Newyddion

WNO yn lansio Rhondda Rips It Up!

8 Mawrth 2018

Yn Haf 2018 fe fydd Opera Cenedlaethol Cymru yn dathlu bywyd y swffragét arloesol a’r ddynes fusnes, Margaret Haig Thomas, yn ein cynhyrchiad newydd gyda chast sy’n fenywod, Rhondda Rips It Up!

Nid yw Rhondda Rips It Up! fel unrhyw beth sydd wedi ei gyflwyno o’r blaen gan WNO. Caiff ei berfformio ar ddull neuadd gerddoriaeth glasurol gyda chaneuon gwreiddiol wedi eu hysbrydoli gan sloganau'r swffragetiaid. Mae’r cynhyrchiad tafod yn y boch hwn yn mynd a’r gynulleidfa ar daith hudolus y weithredwraig arbennig yma.

Roedd Arglwyddes Rhondda, fel y’i gelwir, yn swffragét a oedd yn rhedeg cangen Casnewydd o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched sef y sefydliad milwrol a oedd yn ymgyrchu dros swffragetiaid yn y DU wedi ei sefydlu a’i rhedeg gan Emmeline Pankhurst.

Roedd hi’n ddynes fusnes arloesol ac yn aelod o fyrddau sawl cwmni rhyngwladol yn y 1920au. Hi oedd sefydlwr a golygydd y cylchgrawn dylanwadol femisintaidd Time and Tide ac ymgyrchodd yn ddiflino i sicrhau hawliau cyfartal ar gyfer merched. Hi oedd Llywydd Anrhydeddus benywaidd cyntaf Sefydliad y Cyfarwyddwyr ac wedi ei marwolaeth, roedd yn gyfrifol am sicrhau bod merched yn cael bod yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Rydym yn hapus iawn i groeso nol Madeleine Shaw (wedi ymddangos yn ddiweddar yn Der Rosenkavalier a Carmen ar gyfer WNO) yn fydd yn chwarae rhan Arglwyddes Rhondda a bydd y soprano Lesley Garrett yn arwain y gynulleidfa drwy’r stori fel Emcee mewn cymeriad yn seiliedig ar fywyd y ddifyrwraig Vesta Tilley, arweinydd benywaidd yn dynwared dyn. Dychwela Lesley i WNO wedi iddi ddifyrru cynulleidfa yn The Merry Widow ac yna Chorus! yn ystod 2015.

Gan ymadael a’r hyn sy’n arferol gan WNO yn ystod Tymor yr Haf, bydd Rhondda Rips It Up! yn cael ei ddangos am y tro cyntaf erioed yn y Riverfront yng Nghasnewydd cyn teithio ledled Cymru a Lloegr yn ystod mis Mehefin ac eto yn ystod yr hydref. Bydd y sioe yn ymddangos mewn lleoliadau llai mewn trefi a dinasoedd a bydd yn rhoi’r cyfle i WNO gyrraedd llawer iawn mwy o bobl gan gynnwys perfformiadau yn Aberhonddu, Treorci a’r Drenewydd. Bydd hefyd yn cael ei berfformio yn Hackney Empire yn Llundain am ddwy noson, lleoliad urddasol sy’n cynrychioli’r cyfnod a gaiff ei drafod yn y sioe.

Bydd rhaglen lawn o ddigwyddiadau rhad ac am ddim yn cyd fynd â’r cynhyrchiad er mwyn i bawb gael ymuno â gweithgareddau wedi eu cefnogi gan slogan y swffragét ‘Gweithredu nid Geiriau’ wrth i WNO weithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol eraill i ddathlu bywyd Margaret Haig Thomas. Bu i’w gwaith arwain y ffordd ar gyfer hawliau merched mewn byd personol, proffesiynol a gwleidyddol a hynny drwy gerddoriaeth, hiwmor a chân.

Ar 7 Mehefin bydd WNO hefyd yn cynnal symposiwm yng Nghasnewydd ar yr heriau y mae merched yn eu hwynebu yn y byd cerddoriaeth glasurol a fydd yn cynnwys nifer o siaradwyr amlwg ar draws y DU ac Ewrop yn rhannu eu profiadau, heriau ac yn edrych ar ffyrdd o wneud gwahaniaeth ar gyfer y dyfodol. Byd gwybodaeth am docynnau i’r digwyddiad yma ar ein gwefan cyn bo hir.

I barhau gyda’r gweithgareddau cyffrous o amgylch y premiere, bydd cyfres ddogfennol ar-lein wedi ei greu gan y libretydd Emma Jenkins, yn edrych ar stori ac anturiaethau'r swffragét o Gasnewydd, Margaret Haig Thomas, ac yn codi’r llen ar beth sydd angen i fynd â chomedi cerddorol modern o’r sgript i’r llwyfan. Fe fydd yna pump pennod a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan yn ogystal â’n sianel YouTube.

Yn olaf byddwn yn parhau ein defnydd arloesol a chreadigol o dechnoleg ddigidol fel gwelwyd yn Fieldand Magic Butterfly. Dyma brosiect mwyaf uchelgeisiol ac arbrofol y cwmni hyd yn hyn sy’n cynnwys gosodiad Realiti Estynedig yn benodol i safle. Dyma arbrawf i WNO drwy gymysgu cerddoriaeth, theatr a pherfformiad. Bydd cynulleidfaoedd yn cael eu tywys o’r gwagle corfforol i amgylchedd estynedig drwy iPad fel y gall cynulleidfaoedd gael mynediad i fyd Boneddiges y Rhondda mewn ffordd gysylltiol ac unigryw.

Bydd yr Arddangosfa Realiti Estynedig yn caniatáu i gynulleidfaoedd archwilio The Sessions House ym Mrynbuga drwy rith luniau a thechnoleg - yma cafodd Margaret Haig Thomas ei rhoi ar brawf a’i dedfrydu am chwythu blwch postio yng Nghasnewydd gyda dyfais ffrwydrol wedi ei wneud gartref.

Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o’n perfformiadau neu gweithgareddau am ddim ewch i’n tudalen gwefan.