Newyddion

Pwy ’di pwy yn Don Giovanni

18 Chwefror 2022

Y Tymor hwn, mae un o plesergarwyr mwyaf y byd opera yn dychwelyd i’r llwyfan. Er mwyn eich paratoi ar ei gyfer, dyma ganllaw sydyn ichi ynglŷn â phwy ’di pwy yn opera wych Mozart, sef Don Giovanni.

Cnaf dosbarth uchaf o’r enw Don Giovanni yw’r prif gymeriad – y math o ddyn y bydd eich mam yn eich rhybuddio i gadw’n glir ohono, ond na allwch eich rhwystro eich hun rhag gwirioni’n lân arno. Caiff y stori ei seilio ar hanes Don Juan, dihiryn llên gwerin enwog o Sbaen. Mae Don Giovanni yn hudo merched mor aml ag y mae’r gweddill ohonom yn cael paned o de, gan fyw yn ôl ei reolau ei hun. Llais bariton sydd gan y cymeriad, ac ar y diwrnod dan sylw mae ei holl ymdrechion i ddenu merched yn methu. Erbyn gweld, y diwrnod hwnnw yw ei ddiwrnod olaf ar y ddaear.

Mae ymdeimlad o edmygedd a chasineb yn rhwygo Leporello, gwas/prif gynorthwywr Don Giovanni – nid yw bob amser yn cytuno ag ymddygiad ei feistr, ond eto i gyd ymddengys ei fod yn eithaf bodlon cyd-fynd â’i dwyll – ar y cychwyn, o leiaf. Llais bas sydd gan y cymeriad hwn. Yn aml, caiff perfformiwr sy’n debyg i Don Giovanni o ran pryd a gwedd ei ddewis ar gyfer y rôl – ac mae hyn yn cynorthwyo Don Giovanni gyda nifer o’i ystrywiau.

Mae Donna Anna wedi dyweddïo â Don Ottavio. Merch y Commendatore yw Donna Anna, a hi oedd targed cyntaf Don Giovanni y diwrnod hwnnw – er, ni wyddom yn hollol beth a ddigwyddodd, ac eithrio’r ffaith fod marwolaeth wedi dod i ran ei thad. Ond mae’n ymddangos ei bod hi’n amharod iawn i dderbyn y sefyllfa. Rôl ar gyfer llais soprano yw hon – yn draddodiadol, y prif gymeriad benywaidd sydd â llais soprano, ond yn yr opera hon lleisiau soprano sydd gan yr holl ferched.

Mae Don Ottavio, cymar Donna Anna, yn hollol wahanol i Don Giovanni – gŵr bonheddig cefnog arall, ond mae hwn yn ymddwyn fel y dylai gŵr bonheddig ymddwyn: mae’n ystyriol, yn amyneddgar ac yn ffyddlon… ond yn un gwael am ei fynegi ei hun – go brin y gellid ei alw’n un o’r cymeriadau blaenllaw, ond eto i gyd llais tenor sydd ganddo, sef y math o lais a roddir yn draddodiadol i’r prif gymeriad gwrywaidd (yr arwr yn hytrach na’r dihiryn).

Ar brydiau, caiff Donna Elvira ei galw’n wraig i Don Giovanni, neu efallai mai dyna sut y mae hi’n ei hystyried ei hun. Mae hi’n aelod o’r dosbarth uchaf ac yn un o hen gariadon Don Giovanni, ond mae’n methu â derbyn natur eu perthynas gan ei bod yn groes i’w chredoau (braidd yn hwyr iddi feddwl hynny, yntydi?!) Mae hi eisiau Don Giovanni yn ôl, ond os na all hi ei gael, mae hi’n benderfynol na chaiff neb arall mohono ychwaith.

Zerlina, aelod o’r dosbarth gweithiol a darpar briodferch. Dyma ddiwrnod ei phriodas – nid bod hynny’n ffrwyno ymddygiad Don Giovanni mewn unrhyw ffordd. Ond dyw Zerlina ddim yn camddeall y sefyllfa o gwbl; mae hi’n derbyn pethau fel y maent, ac mae hi hyd yn oed yn hoffi’r hyn sydd gan Don Giovanni i’w gynnig iddi – tipyn o sbri cyn iddi briodi.

Dyweddi Zerlina yw Masetto, aelod o’r dosbarth gweithiol unwaith eto ac mae’n gwybod beth yn union y mae hynny’n ei olygu – rhaid iddo oddef camdriniaeth Don Giovanni a’i ddiffyg parch tuag at ei berthynas ef a Zerlina. Dyma rywun i dosturio wrtho. Er bod ganddo’r un math o lais â Don Giovanni, sef bariton, mae’n fwy arferol ar gyfer rôl ategol.

Yn olaf, rhaid inni sôn am y Commendatore, sef tad Donna Anna. Er iddo gael ei ladd ar gychwyn cyntaf yr opera, mae’n bresennol drwy’r adeg ac mae’n hollbwysig o ran y gosb haeddiannol a ddaw i ran Don Giovanni yn y pen draw – bydd yn ofalus wrth wneud dymuniadau, Don Giovanni. Rôl arall ar gyfer llais bas, ac yn ddi-os mae ei lais yn gadarn fel y graig.

Er bod yr opera wedi’i lleoli yn y gorffennol, gallwn adnabod o leiaf rai o’r cymeriadau yn adloniant y byd sydd ohoni. Ewch ar daith yn ôl mewn amser i fwynhau hanes dihiryn sy’n cael ei gosb haeddiannol o’r diwedd.