Newyddion

Rhyfeddodau'r Gaeaf yn WNO

24 Rhagfyr 2020

Noswyl Nadolig; diwrnod sy'n rhannu'r genedl yn ddau grŵp, y rhai sy'n dechrau mwynhau eu cyfnod Nadoligaidd sydd wedi'u paratoi'n berffaith neu'r rhai sy'n meddwl tybed ble y gallai'r addurniadau fod yn cuddio. Pa un bynnag o'r grwpiau hyn rydych chi'n perthyn iddo, eisteddwch yn ôl a mwynhewch y darn bach hwn gan Opera Cenedlaethol Cymru - rydym yn addo y byddwch chi'n dod o hyd i'r addurniadau - maen nhw'n bendant yn y llofft yn rhywle.

Mae tymor y gwyliau fel arfer yn cael ei reoli gan y sioeau pantomeim llawn hwyl ledled y wlad, gan wneud i blant sgrechian 'mae e y tu ôl i chi' ac oedolion yn chwerthin ar yr ensyniadau amlwg. Yn anffodus, maent yn brin eleni, neu'n cael eu gwneud arlein os o gwbl, felly roeddem yn meddwl y byddem yn cofio ein hoff operâu Gaeafol yn hytrach, i'n cael yn ysbryd yr ŵyl.

Ffefryn cadarn wedi'i orchuddio ag eira yw La bohème; trasiedi sy’n ymddangos yn llawer mwy addas os yw yn yr oerfel. Mae cynhyrchiad WNO wedi ei gyfarwyddo gan Annabel Arden, a berfformiwyd gyntaf yn 2012, yn cynnwys eira'n pluo’n hyfryd i lawr ar olygfa arbennig o ingol. Gallai myfyrwyr sy'n dod i weld y perfformiad uniaethu â'r prif gymeriadau am unwaith; yn enwedig pan fyddant, er mwyn cadw'n gynnes, yn llosgi llawysgrif drama Rodolfo. Neu, fel Marcello a Musetta, dim ond eisiau mynd allan a chael amser da - sy’n anoddach gwneud eleni yn fwy nag erioed, gyda chlybiau ar gau a thafarndai yn dilyn pa bynnag system haen y maent ynddi ar y pryd.

Cynhyrchiad Nadolig WNO arall yw A Christmas Carol, gan Iain Bell a berfformiwyd yn 2015. Dywedodd Iain Bell ei hun mewn cyfweliad ar Wise Music, 'Yn hytrach na stori dylwyth teg Nadolig hwyliog wedi'i llywio gydag uchelwydd a chelyn sy’n cael ei phortreadu’n aml, yr oeddwn yn awyddus i archwilio'r syniad o Scrooge yn ymladd dros waredu ei enaid ac elfennau ofnus ei ymweliadau gan bob un o'r pedwar ysbryd.’ Addas iawn ar gyfer sut mae'r Nadolig yn teimlo eleni.  Mae Hansel and Gretel hefyd yn rhyfeddod gaeafol er nad ydym yn siŵr pam, ond mae'n rhaid ei fod yn ymwneud â meddyliau am dai bara sinsir enfawr a nifer helaeth o felysion.

Mae'n debyg bod opera o'r enw The Christmas Elf allan yn y byd mawr eang yn rhywle yn aros i chi ddod o hyd iddi. Gelwir hefyd yn Das Crist-Elflein (Corach Bach Crist) mae dwy act i’r opera hon gan Hans Pfitzner am Gorach bach yn meddwl tybed beth yw ystyr y Nadolig ac, ar ôl gofyn i ychydig o bobl flin, mae'n darganfod y gwir ystyr ei hun. Ond nid ydym am ddatgelu’r diwedd, felly mae’n well inni ei adael yn fan hyn.

Noswyl Nadolig Hapus gan Opera Cenedlaethol Cymru - nawr ewch i gael mins pei arall - pam lai?