Cherry Town, Moscow Shostakovich
Archived: 2022/2023Trosolwg
Bloc wrth floc, caiff ffordd o fyw newydd ei ffurfio
Gadewir yr Hen Foscow ar ôl pan gaiff datblygiad tai uchel eu hadeiladu, gan addo dyfodol disglair, newydd i griw o ffrindiau sy’n dioddef yn sgil prinder tai yn y ddinas. Ond nid yw popeth fel yr ymddengys.
Wedi’u rhwygo rhwng eu dyhead am y dyfeisiau diweddaraf a’u cariad tuag at yr hen Foscow, caiff perthnasau eu rhoi ar brawf, a datgelir llygredigaeth. Yn seiliedig ar ddigwyddiadau bywyd go iawn o’r cyfnod ar ôl Stalin, mae’r comedi cerddorol ysgafn hon, a berfformir gan Opera Ieuenctid clodwiw WNO, yn cynnwys corysau bywiog, caneuon ac ensemblau bachog, dilyniant o waltsiau a pholcas wedi’i thrwytho â dylanwadau jas, mewn darn hynod ddifyr a fydd yn eich gadael yn cwestiynu reality am byth.
Perfformiadau er cof David a Philippa Seligman
Archebu rhaglen
Prif Gefnogir WNO, ABP. Er cof David a Philippa Seligman. Cefnogir gan Gibbs Charitable Trust a Mr & Mrs John & Maggie Hayes.
Cefnogir gan
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg, gydag uwchdeitlau yn Gymraeg ac yn Saesneg
Synopsis
ACT 1
Golygfa 1
Mae Boris, arbenigwr mewn ffrwydron, a'i hen gyfaill, Sergei, chauffeur, yn digwydd cyfarfod ar ôl sawl blwyddyn. Mae Boris yn symud yn ôl i Foscow, ac yn chwilio am gariad, ond nid yw pethau'n mynd yn dda iawn. Mae Sergei hefyd yn cael lwc ddrwg gyda Lucy, gweithiwr adeiladu y mae'n ei charu.
Mewn neuadd yn Amgueddfa Hanes Ail-Adeiladu Moscow, mae Sasha, tywysydd, yn egluro hanes a dyfodol Moscow i grŵp o dwristiaid. Ymhlith y grŵp, mae ei wraig Masha. Wrth i'r twristiaid symud i'r neuadd nesaf, mae Sasha a Masha yn aros yn eu hunfan. Er eu bod yn briod, maent yn dal yn byw ar wahân ac yn breuddwydio am symud i gartref gyda'i gilydd.
Mae Boris a Sergei yn cyrraedd yr amgueddfa. Maent yn cwrdd â'r tywysydd Lidochka ac mae Boris yn ceisio fflyrtio â hi, heb fawr o lwc. Ar ôl gadael, mae Lidochka yn galarganu, ond mae ei thad, Semyon, yn cyrraedd gyda'r newyddion bod nenfwd eu cartref, lle maent yn byw â Sasha, wedi disgyn. Bydd y tŷ nawr yn cael ei ddymchwel, gan eu gwneud yn ddigartref.
Mae Boris yn cael papurau yn rhoi gwybod iddo am y dymchwel, ac er rhyddhad i bawb, mae Sergei yn dod o hyd i orchmynion tai ymysg y papurau hyn, ac mae pawb yn gorfoleddu. Mae Sasha a'i wraig, Masha, yn cael fflat, yn ogystal â Lidochka a Semyon, yn ardal newydd Cheryomushki. Mae Boris yn awgrymu eu bod yn benthyca'r car mae Sergei yn ei yrru er mwyn cludo pawb i'w fflatiau newydd.
EGWYL
Mae Drebyednyetsov a'i wraig ifanc, Vava, wedi bod yn dadlau. Maent yn disgwyl am eu chauffeur, sydd, yn ôl pob golwg, wedi diflannu. Mewn gwirionedd, Sergei yw'r chauffeur, ac mae yn ei chanol hi gyda rhywbeth arall.
Golygfa 2
Ar ôl cyrraedd Cheryomushki, maent yn dod o hyd i grŵp mawr o denantiaid sy'n disgwyl am eu hallweddi. Mae Sergei yn ceisio datgan ei gariad i Lucy, sy'n gweithio ar y safle adeiladu, ond yn baglu dros ei eiriau, ac nid yw'n gwneud unrhyw gynnydd gyda hi.
Pan fo rheolwr y safle, Barbaskin, yn cyrraedd, nid yw'n barod i roi'r allweddi i unrhyw un, gan atal pawb rhag cael mynediad at eu cartrefi newydd. Mae'n gwahodd y tenantiaid i'w swyddfa.
Ond nid yw Boris a Lidochka yn mynd, ac mae Boris yn rhoi cynnig arall ar fflyrtio, heb fawr o lwyddiant. Mae Vava yn cyrraedd, ac mae Boris, ei chyn-gariad o blentyndod, yn tynnu arni am ei bod hi â fflat mor fechan, er ei bod hi'n briod â'r bos mawr. Mae Vava'n mynnu y bydd hi'n cael fflat mwy.
ACT 2
Golygfa 3
Mae Boris yn gofyn am help Lucy i oresgyn y broblem allweddi, ac maent yn defnyddio craen adeiladu i godi Lidochka a'i thad i'w cartref newydd. Wrth iddynt ymgartrefu, mae Lucy yn cyrraedd ac yn dweud wrthynt ei bod wedi cael gorchymyn i dynnu gosodiadau'r fflat. Ar ôl iddynt adael, mae Lucy'n cael ei gadael ar ben ei hun i ystyried ei theimladau dros Sergei, ond mae Barbashkin yn ffrwydro drwy'r wal gyda Drebyednyetsov a Viva, sy'n datgan y byddant yn cymryd y fflat ac yn dymchwel y waliau er mwyn gwneud eu fflat eu hunain yn fwy. Mae Lucy’n gadael mewn tymer. Pan fo Lidochka a Semyon yn dychwelyd, mae Barabashkin a Drebyednyetsov yn eu gyrru allan o'r fflat.
Golygfa 4
O'r diwedd, mae Sasha a Masha yn cael mynediad i'w fflat. Mae cloch y drws yn canu, a chymdogion yn cyrraedd bob dau funud, felly maent yn cynnal parti croeso cartref annisgwyl. Mae Lucy a Sergei yn cyrraedd ac yn dweud wrth bawb am dwyll Drebyednyetsov a Barabashkin. Mae pawb yn cytuno bod rhaid iddynt ddatgelu'r troseddau a sicrhau bod pawb yn cael y cartrefi a oedd wedi'u haddo iddynt.
Mae Boris a Lidochka ar ben y bloc tai ac yn ystod bale, yn breuddwydio bod Lidochka yn derbyn yr allwedd i'w fflat.
ACT 3
Golygfa 5
Yn ôl yn y byd go iawn, mae Lidochka yn dechrau ar ei chwyno eto. Mae tenantiaid a gweithwyr adeiladu yn plannu gardd hud ac maent yn gofyn i Lidochka ymuno â nhw. Mae Boris yn cyrraedd ac yn dweud wrth bawb ei fod wedi achosi i Drebyednysetov a Vava ddadlau, ac y byddant yn ysgaru. Mae Drebyednyetsov yn cyrraedd ac er syndod i bawb, yn rhannu allweddi'r fflatiau gyda phawb. Mae'n mynd yn ei flaen i gyfaddef ei fod wedi colli ei swydd.
Diolch i fainc ardd hud, gall Sergei gyfaddef ei gariad tuag at Lucy o'r diwedd, ac mae Boris a Lidochka hefyd yn cadarnhau eu cariad. Ac mae pawb yn byw’n hapus byth wedyn.