Newyddion

War and Peace yn dychwelyd yr haf hwn

4 Chwefror 2019

Yr Hydref diwethaf, fe gafodd gynulleidfaoedd eu rhyfeddu gan War and Peace. Ar raddfa mor epig â'r nofel ei hun - gyda setiau a gwisgoedd a thros 270 o bobl yn rhan o'r cynhyrchiad, naill ai ar y llwyfan, yn y pwll neu'r tu ôl i'r llenni;  ni allem feddwl am well ffordd o anrhydeddu'r opera fawreddog hon na mynd â hi i lwyfan ysblennydd y Tŷ Opera, Llundain am ddau berfformiad arbennig yr haf hwn, ar 23 a 24 Gorffennaf.

I'n hatgoffa o'r campwaith hwn, dewch inni gael clywed am y gerddoriaeth a'r ysbrydoliaeth tu ôl i'r cynhyrchiad gan Harry Ogg, Arweinydd Cynorthwyol War and Peace yn ystod Tymor yr Hydref.

'Mae cryn gyferbyniad rhwng cerddoriaeth fynegiadol, mwy anghyseiniol Prokofiev - megis y gerddoriaeth a geir yn y ddau concerto cyntaf i'r piano - ac arddull neoramantaidd, melodaidd Peter and the Wolf a'i Symffoni Rhif 1. Wrth gwrs, mae'r ddeuoliaeth amlwg rhwng y cysyniadau o 'heddwch' a 'rhyfel' yn yr opera hon yn cynnig llwyfan naturiol ar gyfer y fath gyferbyniad o ran arddull.’

'Un peth a gafodd ddylanwad mawr ar yr opera hon oedd y gyfundrefn Sofietaidd ei hun, a oedd yn awyddus i ysbrydoli ei dinasyddion yn erbyn y goresgyniad Natsïaidd a ddechreuodd ym 1941, pan oedd yr opera hon yn dal yn cael ei hysgrifennu. Fe gafodd Prokofiev ei annog gan Bwyllgor Celfyddydau yr Undeb Sofietaidd i gynnwys rhagor o ymdeithganau gorfoleddus a chytganau cyffrous, ac mae'r canlyniad yn ddiddorol iawn - ar yr olwg gyntaf, ymddengys cerddoriaeth yr ychwanegiadau hyn yn syml, ond yn sail iddi y mae gwaith cyfansoddi harmonig, hynod gyfoethog. Mae'n rhyfeddol, yn gymhleth ac yn llawn dioddefaint.’

‘Rydym yn defnyddio golygiad newydd o'r opera sy'n seiliedig ar fersiwn wreiddiol Prokofiev gan y cerddolegwyr Katya Ermolaeva a Rita McAllister, gydag ychwanegiadau o adolygiadau diweddarach y cyfansoddwr. O ganlyniad, mae gennym opera dra arbennig. Mae'n ceisio creu fersiwn o'r opera sy'n ymarferol i'w pherfformio ac hefyd yn rhoi syniad go dda o fwriadau gwreiddiol Prokofiev cyn dylanwad y Sofietiaid. Roedd y fersiwn hon hefyd yn cynnwys cyfieithiad Saesneg newydd, sy'n wych yn fy marn i gan ei fod yn galluogi'r gynulleidfa i gael profiad o'r opera epig hon gyda chysylltiad uniongyrchol i'r ddrama drwy'r geiriau.’

'Roedd fel gweithio ar opera newydd - roedd mân-newidiadau'n cael eu gwneud o hyd, boed ar ffurf awgrymiadau newydd ar gyfer y cyfieithiad neu ar ffurf addasiadau bychain i doriadau neu strwythur y gerddoriaeth a'r golygfeydd. Roedd yn gryn dipyn o waith, ond yn gyffrous iawn! Ychwanegwch at hynny gast anferth, cerddorfa ac opera ragorol - roedd rhaid i bawb oedd yn rhan o'r opera roi 110% er mwyn cael gwynt dan adain y prosiect, rwy'n credu. Roedd yn dipyn o dasg, ond roedd yn wych ei weld yn hedfan yn braf!'

Harry Ogg, Arweinydd Cynorthwyol War and Peace

Bydd blaenoriaeth archebu i War and Peace ar gael i Gyfeillion a Phartneriaid WNO o 9am ar 19 Chwefror 2019.