Yn ôl The Stage, gellir crynhoi rôl y rheolwr cwmni fel:
'...yn ogystal â bod â chyfrifoldeb dros reoli'r actorion [noder: artistiaid perfformio yn WNO], maent hefyd yn gyfrifol am gefnogi'r cwmni cyfan, fel mae'r enw yn ei awgrymu. Nhw yw’r cyswllt cyntaf i bawb...Os oes problem yn codi, bydd rheolwr y cwmni yn ei adfer.
Yn Opera Cenedlaethol Cymru, ein rheolwyr yw'r cyswllt rhwng y cwmni teithio, y criw, y cantorion, y gerddorfa â'r staff eraill sydd yn teithio; gweddill y cwmni sy'n aros yng Nghaerdydd, a thimau'r lleoliadau, blaen tŷ a chefn llwyfan. Mae Rheolwr Cwmni unigryw WNO, Ian Douglas, sydd â chasgliad o theiau bô lliwgar, yn cael ei gefnogi'n ddiflino gan Sarah Cannon-Jones, Dirprwy Reolwr y Cwmni. Nhw sy'n cynrychioli'r cwmni pan mae'n mynd ar daith, ac yn cadw llygad ar bopeth.
Dyma bethau efallai nad oeddech yn ei wybod am y rôl:
Logisteg ar gyfer teithiau tramor at raddfa fawr: cludiant, fisas a llety, ar gyfer y Cwmni cyfan. Heb anghofio am arwain pobl i’r awyrennau a bysus, ac oddi arnynt. Yna, ar raddfa lai, mae angen trefnu sgyrsiau cyn y perfformiad - o ba amser i ble; cysylltu rhwng adran farchnata WNO, Dramaturg, yr adran Gynllunio a'r timau yn y lleoliadau.
Mae’r rheolwyr cwmni yn caffael popeth o gardiau mynediad i lety ar gyfer artistiaid gwadd; gall hyn gynnwys cerdded o amgylch trefi, yn cario llwyth o ambarelau ar gyfer y theatrau sydd ag ystafelloedd newid y tu allan yn yr awyr agored er mwyn i bawb allu ffitio mewn.
Gan eu bod nhw'n gyfrifol am ofal bugeiliol a chorfforol yr artistiaid, maent yn gwneud popeth o fynd gyda'r artistiaid i'r ysbyty (sydd fel arfer yn digwydd pan mae’r artist mewn gwisg); i fod ar ben arall y ffôn, 24/7; i wneud te a choffi; sicrhau eu bod nhw'n ddigon cynnes, neu'n ymoeri ddigon; hyd yn oed llenwi tybiau o ddŵr cynnes gan ddefnyddio yrnau mewn lleoliadau lle nad oes dŵr i bobl allu golchi colur llwyfan trwm oddi ar eu hwynebau.
Maent yn sicrhau bod cast ar gael, ac yn barod i ganu ar gyfer bob perfformiad; gan alw ar artistiaid cyflenwi ar fyr rybudd pan mae angen, a gwneud cyhoeddiadau i'r cynulleidfaoedd ynghylch unrhyw newidiadau. Mewn perfformiad o The Flying Dutchman ym Mryste yn 2006, roedd yn rhaid i Ian wneud cyhoeddiad mwyaf rhwydd ei yrfa: cyhoeddi bod Syr Bryn Terfel yn ymddangos yn y perfformiad fel artist cyflenwi.
Mae gofalu am docynnau yn rhan o'r rôl - eu dosbarthu i artistiaid a'u teuluoedd, a'u dosbarth ar y noson. Yn ogystal, mae'n rhaid iddynt helpu lleoliadau gyda phobl sy'n cyrraedd yn hwyr ac unrhyw ymholiadau am docynnau. Maent hefyd yn trefnu diodydd ar y noson agoriadol, ac yn dosbarthu talebau, sy'n eu gwneud nhw'n boblogaidd tu hwnt.
Mae nifer sylweddol o'r tasgau logisteg yn cynnwys bod yn bostman rhwng y lleoliad a swyddfa WNO; actio fel goruchwyliwr drws y llwyfan mewn lleoliadau llai; trefnu cyweirwyr piano a harpsicord; a glanhau.
Ar y cyfan, sgiliau allweddol rheolwr cwmni yw: meddwl ar eich traed, synnwyr cyffredin a gallu adeiladu perthnasau gyda phawb ym mhob lleoliad. Ni allwch fod ag agwedd 'nid ein cyfrifoldeb ni yw hynny' yn y rôl hon, neu yn ôl Sarah: 'Os nad yw person yn gwybod pwy i droi ato, [gan mai chi yw rheolwr y cwmni] chi yw'r person hwnnw'.