Mae’r flwyddyn newydd yn gychwyn cyfnod newydd i Adele Thomas a Sarah Crabtree, wrth iddynt gydweithio fel Cyd-Brif Swyddogion Gweithredol/Cyfarwyddwyr Cyffredinol Opera Cenedlaethol Cymru.
Yn ddiweddar cyfarwyddodd Adele Thomas, cyfarwyddwr theatr ac opera byd enwog, gynhyrchiad newydd WNO o Rigoletto, Verdi, tra bod y cynhyrchydd llawn gweledigaeth, Sarah Crabtree yn ymuno â’r Cwmni o The Royal Ballet and Opera, lle bu yn Gynhyrchydd Creadigol a Phennaeth Theatr Linbury (opera).
Mae Adele a Sarah yn rhannu’r swydd yng ngwir ystyr y gair, gan oruchwylio cyfeiriad a rheolaeth artistig y Cwmni yn gyfartal.
Wrth siarad am eu swydd newydd, dywedodd Adele Thomas a Sarah Crabtree:
‘Datblygodd Opera Cenedlaethol Cymru allan o ffrae danllydrhwng dau rym diwylliannol: yr ysbryd democratiaeth wedi’r rhyfel ac obsesiwn llawr gwlad Cymru â'r llais dynol wrth ganu. Mae’r endidau chwyldroadol hyn yn sail i'r ffordd yr ydym am ail-ddychmygu WNO fel cwmni opera y dyfodol. Gyda’i wreiddiau yng Nghymru, ond ei gyrhaeddiad a’i ddylanwad y tu hwnt, rydym am i WNO fod yn sefydliad celfyddydol arloesol, dewr a chyfoes o fewn ecoleg celfyddyd byw y DU, yn chwilio am amrywiaeth gwell ar ein llwyfannau ac ymysg ein cynulleidfaoedd, ac yn cwestiynu yr hyn y gall opera fod yn y byd modern.
‘Er bod dyfodol opera yng Nghymru a’r DU erioed wedi edrych mor enbyd, gydag adegau argyfyngus daw cyfleoedd gwych; mae’n anrhydedd i ni gael symud y Cwmni gwych yma ymlaen i’w bennod nesaf. Rhai o uchafbwyntiau’r tymor sydd i ddod yw dychwelyd i Abertawe am y tro cyntaf mewn degawd, a chynhyrchiad newydd hir-ddisgwyliedig o Peter Grimes, gyda chast o’r radd flaenaf, gan gynnwys rhai o artistiaid gorau Cymru o’u cenhedlaeth.’