Newyddion

Cast ynteu Ceiniog… Ein hoff dwyllwyr o’r Byd Opera

31 Hydref 2024

Eisiau rhywbeth ychydig yn llai sinistr ac ofnus am Galan Gaeaf eleni? Yn y byd opera, mae llu o gymeriadau busneslyd i fynd â’ch (ys)bryd. Dyma rai o hoff dwyllwyr operatig Opera Cenedlaethol Cymru – maen nhw’n llai brawychus na’r rheiny mewn ffilmiau arswyd, ond yr un mor ddrygionus a thrafferthus.


Despina o Così fan tutte

Yn opera aruchel Così fan tuttegan Mozart, mae Guglielmo a Ferrando yn gwneud bet gyda’u tiwtor Don Alfonso, sy’n mentro dweud mai anwadal yw’r cariad gan unrhyw ferch ac mai buan iawn y byddai eu cariadon (y chwiorydd Fiordiligi a Dorabella) yn eu twyllo nhw pe baen nhw’n mynd. Mae Despina, sef morwyn y merched, yn helpu Don Alfonso i ennill y bet drwy gyflwyno dau ddieithryn deniadol i’r merched. Mae’r merched yn eu ffansio nhw ar ôl rhywfaint o berswâd (Guglielmo a Ferrando ydyn nhw go iawn, wedi newid eu gwedd). Yna, mae’r bechgyn yn smalio cymryd gwenwyn i gael y merched i gydymdeimlo. Daw Despina, mewn dillad meddyg, i’w hachub gan ddefnyddio pŵer Mesmeriaeth i wella’r ddau fachgen, er mawr ryddhad i’r ddwy chwaer.


Norina o Don Pasquale

Yn Don Pasquale gan Gaetano Donizetti, Norina yw nith Dr Malatesta ac mae hi mewn cariad efo Ernesto. Nid yw ewythr Ernesto, Don Pasquale yn rhy hapus. Mae’n fwriad gan Pasquale briodi fel bod etifedd yn torri Ernesto o’r ewyllys. Felly, er mwyn cael llaw Ernesto, mae Norina yn dynwared chwaer Malatesta, ‘Sofronia’ ac yn priodi Pasquale mewn seremoni ffug. Unwaith mae hi wedi priodi, mae hi’n gwario arian Pasquale ac yn gollwng nodyn sy’n datgelu ei bod hi’n cyfarfod â’i charwr (Ernesto). Mae Pasquale yn eu dal nhw efo’i gilydd ac mae’r ‘Sofronia’ yn datgelu mai hi yw Norina wedi’r cwbl – mae popeth yn cael ei faddau a’r briodas yn cael ei diddymu – mae Norina yn cael ei ffordd ac yn priodi ei hannwyl Ernesto.


Figaro a Susanna o The Marriage of Figaro

Figaro a Susanna yw’r cwpl pwerus sy’n gyrru plot Mozart yn The Marriage of Figaro(1786). Mae’r Iarll yn ffansio dyweddi Figaro, sef Susanna, felly mae Figaro yn anfon llythyr dienw ato yn ei rybuddio i gadw draw ac yn datgelu natur odinebus yr Iarll drwy anfon Cherubino (gwas bach yr Iarll) i gyfarfod â’r Iarll ac yntau wedi gwisgo fel Susanna. Mae cymar Figaro, Susanna (sydd yr un mor gyfrwys), yn cynllwynio gyda gwraig yr Iarll, ei meistres yr Iarlles Almaviva, ac mae’r ddau yn llunio llythyr cariadus at yr Iarll, yn ei dwyllo i ddod i gyfarfod â Susanna am hanner nos (ac yn datgelu mai’r Iarlles yw hi).


Gianni Schicchi o Gianni Schicchi (Il trittico)

Efallai mai cymeriad Gianni Schicchi gan Puccini yw’r twyllwr mwyaf yn y byd opera. Pan fydd teulu y diweddar Buoso Donati yn sylweddoli nad ydi o wedi gadael dim byd iddyn nhw, maen nhw’n wallgof ac yn gofyn am help Gianni Schicchi, twyllwr adnabyddus yn Florence, i’w helpu nhw gael cynnwys yr ewyllys yn ôl i’w hunain. Pan ddaw hi’n amser ysgrifennu’r ewyllys eto ar gyfer y notari, mi gawn nhw sioc gweld bod Gianni Schicchi yn anonest ac yn gadael y tiroedd a’r stadau mwyaf gwerthfawr iddo fo’i hun!


Awydd mwy o’r cnafon cyfrwys yma? Dyma eich cyfle olaf i wel cynhyrchiad adnabyddus WNO o Gianni Schicchiyn yr Hydref yn Theatr Mayflower, Southampton ddydd Mercher, 13 Tachwedd 2024. Gallwch weld Figaro yng nghanol y cyfan pan fydd hoff gynhyrchiad WNO o The Marriage of Figaro yn agor Tymor y Gwanwyn 2025 o 6 Chwefror 2025.