Mae'n bleser gan Opera Cenedlaethol Cymru gyhoeddi penodiad Yvette Vaughan Jones i rôl Cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr, a hynny ar unwaith. Mae gan Yvette brofiad helaeth o weithio yn y celfyddydau yn y DU ac yn rhyngwladol, a hi yw'r fenyw gyntaf yn hanes y Cwmni i ymgymryd â rôl Cadeirydd WNO.
Penodwyd pum aelod newydd hefyd i Fwrdd Cyfarwyddwyr WNO, gan gryfhau'r Bwrdd mewn meysydd allweddol gan gynnwys llywodraethu, cyllid, amrywiaeth, y Gymraeg ac addysg uwch. Mae'r penodiadau hyn yn mynd ag aelodaeth y Bwrdd i 13 aelod.
Mae gyrfa nodedig Yvette yn y celfyddydau wedi ei gweld yn gweithio i sefydliadau celfyddydau annibynnol, Cyngor Celfyddydau Cymru - lle sefydlodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru - awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru. Cyn ymgymryd â swydd Prif Weithredwr Visiting Arts, hi oedd yn gyfrifol am ysgrifennu cynnig Caerdydd i fod yn Ddinas Diwylliant Ewrop yn 2008. Mae Yvette hefyd wedi gweithio yn Ewrop fel Rheolwr Polisi Canolfan Cymru ym Mrwsel, ac mae hefyd wedi canolbwyntio ar waith rhyngwladol yn Visiting Arts lle sefydlodd y prosiect byd-eang Milltir Sgwâr yn ogystal â'r prosiect Cysylltu Diwylliannau'r Byd. Mae hi'n gyn-aelod o grŵp Diplomyddiaeth Ddiwylliannol y DU ac yn gyn Gynghorydd Arweiniol ar Raglen Arweinyddiaeth Ddiwylliannol y DU.
Cyn bo hir, bydd Yvette yn camu'n ôl o'i swydd bresennol fel Prif Weithredwr Visiting Arts, a bydd yn rhoi gorau i'w swydd fel Cadeirydd No Fit State Circus ym mis Rhagfyr 2019.
Wrth siarad am ei swydd newydd, dywedodd Yvette Vaughan Jones: "Rwyf wrth fy modd â'r cyfle i ymgymryd â swydd Cadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru ar yr adeg hon ac rwy'n ymwybodol iawn o amlygrwydd y Cadeiryddion blaenorol sydd wedi gwneud gwaith mor wych. Mae WNO yn sefydliad gwych ac mae'n hysbys iawn bod ei darddiad wedi'i ffurfio yn y corau cymunedol y mae Cymru yn enwog amdanynt.
Y pum penodiad newydd i Fwrdd WNO yw:
Lynne Berry OBE, a fydd yn ymgymryd â'r swydd Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol. Lynne yw Cadeirydd Sustrans a hyd yn ddiweddar hi oedd Cadeirydd Breast Cancer Now.
Mae swydd yr Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol yn swydd newydd sydd wedi'i chynllunio i weithredu fel seinfwrdd i'r Cadeirydd ac i wasanaethu fel cyfryngwr i aelodau eraill y bwrdd a'r Cyfarwyddwr Cyffredinol. Cyflwynwyd y swydd i gryfhau trefniadau llywodraethu Bwrdd WNO.
Manon Edwards Ahir, Pennaeth Newyddion, y Cyfryngau a Digidol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mwynhaodd Manon yrfa hir fel newyddiadurwr a chynhyrchydd cyfres yn y BBC gan weithio ym maes materion tramor a chasglu newyddion cyn arbenigo mewn gwleidyddiaeth.
Aileen Richards, cyn Is-lywydd Gweithredol Mars, Incorporated, lle cafodd yrfa 30 mlynedd yn gweithio mewn uwch swyddi yn y DU, Gwlad Belg a'r UDA. Mae Aileen yn Aelod Anweithredol annibynnol ar sawl bwrdd, gan gynnwys Undeb Rygbi Cymru.
Chitra Bharucha MBE, cyn Ddirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaeth Trallwyso Gwaed Gogledd Iwerddon, a Hematolegwr Clinigol Ymgynghorol, Ysbyty Dinas Belfast. Yn ystod ei gyrfa feddygol, bu iddi wasanaethu ar sawl pwyllgor a chyngor cenedlaethol a rhyngwladol, yn cynnwys Panel Cynghori Arbenigol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Cynnyrch Gwaed, ble datblygodd Bancio Gwaed Llinyn Bogail a chadeirio’r Pwyllgor Safoni Bancio Gwaed Llinyn Bogail yn Ewrop. Yn ddiweddarach, mae hi wedi gwasanaethu mewn sawl swydd rheoli, gan arbenigo mewn llywodraethiant corfforaethol, ac fe’i penodwyd yn Is-Gadeirydd – yn dod yn Gadeirydd Gweithredol – ar ddechrau Ymddiriedolaeth y BBC.
Nicola Amery, cyn Gyfarwyddwr Gweithrediadau yn Spire Healthcare plc. Mae gan Nicola dros 30 mlynedd o brofiad proffesiynol mewn swyddi Uwch-swyddog Gweithredol a swyddi anweithredol, yn bennaf ym maes gofal iechyd ac addysg.
Yn ychwanegol at aelodau newydd y bwrdd, penodwyd Aelod Annibynnol Archwilio a Risg newydd, Nigel Goldsworthy sydd â phrofiad cyfreithiol ac ariannol helaeth yn gweithio gyda Rolls Royce.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO, Aidan Lang: 'Mae'n bleser pur i mi groesawu holl aelodau newydd y bwrdd i Opera Cenedlaethol Cymru. Mae'n rhaid i sefydliadau celfyddydol esblygu o hyd os ydym am addasu i'r oes sydd ohoni sy'n newid yn barhaus. Wrth i linynnau'r pwrs gael eu tynhau ac wrth i sector y celfyddydau yn gyffredinol ddod o dan bwysau cynyddol, bydd y syniadau newydd a ddaw gyda'r aelodau newydd, ynghyd â phrofiad a gwybodaeth y bwrdd presennol, yn rhoi'r cwmni mewn sefyllfa gref i wynebu'r heriau sydd, yn ddiamheuol, o'n blaenau. Yn benodol, mae'n ased aruthrol i WNO gael yn Yvette, Cadeirydd sydd ag ystod mor eang o brofiad ym maes y celfyddydau, ac rwy'n edrych ymlaen yn arw at weithio ochr yn ochr â hi yn y blynyddoedd sydd i ddod'.