Mae heddiw’n nodi Diwrnod Theatr y Byd, sy’n ddiwrnod mae’r gymuned theatr ryngwladol yn ei ddathlu ar 27 Mawrth bob blwyddyn. Wedi’i sefydlu yn 1961 gan y Sefydliad Theatr Rhyngwladol (ITI), ysgrifennwyd neges gyntaf Diwrnod Theatr y Byd gan Jean Cocteau yn 1962.
I nodi’r diwrnod, rydym yn edrych yn ôl ar rai o’r theatrau anhygoel rydym wedi cael y fraint o berfformio ynddynt.
Digwyddodd berfformiad cyntaf opera lwyfan lawn WNO yn Theatr Tywysog Cymru yng Nghaerdydd ar 15 Ebrill 1946 – cynhyrchiad hardd a chain o’r ddeuawd eiconig Cavalleria Rusticana ac I pagliacci. Ers hynny, mae’r theatr wedi cael ei throi’n dafarn, ond mae rhai o’r nodweddion gwreiddiol i’w gweld o hyd. Ein cartref nesaf oedd Y Theatr Newydd, Caerdydd, gyda’n perfformiad cyntaf yn 1954. Buom yn perfformio yno am 50 mlynedd, cyn symud i’n cartref presennol, Canolfan Mileniwm Cymru, yn 2004. Dywedodd Andrew Lloyd Webber unwaith mai Theatr Donald Gordon yn y Ganolfan oedd ei hoff leoliad.
Rydym hefyd yn mynd ar daith i amrywiaeth o theatrau ledled Cymru, o Venue Cymru yn Llandudno i Pontio ym Mangor a Riverfront yng Nghasnewydd i theatrau ledled Lloegr, gan gynnwys Birmingham Hippodrome, Hall for Cornwall, Mayflower Theatre yn Southampton, Theatre Royal yn Plymouth a Queen's Theatre yn Barnstaple, i enwi dim ond rhai. Rydym hyd yn oed wedi mynd â’r Cwmni ar deithiau rhyngwladol, yn ymweld â theatrau ym mhedwar ban byd.
Yn 1989, gwnaethom berfformio Falstaff yn y Brooklyn Academy of Music yn Efrog Newydd, ac roedd ein cyn-noddwr, y diweddar Diana, Tywysoges Cymru, yn bresennol. Gwnaethom hefyd berfformio’r cynhyrchiad yn Teatro Lirico ym Milan y flwyddyn ganlynol, fodd bynnag, roedd yn rhaid i’r arweinydd gystadlu gyda sgrin fawr yn dangos rownd derfynol Cwpan Ewrop rhwng AC Milan a Benfica, a oedd o fewn pellter clyw o’r theatr. AC Milan oedd yn fuddugol, a rhedodd y criw lleol allan i’r stryd i ddathlu, gan olygu bod yn rhaid i holl aelodau’r Cwmni teithio fynd ati fel lladd nadroedd.
Rydym wedi cael y pleser o berfformio Pélleas et Mélisande yn yr Théatre du Châtelet hardd ym Mharis yn 1992 ac yn 1994.
Yn dilyn ymweliad llwyddiannus gyda'r Cwmni llawn yn 2017, dychwelodd ein tîm Rhaglenni ac Ymgysylltu i Dŷ Opera Dubai yn 2019 i gyflwyno cyfres o weithdai a dosbarthiadau meistr gydag ysgolion lleol, corau cymunedol, a cherddorion ifanc o'r Ganolfan Celfyddydau Cerddorol.
Aeth WNO ar daith i Brno, y Weriniaeth Tsiec, yn 2022, a gwnaethant chwarae yn y theatr a oedd newydd ei hadnewyddu ar ôl chwarae yno am y tro cyntaf yn 2018. Roedd yr ymweliad cyntaf yn un arbennig diolch i luwch eira cyntaf y flwyddyn yn disgyn ar y tir y tu allan, ond roedd ein hail ymweliad yn fwy cofiadwy fyth wrth i’r Cwmni dderbyn cymeradwyaeth o fri ar gyfer y cyngerdd ac ar gyfer The Makropulos Affair.
Dim ond llond llaw o’r theatrau ANHYGOEL rydym wedi ymweld â nhw yw’r rhain, ac rydym yn gobeithio eich gweld yn un o’n nifer o’n hoff leoliadau pan fyddwn yn ymweld â Chaerdydd, Cornwall, Llandudno, Oxford, Birmingham ac Aberhonddu yr Haf hwn gyda Candide.