fel pydew anferth brawychus, yn enwedig i glustiau bach. O symffonïau i goncertos, preliwdiau i ffiwgiau, ble ar y ddaear yw’r lle gorau i ddechrau? Cyn ein cyfres Chwarae Opera yn FYW o gyngherddau rhyngweithiol ar gyfer yr ifanc, a’r ifanc eu hysbryd, rydym wedi creu rhestr o bum darn gwych o gerddoriaeth sy’n sicr o ysbrydoli a chyffroi eich plantos bach.

1) Tchaikovsky – Dance of the Sugar Plum Fairy

Wedi’i gymryd o fale Nadolig enwog Tchaikovsky, The Nutcracker, dyma’r trac sain delfrydol i unrhyw falerinas ifanc sydd eisiau ymarfer pwyntio eu traed a phirwetau. Mae’r brif thema fyrlymus a’r awyrgylch hudolus yn cael ei chreu gan offeryn o’r enw celeste. Mae'n creu'r awyrgylch perffaith i'ch dawnswyr tlws drawsnewid eu hunain yn dylwyth teg plwms siwgr a cherdded ar flaenau’u traed trwy erddi hudolus, yn union fel Clara yn The Nutcracker.

2) Beethoven - Fur Elise

Y darn eiconig hwn o gerddoriaeth yw un o’r darnau piano enwocaf yn y byd. Mae’r motiff cylchol cain, ond bachog, yr ydym yn siŵr y byddwch wedi’i glywed o’r blaen, yn ddigon cofiadwy i ddal sylw’r hen a’r ifanc. Peth arall da yw ei fod yn gymharol hawdd i’w ddysgu ar y piano - hyd yn oed i fysedd bach!

3) Stravinsky – Firebird Suite

A oes gennych chi rai bach sy’n caru darllen? Neu sydd wrth eu bodd gyda hud stori dda? Os felly, Firebird Suite, Stravinsky yw’r cyfansoddiad i chi. Gydag alawon gwerin Rwsiaidd a rhythmau tebyg i ddawns, mae Stravinsky yn adrodd y stori dylwyth teg swynol Rwsiaidd am yr Eurgeg (Firebird). Ym mha ran o’r gerddoriaeth allwch chi glywed y Tywysog Ivan yn achub y dywysoges hardd? Allwch hi glywed yr eurgeg hudolus wrth iddo ddianc rhag crafangau'r drygionus Kastchei?

4) Alan Silvestri – Arwyddgan The Avengers

Wedi’i gymryd o ffilmiau hynod lwyddiannus Marvel, bydd y darn campus, arwrol a chyffrous hwn o gerddoriaeth yn trawsnewid eich rhai bach yn archarwyr sy’n achub y byd. Gyda rhythmau ysgogol yn y llinynnau ac adran bres bwerus, mae’r brif thema yn gweithredu fel cynrychioliad sonig o’r cymeriadau ac mae i’w chlywed yn y ffilmiau i gyd. Faint o weithiau allwch chi glywed y darn hwn o gerddoriaeth wrth wylio?

5) Bernstein – Mambo (o West Side Story)

Wedi’i gyfansoddi gan yr enwog Leonard Bernstein, dyma Fambo sy’n siŵr o wneud i chi dapio eich traed. Mae'r offerynnau taro amlycaf gyda’u rhythmau trawsacennog bywiog yn ddigon i swyno unrhyw ddrymwyr ifanc, a bydd yr adran bres egnïol yn siŵr o ysbrydoli cenhedlaeth y dyfodol o chwaraewyr trymped a thrombôn.

Dyma ddechrau darganfyddiad eich plantos o gerddoriaeth glasurol felly os oes gennych ddiddordeb mewn clywed rhai o’r darnau hyn yn fyw ymunwch â ni ar gyfer ein cyngherddau rhyngweithiol, Chwarae Opera YN FYW sy’n mynd ar daith i bum lleoliad gwahanol yn y DU. Dyma’r ffordd berffaith i ddechrau taith cerddoriaeth glasurol ac opera eich cerddorion ifanc.