Newyddion

Byd Cyfieithu WNO

3 Hydref 2023

Ymhlith y cynhwysion hanfodol ar gyfer perfformiad opera mae'r gwisgoedd, cantorion, setiau, cerddorfa a … cyfieithu? Mae cyfieithu yn rhan hanfodol o bron bob cynhyrchiad operatig, gadewch i ni archwilio mwy am y rhan hollbwysig a gwerthfawr hon o’n Cwmni sy’n helpu cadw pethau i fynd i ni o ddydd i ddydd.

Fel ffurf ar gelfyddyd canu, mae opera yn naturiol yn defnyddio ieithoedd o bedwar ban byd. Tra bod repertoire operatig cyffredin yn cynnwys yr ieithoedd Eidaleg, Almaeneg a Ffrangeg traddodiadol, mae opera hefyd wedi’i chanu yn Rwsieg, Tsieceg, Hwngareg, Swedeg, Tsieinëeg, a Chymraeg, ymhlith llawer iawn o rai eraill. Mae yna hyd yn oed operâu sy’n defnyddio llu o ieithoedd, er enghraifft Akhnaten Philip Glass (Saesneg, Eiffteg, Hebraeg ac Acadeg) neu Oedipus Rex (sy’n defnyddio Lladin ac iaith y gynulleidfa ar gyfer adrodd) gan Stravinsky. Mae cyfieithu bellach yn rhan hanfodol o sut mae cynulleidfaoedd yn gwneud synnwyr o'r hyn sy'n digwydd ar y llwyfan.

Un o brif ddefnyddiau cyfieithu WNO yw ar gyfer ein huwchdeitlau, neu ‘surtitles’, sef sgrin uwchben y llwyfan sy’n taflunio libreto’r opera (y testun neu’r geiriau) mewn cyfieithiad fel bod cynulleidfaoedd yn gallu deall beth sy’n digwydd ar y llwyfan yn eu hiaith frodorol. Yn dod o’r gair Ffrangeg ‘sur’, sy’n golygu drosodd neu ymlaen, mae uwchdeitlau yn dal yn gymharol newydd i’r byd opera, gyda WNO wedi defnyddio’r dechnoleg newydd gyntaf mewn cynhyrchiad 1994 o Der Rosenkavalier. Heddiw mae WNO yn defnyddio uwchdeitlau Saesneg ar gyfer ein holl berfformiadau prif raddfa, yn ogystal ag uwchdeitlau Cymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno.

Wrth gwrs, gellir perfformio opera mewn cyfieithiad hefyd. Mewn gwirionedd, dyma oedd y norm cyn i uwchdeitlau gael eu cyflwyno i dai opera’r byd. Er enghraifft, perfformiwyd ein cynyrchiadau diweddar o The Barber of Seville gan Rossini a Cherry Town, Moscow gan Opera Ieuenctid WNO yn Saesneg, lle’r oedd y libreti gwreiddiol yn Eidaleg a Rwsieg. Gall Opera roi gwedd anhraddodiadol ar gyfieithu hefyd, megis cynhyrchiad WNO yn 2023 o The Magic Flute y cafodd ei libreto Almaeneg ei hail-gyfieithu i Saesneg modern gan gyfarwyddwr yr opera, Daisy Evans.

Fel Cwmni dwyieithog balch, mae popeth y mae WNO yn ei gynhyrchu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn aml yn gallu golygu llawer iawn o gyfieithu i’n cydweithwyr Cymraeg eu hiaith yn y tîm Cynulleidfaoedd. Yn ffodus, mae WNO yn gweithio gyda rhai asiantaethau cyfieithu gwych sy’n ein helpu ym mhob agwedd ar ein gwaith o ddeunydd marchnata, nodiadau rhaglen ac erthyglau, datganiadau i’r wasg, a chynnwys cyfryngau digidol a chymdeithasol.

Yn ogystal â'r Gymraeg, mae WNO yn aml angen cyfieithiadau mewn rhaglenni cyngerdd ar gyfer llawer o ieithoedd eraill yn ogystal ag Eidaleg, Almaeneg a Ffrangeg. Yn y blynyddoedd diwethaf mae rhaglenni a gwaith ymgysylltu WNO wedi golygu bod y Cwmni wedi defnyddio cyfieithiadau yn Farsi, Sorani ac Arabeg, yn fwyaf diweddar yng nghynhyrchiad WNO o The Shoemaker mewn cydweithrediad ag Oasis Cardiff a Fio. Rydyn ni bob amser yn mwynhau mentro ac ychwanegu mwy o ieithoedd at ein repertoire, ac mae Ainadamar y tymor hwn yn nodi’r tro cyntaf erioed i WNO berfformio opera fawr yn Sbaeneg.