Newyddion

Pwy ydy Pwy yn War and Peace

14 Medi 2018

Ein cynhyrchiad newydd ar gyfer tymor yr hydref yw War and Peace gan Prokofiev, sydd yn seiliedig ar nofel epig gan Tolstoy. Gyda’n cast o ganwyr dewr yn ymgymryd â nifer o rannau i ddweud y stori, dyma ein canllaw pwy ydy pwy ymysg y prif gymeriadau:

Ein prif rannau rhamantus yw Andrei, mab ac etifedd y teulu Bolkonsky, a Natasha, merch hudol Iarll ac Iarlles Rostov a greodd Tolstoy fel amlygiad cariad, natur a benyweidd-dra.

Mae eu teuluoedd yn cynnwys y Dywysoges Marya, chwaer Andrei, merch ifanc blaen sy’n cynnal ei bywyd unig gan dduwioldeb Cristnogol cryf a Chyn Dywysog Bolkonsky, tad Andrei a Marya. Ef yw disgynnydd teulu hynafol ac anrhydeddus, bellach yn hen ŵr, sy’n dal ei afael ar werthoedd cymdeithas ffiwdal sydd wedi dyddio. Iarll Rostov yw tad Natasha, gŵr o natur dda, ac sy’n hael gyda’i deulu a’i ddiddordeb yw cynnal pleserau ei deulu sy’n cyfrannu at ei ddinistr ariannol. Rydym hefyd yn cyfarfod Sonya, perthynas tlawd y Rostov (cyfnither Natasha) ac maent yn ei magu gyda’u plant ei hunain.

Cyfaill pennaf Andrei, Pierre, yw mab anghyfreithlon hen ŵr Rwsiaidd pwysig. Wedi’i addysgu dramor, dychwela i Rwsia fel un sy’n groes i’r graen, fodd bynnag, mae ei etifeddiaeth annisgwyliedig o ffortiwn fawr yn ei wneud yn ddymunol yn gymdeithasol. Priododd Helene, merch ifanc o deulu pwysig ond cafodd ei denu gan ei arian yn unig a chafodd sawl carwriaeth. Mae hi’n brydferth ac yn uchel ei pharch yn y gymdeithas uwch ond, mewn gwirionedd, yn ferch digon di-glem. Mae Anatole Kuragin, brawd Helene, yn hedonydd ac mae ei edrychiad golygus yn denu’r Dywysoges Marya, a hoffai ei phriodi oherwydd ei harian, a Natasha, y gwnâi pob ymdrech i’w swyno ond yn methu. Yn olaf, mae Dolokhov, cyfaill Anatole ac mae ei greulondeb a’i ddewrder yn chwarae rhan mewn gwahanol ddigwyddiadau yn y stori.

Mae llu o gymeriadau eraill hefyd yn cael eu cynrychioli yn y cynhyrchiad, ac mae’r siart isod yn dangos i chi sut maent yn cael eu cynnwys yn y stori: