Newyddion

Cerddoriaeth Gymreig mewn diwylliant poblogaidd

14 Mawrth 2023

Mewn cynhyrchiad a fydd yn dod â’r teimlad da i lwyfannau ledled Cymru a Lloegr y Gwanwyn hwn, bydd sioe newydd sbon Opera Cenedlaethol Cymru, Blaze of Glory! yn cynnwys caneuon ac emynau traddodiadol Cymreig, fel Gwahoddiad, Yn y Man a Llef ochr yn ochr â cherddoriaeth gospel, iodlo a mwy.

Nid dyma’r tro cyntaf i gerddoriaeth Gymraeg gael ei defnyddio i ddod â straeon yn fyw, i greu ychydig o ddrama neu i roi rhyddhad ysgafn, ac mae’n siŵr nad dyma’r olaf.

Mae cyfres lwyddiannus Netflix, Wednesday, sy’n dilyn bywyd Wednesday Addams yn Nevermore Academy, yn cynnwys yr alaw werin Gymreig hynafol Y Pêr Oslef. Wrth i Wednesday ymweld â Pilgrim World yn y drydedd bennod, gallwch glywed y dôn, a elwir weithiau yn Rhisiart Annwyl, yn y cefndir.

Ym 1964, canwyd yr anthem herfeiddiol Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech, sy’n adrodd hanes gwarchae Castell Harlech yng Nghymru, yn y ffilm ryfel epig Zulu. Tua diwedd y ffilm, pan fydd rhyfelwyr y Zulu yn agosáu at yr orsaf, maent yn cychwyn llafarganu siant rhyfel ac mae milwyr Prydain yn ymateb trwy ganu Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech, gan greu un o eiliadau mwyaf eiconig sinema.

Mae’r cyfarwyddwr Steven Spielberg hyd yn oed wedi ildio i swyn cerddoriaeth Gymreig wrth gynnwys yr hwiangerdd draddodiadol, Suo Gȃn, yn ei ffilm 1987 Empire of the Sun. Mae'r dôn yn chwarae rhan amlwg yn y ffilm; pan mae Jim (Christian Bale ifanc) yn gweld grŵp o beilotiaid o Japan yn paratoi ar gyfer defod kamikaze, mae’n rhoi salîwt ac yn canu’r dôn iddyn nhw.

Mae un o ganeuon enwocaf Cymru, Myfanwy, wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau gan gynnwys How Green was my Valley, enillydd sawl gwobr Academi, yn ogystal â’r ffilm Twin Town o Abertawe. Mae hefyd yn cael ei chanu yn y ffilm fywgraffyddol Gymraeg o 1992 Hedd Wyn. Er mawr syndod, caiff ei chwarae a’i drafod mewn pennod o Midsomer Murders yn ystod ymweliad â Chymru gan dditectifs o bentref Seisnig.

Wedi’i ddisgrifio fel ‘bariton cryf, cadarn’, gellir dadlau bod Syr Tom Jones yn un o allforion mwyaf poblogaidd Cymru ac mae ei ganeuon wedi ymddangos mewn llawer o ffilmiau a rhaglenni teledu. Yn y ffilm serennog Mars Attacks! mae Jones hanner ffordd trwy It’s Not Unusual pan fydd estroniaid yn torri ar draws ei gyngerdd. Mae'n amhosib sôn am It's Not Unusual a pheidio meddwl am Tom Jones yn cael ei ddatgelu fel Angel Gwarcheidiol Carlton Banks mewn pennod o The Fresh Prince of Bel Air mewn golygfa sy'n gweld y pâr yn perfformio deuawd o gân boblogaidd y Cymro ac yn gwneud 'The Carlton Dance'.

Daeth Only Boys Aloud â Calon Lȃn i’r lluoedd pan berfformion nhw’r emyn hyfryd Gymreig yn eu clyweliad ar gyfer Britain’s Got Talent yn 2012. Cyrhaeddodd y côr ifanc yr holl ffordd i'r rownd derfynol gyda'u perfformiad, gan golli allan i'r act cŵn dawnsio Ashleigh a Pudsey a'r deuawd clasurol Jonathan a Charlotte. Eu perfformiad yn y rownd derfynol yw'r fideo Cymraeg gyda’r nifer uchaf o wylwyr ar YouTube.

Mae Calon Lȃn hefyd yn ymddangos yn Blaze of Glory! sy'n teithio y Gwanwyn hwn, gan ymweld â Chaerdydd, Llandudno, Milton Keynes, Bryste, Birmingham a Southampton. Peidiwch â cholli’r cyfle i glywed y darn hyfryd hwn a chaneuon traddodiadol Cymreig eraill yn fyw gan ein cast a’n Cerddorfa dalentog.