Newyddion

Y Tîm Ieuenctid a Chymuned yn Dubai

14 Mawrth 2019

Yn dilyn ymweliad llwyddiannus gyda'r cwmni llawn yn 2017, dychwelodd tîm Ieuenctid a Chymuned WNO i Dubai y mis hwn, mewn partneriaeth â British Council UAE, i gyflwyno cyfres o weithdai a dosbarthiadau meistr gydag ysgolion lleol, corau cymunedol, a cherddorion ifanc o'r Ganolfan Celfyddydau Cerddorol.

Gyda’i hofferynnau a'u lleisiau wedi’u pacio, teithiodd pedwar aelod o Gerddorfa WNO, tri aelod o'r tîm Ieuenctid a Chymuned, dau ganwr proffesiynol ac un répétiteur 4,000 o filltiroedd o Gaerdydd yr holl ffordd i Dubai i ddweud Shwmae unwaith eto wrth Dŷ Opera Dubai.

Dechreuodd yr ymweliad gyda'n Dosbarth Meistr Canu Cymunedol, lle cafodd Kate Woolveridge, animateur lleisiol WNO, a’r repetiteur Nicki Rose gwmni cyfranogwyr talentog a brwdfrydig o'r gymuned leol. Ymhen dim, roeddynt wedi meistroli Laudate Dominium gan Mozart a'r Habanera hynod adnabyddus o Carmen gan Bizet (sy'n ffurfio rhan o Dymor 2019/2020 WNO), ac yn llawn cynnwrf, cawsant y cyfle prin i berfformio gyda Kate a Stacey Wheeler (Corws WNO). Daeth y sesiwn i ben gyda chanmoliaeth, selfies ac ambell i dro ar bensetiau rhith-wirionedd WNO, Magic Butterfly.

Yn dilyn hynny, dechreuodd y tîm ar dri diwrnod o weithdai i ysgolion. Fel rhan o'r gweithdai hyn ar y thema 'Hudoliaeth Opera', aeth Kate Woolveridge â'r plant ar wibdaith drwy The Magic Flute gan Mozart gyda phwyslais arbennig ar y tirlun cerddorol, ei stori a'i themâu, a chrynodeb o gefndir y cyfansoddwr. Daethpwyd â'r sgôr yn fyw gan offerynwyr WNO, Steven Crichlow, Roger Cutts, Sarah Bennington, Johnny Helm a Nicki Rose. Yn ystod y gweithdai, fe gafodd y plant gyfle i gael golwg manwl ar yr offerynnau, dysgu am y gerddorfa a gweithio fel rhan o dîm o fewn y gerddorfa, a gofyn cwestiynau (un o'n hoff gwestiynau oedd 'pam mae'r trombôn mor droellog?'). Yn ogystal â hyn, cawsant y cyfle i glywed Stacey Wheeler yn perfformio aria gyfarwydd Brenhines y Nos, Der Hölle Rache o The Magic Flute. Yn wir, fe'i perfformiodd am 8am un diwrnod!

Fel rhan o raglen etifeddiaeth y DU/yr Emiraethau Arabaidd Unedig y British Council, cawsom gwrdd â thros 250 o blant ysgol 6-11 mlwydd oed o naw o wahanol ysgolion a chanolfannau dysgu lleol. Rydym wedi cael adborth gwych hyd yma, gan gynnwys y sylw hyfryd hwn gan Ganolfan Manzil: 

Students had a wonderful time today. The Welsh National Opera Workshop team were amazing and had our students engrossed in the activities. Students returned to school all excited to share their experience. Thank you so much for giving our students an opportunity of being a part of such an amazing show.

Cydweithiwyd yn agos â'r Ganolfan Celfyddydau Cerddorol yn Dubai yn ystod rhan olaf ein hymweliad. Yn Nhŷ Opera Dubai, daethom â thua 60 o gerddorion ifanc ynghyd i ffurfio cerddorfa, gyda llawer o'r cerddorion hynny heb chwarae fel rhan o ensemble o’r blaen. Dan arweinyddiaeth Steven Crichlow a chyda chefnogaeth Sarah Bennington, Nicki Rose, Roger Cutts a Johnny Helm, fe ddysgodd y cerddorion ifanc bedwar darn cerddorfaol, a chafwyd perfformiad ganddynt ar y diwedd (gyda chantorion opera yn canu'n fyw) yn Stiwdio Opera Dubai o flaen tyrfa dda o gefnogwyr. 

A fantastic few days! Thanks to the Welsh National Opera team for being such an inspiration to the students – as well as the teachers.

Brian Cunningham, Centre for Musical Arts

Cawsom amser gwych yn Dubai yn #cysylltudiwylliannau #connectingcultures. Gobeithio y cawn barhau i wneud hynny eto cyn hir.