Pan ymddangosodd The Marriage of Figaro am y tro cyntaf ym 1786, achosodd gryn dipyn o gynnwrf. Cafodd y ddrama wreiddiol, gan Pierre Beaumarchais, ei gwahardd yn Vienna am watwar yr aristocratiaid. Gyda chwyldro ar droed ledled Ewrop, roedd gan y rheolwyr reswm dros fod yn nerfus.
Ysgafnhaodd libretydd Mozart, Lorenzo Da Ponte, y rhannau mwyaf pryfoclyd er mwyn osgoi’r sensoriaeth. A beth oedd ar ôl? Stori sy’n dal yn hynod berthnasol heddiw, yn llawn twyll, cyfrinachau, cynlluniau i ddial a phriodasau dramatig. Swnio’n debyg i opera sebon, ond gallwn eich sicrhau mai Mozart ydyw!
Felly, sut y gall yr opera hon o’r 18fed ganrif ddweud pethau wrthym am ein bywydau yn yr 21ain ganrif?
Yn rhyfeddol, gall ddweud llawer iawn!
Gwers 1: Safle a Grym
Yn ganolbwynt i Figaro mae’r Iarll Almaviva, dyn sydd yn amlwg wedi diystyru ei holl hyfforddiant AD gorfodol. Ar ddiwrnod priodas Figaro â Susanna, mae’r Iarll yn ceisio swyno’r briodferch.
Nid yw Susanna a Figaro yn derbyn hyn. Gyda’i gilydd, maent yn dyfeisio cynllun er mwyn ei ddal. Ac mae'n gweithio.
Dyma rywbeth bythol i’n hatgoffa nad yw statws yn cyfateb i rinwedd. Hyd yn oed heddiw, rydym yn delio â meistri gwenwynllyd, gwahaniaethu ar sail dosbarth a cham ddefnyddio grym yn rheolaidd. Mae Figaro yn dangos i ni fod meddwl chwim a gonestrwydd yn fwy o werth nag unrhyw deitl.

Gwers 2: Mae pawb yn haeddu llais
Fel opera o’r 18fed ganrif, mae The Marriage of Figaro yn radical. Nid yw’n canolbwyntio ar yr aristocratiaid. Mae’n rhoi sylw amlwg i’r gweision. Mae’r llinellau doniolaf, yr ariâu mwyaf cyffrous a’r cynlluniau mwyaf medrus i gyd gan y staff.
Mae Susanna yn strategydd gwych. Mae’r Iarlles, er ei bod wedi torri’i chalon, yn aros yn hunanfeddiannol ac yn dawel bwerus. Gyda’i gilydd, maent yn gallu herio’r Iarll. Mae’n ein hatgoffa yn gadarn nad yw straeon sydd werth eu hadrodd yn perthyn i frenhinoedd a breninesau yn unig. Maent yn perthyn i bob un ohonom.
O Derry Girls i Pride, mae cynulleidfaoedd yn croesawu straeon sy’n dathlu lleisiau’r dosbarth gweithiol a gweithredoedd tawel o amharodrwydd. Ac fe wnaeth The Marriage of Figaro hynny amser maith yn ôl.
Gwers 3: Mae cariad yn llwyddiannus (hyd yn oed os yw’n llanast)
Beth am fod yn onest. Mae’r cynllun yn un hurt. Cudd-wisgoedd, cam-adnabyddiaeth, pobl yn cuddio mewn cypyrddau dillad. Ond trwyddo, mae Susanna a Figaro yn aros hefo’i gilydd. Maent yn cecru. Maent yn cam-gyfathrebu. Ond maent yn ymddiried, yn maddau ac yn ymladd dros ei gilydd.
Nid yw eu cariad yn berffaith. Ond mae’n wir gariad. Fel Normal People neu Heartstopper, mae The Marriage of Figaro yn ein hatgoffa fod gwir gysylltiad yn wirioneddol werth yr holl anhrefn.

Gwers 4: Mae maddeuant yn gryfder
Yn yr act olaf, mae’r Iarll wedi’i ddinoethi a’i gywilyddio. Mae’n erfyn am faddeuant. Ac mae’r Iarlles, yn un o funudau mwyaf ingol yr opera, yn ei ganiatáu.
Nid yw’n ymwneud ag anghofio brad. Mae’n ymwneud ag aeddfedrwydd emosiynol.
Fel Lemonade Beyoncé neu Love Actually, mae’r opera yn ein hatgoffa nad yw tosturi yn wendid. Mae'n rym.
Gwers 5: Mae’n debyg y dylech fynd i’w gweld
Mae The Marriage of Figaro dros 230 mlwydd oed. Ond mae mor berthnasol ag erioed i ni heddiw. Os nad ydych wedi ei gweld yn fyw, does dim amser gwell i’w phrofi.
Ymunwch â ni ar gyfer perfformiad olaf yr opera fythol The Marriage of Figaro yn Plymouth ar 6 Mehefin.