Mae ein cynhyrchiad newydd eleni, War and Peace, wedi syfrdanu cynulleidfaoedd gyda'i graddfa, o’r setiau a’r gwisgoedd i’r nifer o bobl sy’n rhan o’r cynhyrchiad ar y llwyfan, yn y pwll a thu ôl i’r llenni.
Mae’r Rheolwr Llwyfan, Katie Heath-Jones yn rhoi persbectif o du ôl i’r llwyfan i ni ar yr opera drawiadol hon.
Mae War and Peace yn epig wrth ystyried y nifer o bobl sydd ar y llwyfan ar yr un pryd. Mae cyfanswm o 78 o berfformwyr ar y llwyfan – 13 o brif gantorion, saith o ddawnswyr, 36 aelod o’n corws llawn amser ac aelodau ychwanegol sy’n ymestyn y nifer i 58. Mae hyn yn lawer o bobl i ofalu amdanynt ac maent yn chwarae gymaint o gymeriadau gwahanol. Mae llawer o’n prif berfformwyr yn chwarae tair neu bedair rhan ac mae'r corws yn chwarae unrhyw beth o Filwr Ffrengig / Milwr Rwsiaidd / Gwerinwr – mae’r rhestr yn mynd ymlaen. Mae’r wal o sŵn maent yn ei greu pan mae pawb yn canu yn anhygoel, yn enwedig yn y corws cyntaf.
Nid yw cydlynu’r perfformwyr mor anodd a fyddai rhywun yn meddwl. Mae ein is-reolwr Llwyfan, Sava, yn galw pawb i gefn llwyfan mewn digon o amser ar gyfer eu mynediad ac mae Annabel, ein Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol (Propiau), yn sicrhau bod ganddynt ba bynnag bropiau maent angen, boed yn wn, yn fflag neu’n groen arth! Mae gennym reolwyr llwyfan ar bob ochr sy’n rheoli pryd mae pawb, y cast a’r corws, yn dod ar ac oddi ar y llwyfan. Mae’r gwisgoedd yn rhan fawr o’r sioe hefyd. Fel soniwyd eisoes, mae rhan fwyaf o’r prif berfformwyr yn chwarae tair neu bedair rhan wahanol – sy’n golygu newid gwisg a wig nifer o weithiau. Mae un man penodol ble rwyf yn cyfrif faint o dudalennau o gerddoriaeth sydd ar ôl gan y cantor cyn bod angen dychwelyd ar y llwyfan fel cymeriad gwahanol.
O ran llwyfannu, rydym yn ffodus iawn bod gan ein theatr gartref, Canolfan Mileniwm Cymru, un o lwyfannau mwyaf y wlad, ond mae hynny’n cyflwyno heriau pan rydym yn mynd ar daith gan nad oes gan y lleoliadau eraill lwyfan mor fawr. Ar gyfer y sioe hon rydym wedi gorfod newid sawl peth, er enghraifft ochr y llwyfan ble mae’r dodrefn mwyaf yn dod i mewn, a lle’r ydym yn gwneud y newidiadau cyflym. Rydym yn ceisio meddwl ymlaen pan yr ydym yng Nghaerdydd ond weithiau mae pethau’n digwydd ar ddiwrnod y sioe ac mae’n rhaid bod yn barod i addasu a meddwl yn greadigol.
Er enghraifft, wal fawr bren sy’n hedfan i mewn ac allan i greu golygfeydd gwahanol yw un o brif rannau'r set. Pob tro mae’n hedfan i mewn, mae llawer iawn o bobl oddi tani – felly rwyf o hyd ar ochr y llwyfan er mwyn sicrhau bod pawb yn glir, ac i’w rhwystro rhag mynd yn rhy agos at unrhyw un os oes angen. Pan ar daith, mae union leoliad y wal a’r ffordd y mae’n dod ar y llwyfan yn amrywio o wythnos i wythnos, felly rhaid dweud wrth y perfformwyr os oes angen iddynt sefyll mewn mannau gwahanol, er mwyn cadw pawb yn ddiogel.
O ystyried yr holl elfennau wahanol sy’n rhan o’r cynhyrchiad hwn, mae’n wych cyrraedd diwedd perfformiad, yn enwedig pan fydd wedi mynd yn dda. Mae’n noson hir i’r traed – pedair awr, mwy neu lai – ond mae’n wych gweld pawb, y perfformwyr a'r criw tu ôl i’r llenni yn dod ynghyd i wneud i’r sioe weithio.
Dim ond dau berfformiad o War and Peace sydd ar ôl felly ceisiwch weld yr opera anhygoel yma os allwch chi.