Agorodd detholiad Daisy Evans o opera derfynol Mozart, The Magic Flute, yng Nghaerdydd ddydd Sul yma. Trawsnewidodd y cyfiethiad newydd a’r llwyfannu lliwgar yr hen ffefryn operatig ar gyfer yr 21ain ganrif mewn ffrwydrad o liw, a chawsom gip ar-lein i weld beth oedd barn ein cynulleidfaoedd.
On Facebook:
Sally Dubsy HullettWedi mwynhau’n fawr
Jo VosCanu arbennig, ychydig o hiwmor a libreto sy’n gwneud yr opera’n hawdd ei deall. Perfformiad difyr iawn
Alyson JonesPerfformiad gwych y prynhawn ddoe yng Nghaerdydd. Wir wedi’i fwynhau - Da iawn, bawb
Niki TomkinsonWedi mwynhau pob eiliad
Roedd ein mewnflychau e-bost yn llawn negeseuon hyfryd gan ymwelwyr â’r sioe.
'Es i a’m gwraig, ein mab a’n merch yng nghyfraith i weld perfformiad cyntaf The Magic Flute ddydd Sul. Mae dau ohonom yn gwylio operâu yn eithaf aml, a’r ddau arall yn fwy newydd i’r byd opera, er eu bod yn mwynhau’r theatr a sioeau cerdd. Roedd pob un ohonom wedi mwynhau ein hunain. Roedd yn ddifyr, yn hwyliog ac yn chwareus - rhinweddau nad ydynt bob amser yn gysylltiedig ag opera. Roedd y canu hefyd yn gofiadwy.'
'Gwnaethom wir fwynhau’r cynhyrchiad ddydd Sul. Adfywiol, bywiog a llawn hwyl. Ymweliad cyntaf â Chanolfan Mileniwm Cymru. Roedd yr acwsteg yn wych.'
Peidiwch â cholli’r cyfle i weld The Magic Flute yng Nghaerdydd cyn i’r cynhyrchiad fynd ar daith i Landudno, Milton Keynes, Bryste, Birmingham, Southampton a Plymouth fel rhan o’n Tymor Gwanwyn 2023.