Mae rhestr fer Her Ddylunio Opera Cenedlaethol Cymru wedi’u gyhoeddi.
Wedi derbyn dros 20 cyflwyniad o 3 coleg - Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Blackburn, a Phrifysgol De Cymru, ATRiuM – y dasg eleni oedd dylunio set ar gyfer Rigoletto Verdi.
Yn cyrraedd y rhest fer eleni mae:
- Caitlin Robinson (Prifysgol De Cymru, ATRiuM)
- Jayda-Leigh Barham (Prifysgol De Cymru, ATRiuM)
- Emilia Tutka (Prifysgol De Cymru, ATRiuM)
- Chelsea Maton (Coleg Caerdydd a’r Fro)
Derbyniodd Mollie Belcher (Prifysgol De Cymru, ATRiuM) canmoliaeth am ei gymagwedd greadigol a modern gan y panel o feirniaid a oedd yn cynnwys Jan Michaelis (Cyfarwyddwr Technegol WNO ); Robert Pagett (Pennaeth Cynhyrchu WNO); Ed Wilson (Rheolwr Cyffredinol Gwasanaethau Theatrig Caerdydd) a Darren Joyce (Pennaeth Gweithredu Gwasanaethau Theatrig Caerdydd).
Yn ei drydedd flwyddyn, mae Her Ddylunio WNO yn gyfle i fyfyrwyr yng ngholegau a phrifysgolion yr Academi Sgiliau Cenedlaethol roi eu sgiliau a'u creadigrwydd ar waith mewn tasg dylunio.
Bydd Caitlin, Jayda-Leigh, Emilia a Chelsea nawr yn mynd ati i greu blwch set, yn seiliedig ar lwyfan y Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, ar gyfer rownd terfynol y gystadleuaeth.
I ddysgu mwy am Her Ddylunio WNO, cliciwch yma