Newyddion

Cerddorfa WNO yn dychwelyd i Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol 2018-19

29 Mehefin 2018

Mae tocynnau ar werth nawr ar gyfer Cyfres o Gyngherddau Rhyngwladol 2018-19 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd a phleser yw cyhoeddi y bydd Cerddorfa WNO yn cymryd rhan unwaith eto.

Arweinir dau o’n cyngherddau gan ein Cyfarwyddwr Cerddoriaeth, Tomáš Hanus, ac arweinir y trydydd gan yr Arweinydd Llawryf Carlo Rizzi sy’n dychwelyd i’r Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol am y tro cyntaf ers 2008. Mae Tomáš wedi derbyn canmoliaeth fawr am ei gyngherddau yn Neuadd Dewi Sant, gan ennyn diddordeb y gynulleidfa’n syth ac mae’n mwynhau’n arw rhaglennu cerddoriaeth sydd â chysylltiadau cryf â thymhorau opera WNO. Mae gan Carlo berthynas dda â chynulleidfaoedd Caerdydd hefyd, nid yn unig drwy ei berfformiadau gydag WNO ond hefyd drwy ei waith gyda myfyrwyr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a’i gysylltiad blaenorol â chystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd.

Cynhelir ein cyngerdd cyntaf, dan arweiniad Tomáš ar ddydd Sul 4 Tachwedd, ac mae’r rhaglen yn cynnwys darnau gan Rossini, Elgar a Janáček. Bydd y cyngerdd yn agor gydag agorawd adnabyddus William Tell, yna bydd y sielydd ifanc o America Narek Hakhnazaryan yn ymuno â’r Gerddorfa ar gyfer Concerto Soddgrwth Elgar, Op 85. Ar ôl yr egwyl, bydd Tomáš yn cyflwyno dau ddarn gan ei gydwladwr Janáček. Bydd yr unawdydd gwadd Gustáv Beláček yna’n perfformio Monolog Forester, sy’n deillio o’r opera delynegol iawn, The Cunning Little Vixen. Yna bydd y cyngerdd yn cloi gyda Sinffonieta ddathliadol Janáček.

Wrth i ni groesawu’r flwyddyn newydd, bydd Carlo Rizzi yn cymryd yr awenau ar gyfer y cyngerdd nesaf ar ddydd Sadwrn 27 Ionawr, lle bydd y feiolinydd Alexander Sitkovetsky yn ymuno â ni. Cafodd dderbyniad gwresog pan berfformiodd gyda ni yng Ngogledd Cymru ym mis Mai 2018.  Mae rhan gyntaf y cyngerdd yn mynd â ni i’r Alban, gydag Agorawd Hebrides, Mendelssohn a Scottish Fantasy Op 46, Bruch. Ar gyfer yr ail ran, byddwn yn symud i Rwsia gyda Symffoni Rhif 2 hynod boblogaidd Rachmaninov.

Bydd Tomáš yn dychwelyd ar gyfer ein perfformiad olaf yng Nghyfres Cyngherddau Rhyngwladol ar ddydd Mercher 20 Mawrth, gyda rhaglen yn cynnwys gweithiau Richard Strauss, Mozart a Brahms. Yr unawdydd ar gyfer y cyngerdd hwn yw’r pianydd o fri rhyngwladol Paul Lewis CBE, sy’n ymuno â’r Gerddorfa ar gyfer Concerto Piano Rhif 27, K595 Mozart. Bydd y noson yn dechrau gyda cherdd symffonig Till Eulenspiegels lustige Streiche, Op 28 Strauss, sy’n seiliedig ar y straeon am yr arwr gwerin Almaenig. Byddwn yn gorffen gyda Symffoni Rhif 3, Op 90 Brahms, darn sy’n llwyddo i greu ymdeimlad o dawelwch a llonyddwch na ellir dianc rhagddo.

Byddem wrth ein boddau pe baech yn gallu ymuno â ni ar gyfer un neu fwy o’r cyngherddau hyn. Mae tocynnau ar werth nawr gan Neuadd Dewi Sant.