Ganed Dmitri Shostakovich yn St. Petersburg ym mis Medi 1906. Dechreuodd ddangos dawn gerddorol fawr pan oedd yn 9 mlwydd oed, ar ôl dechrau cael gwersi piano gan ei fam. Pan oedd yn 13 oed, cofrestrodd yn Ysgol Gerddoriaeth Petrograd (fel yr oedd ar y pryd) i astudio piano a chyfansoddi. Perfformiodd ei Symffoni Gyntaf ar 12 Mai 1926, a byddai’n honni’n gellweirus wedyn mai’r dyddiad hwnnw oedd ei ‘ben-blwydd artistig’.
O gofio’r hinsawdd wleidyddol gythryblus a oedd yn bodoli yn yr Undeb Sofietaidd yn ystod y cyfnod hwn, condemniwyd ei waith droeon gan Pravda, papur newydd y wladwriaeth, a honnwyd nad oedd ei gyfansoddiadau’n cynrychioli nac yn cydymffurfio â gwerthoedd yr Undeb. Drwy gydol ei oes, perthynas anwadal fu rhyngddo a’r wladwriaeth, ac ym 1936 cafodd ei opera gyntaf, Lady Macbeth of Mtensk, ei beirniadu’n llym gan Pravda. Serch hynny, llwyddodd i ennill Gwobrau Lenin a Wihuri Sibelius am ei Symffoni Rhif 11.
Mae ei waith cynnar yn dangos dylanwad cyfansoddwyr Rwsiaidd clasurol, ac roedd ei Bedwaredd Symffoni (a dynnwyd yn ôl cyn ei pherfformio) yn drwm dan ddylanwad Mahler. Ar ôl i Shostakovich astudio thesis Moisei Beregovski ar Gerddoriaeth Werin Iddewig (a gyhoeddwyd ym 1944), dechreuodd gynnwys themâu gwerin Iddewig yn ei gerddoriaeth – a hynny, yn ôl y sôn, gan ei fod yn gwirioni ar allu’r gerddoriaeth ‘i greu alaw hwyliog ar donyddiaeth drist’. Yn ystod rhannau olaf ei fywyd, gellir gweld dylanwad Beethoven a Bach ar ei waith.
Yn wahanol i gyfansoddwyr eraill, nid oedd Shostakovich yn arfer dyfynnu cyfansoddwyr eraill yn ei waith. Yn hytrach, datblygodd ei arwyddnod ei hun, gan ei seilio ar ei lythrennau blaen Germanaidd. Daeth DSCH yn fotiff cerddorol y gellir ei weld drwy gydol ei yrfa ddiweddarach. Câi’r arwyddnod cerddorol hwn ei ffurfio gan y nodau D, E fflat, C a B, ac mae modd ei weld mewn llu o’i gyfansoddiadau, yn cynnwys ei Bedwarawd Llinynnol Rhif 6, ei Symffoni Rhif 15 a’i Goncerto Soddgrwth Rhif 1. Mae amryw byd o gyfansoddwyr wedi talu teyrnged iddo trwy gynnwys y motiff yn eu gweithiau eu hunain, yn cynnwys Ronald Stevenson, Schnittke a Tsintsadze.
Er bod ei opera Lady Macbeth of Mtensk wedi cael ei beirniadu’n llym gan Pravda, cafodd ei operetaCheryomushskigroeso dipyn gwell. Yn wir, cafodd y stori hon, sy’n cynnig gobaith yn erbyn biwrocratiaeth lwgr, ei pherfformio ledled y byd. A’r Hydref hwn, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn ei pherfformio mewn cynhyrchiad newydd sbon, sef Cherry Town, Moscow, gyda Daisy Evans yn cyfarwyddo.
Fel yn achos nifer o artistiaid eraill o’r Undeb Sofietaidd, gwyddai Shostakovich y gallai beirniadu’r llywodraeth yn ddi-flewyn-ar-dafod arwain at ei arestio a’i gyhuddo. Yn fuan, dechreuodd gynnwys enghreifftiau isganfyddol o anghytgord yn ei waith, wrth iddo fynegi ei atgasedd at y wladwriaeth yr oedd yn byw ynddi. Roedd ei gyflwr emosiynol a meddyliol yn effeithio’n gyson ar ei gyfansoddiadau, ac er bod ei gydwladwyr Tchaikovsky a Prokofiev wedi dylanwadu ar ei waith, mae ein symffonïau diweddaraf yn llawn o’i obsesiwn gyda’i farwoldeb ei hun.
Bydd yr opera Cherry Town, Moscow yn cael ei pherfformio gan Opera Ieuenctid WNO yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sul 9 Hydref fel rhan o Dymor Hydref 2022