Gyda stori ffraeth sy’n llawn hud ac alawon cofiadwy y bydd pawb yn gyfarwydd â nhw – hyd yn oed pobl nad ydyn nhw erioed wedi gweld un o glasuron Mozart – does ryfedd bod The Magic Flute yn cael ei hystyried fel yr opera gyntaf berffaith. Cyn cynhyrchiad newydd Daisy Evans fel rhan o Dymor Gwanwyn 2023 Opera Cenedlaethol Cymru, buom yn archwilio'r opera a'i defnydd mewn diwylliant poblogaidd.
Pa un a ydych chi’n meddwl am yr agorawd a gaiff ei chwarae yn y cefndir yn y ganolfan siopa mewn pennod o Buffy the Vampire Slayer, neu’r blwch cerdd mewn pennod o House sy’n chwarae Das klinget so herrlich, yn ddi-os mae The Magic Flute bellach yn rhan o’r diwylliant pop.
Yr aria Der Hölle Rache gan Frenhines y Nos yw un o ariâu enwocaf yr opera, felly does syndod ei bod i’w chlywed mewn nifer o raglenni teledu, ffilmiau a hysbysebion, fel Amazon Alexa a Volvo. Hefyd, defnyddiodd Red Bull yr aria Der Vogelfänger Bin Ich Ja (‘Daliwr adar ydw i’) yn un o’i hysbysebion ‘Red Bull gives you wings’, lle gwelwyd cath yn ymlacio ar ôl llowcio aderyn a ddaliodd fry yn yr awyr.
Cafodd Mozart le blaenllaw yn un o benodau Gossip Girl hefyd (Tymor 2), pan fynychodd y prif gymeriadau gynhyrchiad o’r opera a phan glywir llais dienw’r ‘Gossip Girl’ yn cymharu eu sefyllfaoedd â’r sefyllfaoedd a geir yn The Magic Flute. Wrth esbonio’r plot i Rufus, nad yw’n gyfarwydd o gwbl ag operâu, mae Eric yn chwarae Der Hölle Rache, ac mae’n cyffroi ‘Wrth i’r gerddoriaeth gyrraedd F uchel… dyw hynna byth yn digwydd mewn operâu’.
Defnyddiwyd yr un aria yn un o ffilmiau Julia Roberts, sef Eat Pray Love, er mwyn tynnu sylw at y llawenydd a ddaw i ran cymeriad Julia Roberts wrth iddi deithio trwy’r Eidal a chael blas ar fwyd traddodiadol y wlad.
Yn nhymor 9 The Voice, syfrdanodd Claudillea Holloway y beirniaid a’r gynulleidfa gyda’i fersiwn ‘bop’ o aria Brenhines y Nos yn ystod y clyweliadau dall. Aeth y soprano glasurol yn ei blaen i syfrdanu cynulleidfaoedd gyda’i fersiynau operatig o ganeuon mwy poblogaidd a thrwy ychwanegu curiadau hip-hop a dawns at ariâu.
Ond nid cerddoriaeth The Magic Flute yn unig sydd wedi ysbrydoli’r diwylliant pop dros y blynyddoedd. Mae The Smurfs and the Magic Flute wedi’i leoli yn yr Oesoedd Canol ac mae’n adrodd stori cellweiriwr a ddaw o hyd i ffliwt hudol sy’n peri i bobl y dref ddawnsio. Mae The Magic Flute Diaries – sef ffilm a ymddangosodd ar y sgrin fawr yn 2008 – yn adrodd hanes cantorion mewn cynhyrchiad o The Magic Flute, ac mae eu bywydau’n cyfateb yn fras i fywydau prif gymeriadau’r opera.
Mae’r ffilm The Magic Flute a ryddhawyd yn 2002, gyda’r actor Cymreig Iwan Rheon yn chwarae rhan Papageno, yn dilyn hynt bachgen ifanc o Lundain wrth iddo deithio i’r Alpau yn Awstria i fynychu ysgol breswyl enwog Mozart. Yno, mae’n darganfod coridor anghofiedig sydd ganrifoedd o oed – coridor sy’n ei arwain i fyd anhygoel The Magic Flute.
Hefyd, mae yna lyfrau lu sy’n ailadrodd stori Mozart, fel Magic Flutes gan Eva Ibbotson, sef nofel ramant o’r oes o’r blaen ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, sy’n canolbwyntio ar Gwmni Opera Fienna a’i berfformiad o The Magic Flute.
Os ydych chi’n fwy cyfarwydd na’r disgwyl â’r gerddoriaeth a’r stori, neu os yw hyn wedi eich atgoffa pa mor aruchel a thragwyddol yw clasur Mozart, beth am ddod draw i weld ein cynhyrchiad newydd o The Magic Flute y Gwanwyn hwn, lle byddwn yn dod â’r opera yn fyw mewn ffordd hollol newydd, teithio i Gaerdydd, Llandudno, Milton Keynes, Bryste, Birmingham, Southampton a Plymouth rhwng 5 Mawrth – 27 Mai 2023.