Yn y byd prysur sydd ohoni, gall fod yn anodd cael amser i chi'ch hun. Ond a oeddech chi'n gwybod, yn ôl astudiaethau, y gall dim ond pum munud o ganu gael effaith gadarnhaol ar y corff a'r meddwl? Mae canu'n rhoi hwb i'ch iechyd meddwl, eich system imiwnedd ac yn eich llenwi gyda ‘hormonau hapus', fel dopamin ac endorffinau. Mae'n ffordd wych o ofalu amdanoch chi'ch hun.
Ond does dim rhaid i ganu fod yn weithgaredd unigol – mae corau'n ffordd wych o gysylltu â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd, a sefydlu trefn wythnosol sy'n seiliedig ar ganu, a'i holl fanteision. Yn ôl yr astudiaethau, caiff yr hormon bondio cymdeithasol, ocsitocin, ei ryddhau wrth i chi ganu, sy’n egluro o bosib pam fod canu mewn grŵp yn ffordd mor effeithiol o dorri'r ias.
Mae rhaglen Cysur Opera Cenedlaethol Cymru yn brosiect sy'n pontio'r cenedlaethau ac a gynlluniwyd i gyfoethogi bywydau pobl yr effeithir arnynt gan ddementia. Ymwelir ag ysgolion cynradd er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r clefyd, ac i gynyddu empathi a dealltwriaeth gymdeithasol o'r clefyd. Mae ein sesiynau canu wythnosol rheolaidd yn rhoi profiad cerddorol hamddenol a chymdeithasol sy'n helpu aelodau i ail-fyw atgofion melys, ysgogi llawenydd a rhoi cysur i'r aelodau sy'n byw gyda dementia a'u hanwyliaid.
Er nad oes triniaeth sy'n gwella dementia ar hyn o bryd, canfuwyd bod therapi cerddoriaeth yn cael effaith gadarnhaol ac yn lleddfu rhai o'r symptomau a all ddigwydd i bobl sy'n dioddef gyda dementia. Dengys ymchwil y gall therapi cerddoriaeth effeithiol leddfu symptomau ymddygiadol fel iselder a gorbryder a helpu i gysuro unigolion pan fyddant yn profi symptomau fel aflonyddwch. Dangosir hefyd bod cerddoriaeth yn gwella cof pobl sydd â chlefyd Alzheimer ysgafn. Dywedir bod cof cerddoriaeth yn fath o gof dealledig, wedi'i serio ar yr ymennydd, ac mae astudiaethau wedi dangos y gall gwrando ar gerddoriaeth oleuo sawl rhan o'r ymennydd, mannau nad ydynt yn cael eu cyrraedd fel arall. Mae tystiolaeth wedi awgrymu bod yr ymennydd yn well am ddal gafael yn y gerddoriaeth a glywir rhwng 10 a 30 oed, a gall defnyddio cerddoriaeth i ailgynnau'r atgofion hyn fod yn lles i'r unigolyn.
Ein nod yw dod â phrofiad hyfryd a manteision canu i bawb yn ein cymunedau, o unrhyw oed. Daw ein Corau Cysur â phobl ynghyd mewn amgylchedd diogel a chymdeithasol, gan ddefnyddio cerddoriaeth a chanu corawl i helpu i wella bywydau'r bobl sydd wedi eu hynysu gan ddementia. Mae'r sesiynau'n cynnig budd seicolegol a chorfforol canu corawl, ond hefyd yn helpu'r aelodau i greu cysylltiadau newydd a pheidio â theimlo mor unig.
Aelod o'r Côr CysurMae'n amgylchedd cynnes a chefnogol, rhywbeth i'w drysori
Os ydych chi'n diddori mewn ymuno ag un o'n Corau Cysur neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Chynhyrchydd WNO, Jennifer Hill ar jennifer.hill@wno.org.uk.