Newyddion

Tosca neu Candide: pa Opera yw’r un i chi?

23 Gorffennaf 2025

Mae ein Tymor yr Hydref 2025 hirddisgwyliedig ar y gorwel, ac mae gennym ddau gynhyrchiad sydd yr un mor wefreiddiol â’i gilydd ar eich cyfer! Fodd bynnag, mae’r Tosca torcalonnus a’r Candide disglair yn wahanol iawn i’w gilydd, gyda gwrthgyferbyniadau o safbwynt cerddoriaeth, themâu a thu hwnt. Mae’n bosib y bydd hyn yn eich gadael yn pendroni ‘pa opera yw’r un i mi?’. Darllenwch ymlaen er mwyn canfod yr ateb...

Tosca, 2023 (Opera North) a Candide, 2023 (WNO)

Tosca

Os ydych chi’n hoff o ddrama, cyffro a thrasiedi, bydd Tosca yn siŵr o blesio. Mae’r opera wedi’i lleoli yn Rhufain ac yn cylchdroi o amgylch y cariadon Floria Tosca a Mario Cavaradossi, a hefyd Scarpia, y Pennaeth Heddlu annifyr sydd eisiau Tosca iddo’i hun. Gyda fföwr gwleidyddol hefyd yn rhan o’r stori, mae’n llawn drama a thensiwn, ac yn siŵr o’ch cael ar flaen eich sedd o’r dechrau i’r diwedd.

Caiff Tosca ei chanu mewn Eidaleg, felly mae’n ddewis da os ydych chi’n mwynhau operâu Eidaleg, yn arbennig rhai eraill sydd wedi’u cyfansoddi gan Puccini megis La bohème a Madam Butterfly. Mae hi hefyd yn hyn y byddai nifer yn ystyried yn un o’r operâu mwyaf eiconig, felly mae’n lle gwych i ddechrau os ydych chi’n newydd i opera. Yn llawn ariâu hardd, teimladwy megis Vissi d’arte ac E lucevan le stelle, bydd y gerddoriaeth yn eich dwyn i galon emosiwn yr hanes. Os ydych chi’n un am golli deigryn, yna gwnewch yn siŵr bod gennych chi hancesi wrth law!

Yn olaf, ar gyfer y rhai hynny ohonoch sydd â diddordeb mewn dylunio, mae’r perfformiad yn gwbl drawiadol yn weledol. Y nodwedd amlycaf o’r set yw cromen aur anferthol gyda ffresgo o Fair Magdalen wedi’i baentio ar y tu mewn, sy’n llenwi’r llwyfan â’i bresenoldeb ysblennydd. Ceir hefyd defnydd clyfar iawn o oleuni a thywyllwch er mwyn helpu i greu awyrgylch sy’n newid. Yn ei hanfod, mae’n wledd i’r llygaid.

Tosca, 2023 (Opera North)

Candide

Mae Candide, ar y llaw arall, yn berffaith ar gyfer y rhai sydd eisiau mynd ar antur. Yn llawn bywiogrwydd a phrysurdeb, mae’r stori, a ysgrifennwyd yn wreiddiol gan Voltaire, yn eich trawsgludo chi i nifer o lefydd gan gynnwys Lisbon, Paris, Buenos Aires a Fenis. Yn ystod y daith hon o amgylch y byd, mae’r Candide diniwed a’i ffrindiau yn wynebu pob math o helbulon wrth iddynt ddysgu mwy am fywyd nag y gallent erioed fod wedi gwneud gan Dr Pangloss, eu hathro ac athronydd eithaf annoeth. Mae’r stori yn un hynod ddifyr, os nad yn abswrd ar adegau, ond mae hefyd yn un ddofn, sy’n eich annog chi i fyfyrio ar eich lle yn y byd.

Byddem hefyd yn argymell Candide os ydych chi’n un sy’n hoff o sioeau cerdd. Wedi’i chyfansoddi gan Bernstein, y dyn sy’n gyfrifol am West Side Story ac On The Town, mae Candide yn cyfuno mwy nag un genre, heb fod wir yn disgyn i gategori opera na sioe gerdd ychwaith, ond yn dwyn ynghyd y gorau o’r ddau fyd. Felly, os ydych chi’n ansicr p’un a yw opera glasurol yn addas i chi, beth am roi cynnig ar yr un yma? Mae’n gwbl bosib y gwnewch chi syrthio mewn cariad â hi!

Un gydran sy’n gwneud i’n cynhyrchiad o Candide wirioneddol serennu yw’r defnydd o animeiddiadau. Drwy gydol yr holl berfformiad, caiff animeiddiadau cywrain a lliwgar, wedi’u creu gan y darlunydd a’r animeiddiwr Grégoire Pont, eu taflunio ar gadwyni sy’n hongian o’r llwyfan. Mae’r anemeiddiadau hyn yn helpu i ddod â’r stori’n fyw, gan drawsffurfio’r gofod yn llwyr gyda phob golygfa. Felly, os ydych chi’n rhywun sy’n mwynhau gwrando ar straeon yn cael eu hadrodd mewn modd creadigol, rydym ni’n credu y byddwch wrth eich bodd gyda Candide!

Candide, 2023 (WNO)

Felly, beth fyddwch chi’n ei ddewis? Y ddrama neu’r daith? Y clasurol neu’r hybrid? Gadewch i ni wybod. A chofiwch, os na allwch chi benderfynu, mi allwch chi wastad roi cynnig ar y ddwy!

#WNOtosca  #WNOcandide