Cafodd La bohѐme, a osodwyd yn wreiddiol yn y 19eg ganrif, ei pherfformiad cyntaf yn 1896, ac mae campwaith Puccini yn parhau i ddenu cynulleidfaoedd i dai opera ledled y byd, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru. Mae'r stori hon am gariad a cholled wedi ysbrydoli nifer o efelychiadau ym myd ffilm a theledu, ac mae cerddoriaeth anhygoel Puccini wedi sbarduno cariad at opera i nifer o gantorion. Ond beth sy’n rhoi hirhoedledd i La bohѐme a pham ei bod yn parhau i fod yn opera mor berthnasol heddiw, 126 o flynyddoedd ar ôl y perfformiad cyntaf yn Turin? Awn ati i archwilio hyn.
Yn stori gariad glasurol, mae La bohѐme yn anodd ei gwrthod i bobl sy’n hoff o fynd i weld operâu. Mae’r thema cariad yn ehangu o’r llwyfan i’r gynulleidfa, ac mae diweddglo trasig yr opera yn cael effaith mor ddofn arnom gan fod y cariad rydym yn dyst iddo yn wir a gallwn uniaethu â’r emosiynau. Pwy sydd heb syrthio mewn cariad, efallai hyd yn oed ar yr olwg gyntaf, fel Mimì a Rodolfo? Neu efallai eich bod wedi mynd ar drywydd cariad nas dychwelir fel y gwnaeth Marcello gyda Musetta? Ar wahân i ramant, mae mwy i’r opera hon nag a welir ar yr olwg gyntaf.
Yn yr act gyntaf gwelwn y pedwar cyd-letywr, Rodolfo, Marcello, Schaunard a Colline, yn mwynhau cwmni ei gilydd, ac yn twyllo’r landlord allan o arian rhent. Mae cyflwyniad Puccini o’r cymeriadau hyn fel pobl bob dydd, ffrindiau sy’n pryfocio a chefnogi ei gilydd, yn ennyn hoffter ohonynt a’u trafferthion a’u sefyllfa, gan ei fod yn ein hatgoffa o’n perthynas â’n ffrindiau ein hunain. Mae’r thema ofalgar hon yn rhedeg drwy’r opera; yn y golygfeydd agoriadol gwelwn Rodolfo yn llosgi ei lawysgrif yn y popty i roi cynhesrwydd i’w gyfeillion, ac yn yr act olaf mae Colline yn gwystlo ei gôt fawr i dalu am feddyginiaeth Mimi. Gweithredoedd anhunanol o’r fath yn eu cyfeillgarwch sy’n clymu’r grŵp hyn ynghyd ac yn cymell y gynulleidfa i fyfyrio ar eu perthnasoedd a’u cyfeillgarwch eu hunain.
Tra gellir uniaethu â’r themâu hyn, sy’n ffurfio asgwrn cefn yr opera ddiamser hon, mae un o’r adegau mwy cyffredin yn yr opera yn digwydd yn Café Momus. Mae’r grŵp yn ymweld â’r caffi ar noswyl Nadolig, gyda Mimì a Rodolfo yn dathlu canfod eu cariad, ac yn mwynhau eu hunain- hynny yw, tan i’r bil gyrraedd. Mae syndod Schaunard ynghylch hyd y bil wrth iddo gael trafferth dod o hyd i’w bwrs yn ein hatgoffa o noson anffodus neu ddwy o’n profiadau ein hunain gyda bil annisgwyl.
Mae'r adegau dynol hyn sy’n ymddangos drwy gydol yr opera yn gwneud y cymeriadau a stori La bohѐme yn annwyl i ni. Wrth i gerddoriaeth Puccini ein harwain drwy’r chwedl, mae ei gymeriad yn siarad â ni ar lefel emosiynol, ac efallai mai dyna pam y mae La bohѐme yn parhau i fod yn un o’r operâu mwyaf poblogaidd hyd heddiw.
I wylio ein cynhyrchiad o waith diamser Puccini, La bohѐme, yr Hydref hwn, dewch i’n gweld yn Southampton a Rhydychen eleni.