FedericoGarcíaLorca oedd un o feirdd a dramodwyr Sbaenaidd pwysicaf a mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif. Yr hynaf o bedwar o blant, fe’i ganed ar 5 Mehefin 1898, i’w dad, Federico García Rodríguez a oedd yn dirfeddiannwr cyfoethog a’i fam, Vicenta Lorca Romero, a oedd yn athrawes ysgol. Magwyd Lorca yng nghefn gwlad Andalusia, ger Granada, wedi’i amgylchynu gan ddelweddau ac amodau cymdeithasol a fyddai’n effeithio ar ei waith yn y dyfodol.
Yn fyfyriwr yn astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Granada, cymerodd naw mlynedd i Lorca gwblhau ei radd...roedd yn fwy adnabyddus am ei ddoniau rhyfeddol fel pianydd. Trodd at ysgrifennu yn ei arddegau hwyr gyda’i arbrofion cyntaf ym myd barddoniaeth a drama yn datgelu anhunedd ysbrydol a rhywiol ynghyd ag edmygedd o awduron fel Shakespeare, Goethe ac Antonio Machado.
Yn 1919, symudodd Lorca i Madrid, lle bu’n byw mewn neuadd breswyl i ddynion gyda'r gwneuthurwr ffilmiau Luis Buñuel a’r artist Salvador Dalí, a ddaeth yn gydymaith agos. Yn yr un flwyddyn, cyhoeddodd Lorca ei lyfr cyntaf, Impresiones y Paisajes (Impressions and Landscapes), a chynhyrchwyd ei ddrama lawn gyntaf, El Maleficio de lamariposa (The Butterfly’s Evil Spell), yno y flwyddyn ganlynol. Yn fuan wedyn, cyhoeddodd Libro de poemas (Book of Poems), casgliad o gerddi yn seiliedig ar lên gwerin Sbaen.
Yn 1922, trefnodd Lorca a’r cyfansoddwr Manuel de Falla yr ŵyl cantejondo, neu’r ‘gân ddofn’ gyntaf yn Granada. Tua’r amser hwn, ffurfiodd Lorca a’i gyd-breswylwyr Buñuel a Dali grŵp o artistiaid a adnabyddir fel y Generación del 27. Y grŵp hwn a gyflwynodd Lorca i Swrrealaeth, a ddylanwadodd yn fawr ar ei ysgrifennu. Wedi’i ysbrydoli gan draddodiadau poblogaidd Sbaenaidd a fflamenco, parhaodd Lorca i ysgrifennu drwy gydol y 1920au, gyda'i waith yn ymddangos yn ei ddramâu La zapatera prodigiosa (The Shoemaker’s Prodigious Wife) ac El amor de don Perlimplín con Belisaen su jardín (The Love of Don Perlimplín and Belisa in the Garden). Datgelodd y ddwy ddrama themâu a oedd yn gyffredin i waith Lorca: natur anrhagweladwy amser, pwerau dinistriol cariad a marwolaeth, cwestiynau hunaniaeth, celf, plentyndod, a rhyw.
Yn 1928, daeth enwogrwydd ar wib i Locra gyda chyhoeddiad Romancero gitano (Gypsy Ballads), cyfres o farddoniaeth a ysbrydolwyd gan y rhamant Sbaenaidd draddodiadol. Y flwyddyn ganlynol teithiodd i Ddinas Efrog Newyddlle daeth o hyd i gysylltiad rhwng caneuon dwfn Sbaenaidd ac ysbryd Affricanaidd Americanaidd Harlem. Pan ddychwelodd i Sbaen, cyd-sefydlodd Lorca La Barraca, cwmni theatr teithiol a berfformiodd glasurol Sbaenaidd yn ogystal â’i ddramâu gwreiddiol, gan gynnwys yr adnabyddus Bodas de Sangre (Blood Wedding), mewn sgwariau trefi bach. Er gwaethaf y mudiad ffasgaidd a oedd yn prysur gynyddu yn ei wlad, gwrthododd Lorca guddio ei safbwyntiau gwleidyddol asgell chwith, wrth barhau â’i esgyniad fel awdur.
Gyda’r perfformiad cyntaf o Bodas de Sangre (Blood Wedding) yn 1933, cyflawnodd Lorca ei lwyddiant mawr cyntaf a helpodd i sefydlu cyfnod mwyaf disglair theatr Sbaenaidd ers yr Oes Aur. Yr un flwyddyn, teithiodd i Buenos Aires, Argentina, i oruchwylio sawl cynhyrchiad o’i ddramâu ac i draddodi cyfres o ddarlithoedd.
Ym mis Awst 1936, ar ddechrau Rhyfel Cartref Sbaen, roedd Lorca yn gweithio ar Aurelia a La Casa de Bernarda Alba (The House of Bernarda Alba) pan arestiwyd ef yn Granada gan luoedd Cenedlaetholgar, a oedd yn casáu ei gyfunrywioldeb a’i farn ryddfrydol, ac fe’i carcharwyd heb achos llys. Cafodd ei ddienyddio gan garfan danio ar naill ai 18 neu 19 Awst (nid yw'r union ddyddiad erioed wedi’i gadarnhau).
Er mai bywyd byr a gafodd, roedd y bywyd hwnnw’n llawn straeon a chafodd effaith aruthrol ar fyd celf Sbaen. Dewch i ail-fyw'r bywyd anhygoel hwn drwy lygaid yr actores Gatalanaidd Margarita Xirgu, a’i chyfraniad mwyaf oedd ei datblygiad o ddramâu Lorca, gydag Ainadamar yr Hydref hwn, yn perfformio yng Nghaerdydd, Llandudno, Bryste, Plymouth, Birmingham, MiltonKeynes a Southampton rhwng 9 Medi a 22 Tachwedd.