Newyddion

Her WNO i chi...

7 Mai 2020

Ydych chi'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i weithgareddau i lenwi'r diwrnodau ers i'r ysgolion gau?
Ydych chi’n gweithio o adref ond ar bigau i ryddhau eich ochr greadigol?
Ydych chi wedi bod yn crwydro o gwmpas y tŷ gan feddwl, beth allaf ei wneud â hwn?
Ddim yn gweld llygad yn llygad gyda'ch cyd-letywyr ond eisiau her i ddod â chi at eich gilydd?

Os ydych chi wedi cytuno gydag unrhyw rai o'r cwestiynau hyn, mae ein her gartref a osodir bob pythefnos yn berffaith i chi.

Mae ein her wedi'i dylunio i'ch annog chi i fusnesa yng nghwpwrdd dillad eich rhieni, y gegin, a'r ystafell honno sydd wedi'i hysbrydoli gan Monica Geller lle rydych yn taflu popeth i mewn iddi, yn ogystal ag adlonni'r rhai sydd yn eu harddegau a neiniau a theidiau, teuluoedd sydd dan straen a gweithwyr ifanc proffesiynol sydd eisiau gwneud y mwyaf o'u hamser gartref.

Yr her gyntaf oedd creu eich gwisg eich hun. Siwt neu arfwisg wedi'i gwneud o glustogau? Cynffon wedi'i gwneud o sgarffiau? Clogyn wedi'i wneud o gynfas wely, neu fasgiau o gardfwrdd. Eich hoff gymeriad llwyfan neu gymeriad newydd sbon.

Roedd y gwisgoedd a welsom yn amrywio o arwr Llychlynnaidd (Ring Cycle Wagner) i ysbryd dirgel yr opera (Cenedlaethol Cymru?).

Os hoffech chi gymryd rhan, mae'r ail her yn fyw ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd, a gallwch ddilyn y diweddaraf am ein her gyntaf ar ein tudalen gweithgareddau i'r teulu.

Ar ôl creu eich campwaith, postiwch eich llun ar y cyfryngau cymdeithasol, tagiwch ni (dolen isod) a chynnwys yr hashnod #WNOchallenge er mwyn i ni allu rhannu eich gwaith arbennig.

Beth yw'r rheolau? Mae hynny'n syml. Defnyddiwch yr hyn sydd gennych gartref ac uwchgylchwch...