Newyddion

Diwrnod y Llyfr - straeon di-rif Faust

5 Mawrth 2020

Ar ddydd Iau 5 Mawrth rydym yn dathlu Diwrnod y Llyfr, a bydd plant ledled y wlad yn gwisgo fel eu hoff gymeriad o lyfr ac yn dathlu'r mwynhad a geir o ddarllen. Er na allwn fod yn siwr a oes llawer o blant 5 oed yn plymio i fyd Marlowe, Goethe neu Benét (go dda nhw os ydynt), mae Faust yn ei sawl ffurf wedi'i ymgorffori yn ein hymwybyddiaeth ddiwylliannol, o The Simpsons i Bedazzled; mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i sioeau bale, ffilmiau, dramâu ac, wrth gwrs, opera.

Mae erthygl sy'n crynhoi stori Faust yn cychwyn fel hyn, ‘Faust is bored and depressed’ sy'n ddatganiad mae llawer iawn o bobl yn gallu uniaethu ag ef. Mae Faust yn seiliedig ar chwedl Almaenaidd, ac mae ei enw yn tarddu o air Lladin sy'n golygu 'lwcus' - er nad yw'n berson ffodus mewn gwirionedd - yn y pen draw, mae'n mynd i uffern o bob man. Stori am ddyn yn gwneud cytundeb â'r diafol; i werthu ei enaid am elw bydol.

Mae nifer y llyfrau sy'n seiliedig ar Faust yn aruthrol, gyda'r awduron yn amrywio o Marlowe i Goethe, Benét, Thomas Mann a Dr. Mikhail Bulgakov - i enwi rhai ohonynt yn unig. Eric gan Terry Pratchett a Christine gan Stephen King yw'r ddau waith mwyaf diweddar i ddeillio o'r stori chwedlonol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er i'r saga wreiddiol fod yn 88,567 gair o hyd, gydag amser darllen cyfartalog o wyth awr a thri munud, mae ein hopera ni yn para llai na hanner yr amser hwnnw. Felly, os ydych eisiau ffugio eich bod wedi darllen y clasur swmpus, sy'n adnabyddus fel un o gerddi hiraf y byd, dewch i weld y cynhyrchiad celfydd hwn yn cael ei berfformio am y tro cyntaf; ffordd llawer mwy cyffrous o ddod i adnabod y plot - hwyl gythreulig, heb os!

Pa un a ydych yn gwisgo eich plentyn fel Willy Wonka neu'n mynd i'r gwaith wedi gwisgo fel y Gryffalo ar Ddiwrnod y Llyfr eleni, gadewch i ni ddathlu'r llawenydd a gawn o ddarllen, drwy ymgolli mewn stori a dianc i fyd arall. Dewch i wylio Faust yn gwneud cytundeb gyda'r diafol yn ein cynhyrchiad tanbaid newydd y Gwanwyn nesaf. Ac os nad yw hwn yn addas i'r plant, mae ein diwrnod Darganfod Opera ar 14 Mehefin yn addas tu hwnt. Fe welwn ni chi yno (gwisg Gryffalo ddim yn angenrheidiol).