Newyddion

Eich rhodd i opera

10 Medi 2024

A ninnau ar drothwy agoriad Tymor Hydref 2024 Opera Cenedlaethol Cymru, gyda chynyrchiadau newydd o Rigoletto Verdi ac Il trittico Puccini, yn ystod y mis Medi hwn gwelir hefyd ddyfodiad cynllun aelodaeth symlach WNO.


Mae Aelodau Opera Cenedlaethol Cymru’n darparu cefnogaeth hanfodol i’r Cwmni, gan ein galluogi i gynhyrchu opera o safon fyd-eang, ynghyd â gwaith cymunedol sydd wedi ennill sawl gwobr. Yn gyfnewid am hynny, caiff Aelodau gyfleoedd i gael cipolwg y tu cefn i’r llwyfan, ynghyd â derbyn diweddariadau rheolaidd a chynnwys unigryw, a mynediad i ymarferion gwisgoedd, digwyddiadau, a mwy.

Yn y cyfnod cythryblus hwn, nid yw ond yn bosibl i WNO gynnal ei gynyrchiadau opera eithriadol, ei artistiaid enwog, ynghyd â meithrin doniau ifanc a chynnal ei brosiectau cymunedol nodedig, gyda chymorth parhaus ein cefnogwyr rhyfeddol.

Am bris o £6.25 y mis yn unig, gallwch ddod yn aelod o WNO a bod yn rhan o’n stori: gan sicrhau dyfodol WNO, fel y gallwn barhau i ddod ag operâu a gwaith rhagorol WNO i gynulleidfaoedd a chyfranogwyr ledled Cymru a Lloegr.

Dyma ddim ond rhai enghreifftiau o’r hyn y mae eich aelodaeth a’ch cefnogaeth yn ei olygu i WNO:

Yn ystod Tymor 2023/2024, mae 1,054 ohonoch wedi’n cefnogi ni fel Aelodau o gynllun Gyfeillion WNO, a’r cynllun Noddwyr, sydd wedi’i enwi o’r newydd.

Yn ogystal â hyn, mae Aelodau wedi’n helpu ni i godi dros £60,000 i gefnogi ein cynyrchiadau yn 2023/2024, a oedd yn cynnwys Death in Venice(Britten), sef cynhyrchiad o fri a oedd yn torri tir newydd, ynghyd â’r opera driphlyg nodedig Il trittico.

Mae aelodaeth WNO wedi’n helpu ni i lwyfannu pum opera, sawl taith gyngerdd, a’n galluogi ni i ymweld â 15 o leoliadau perfformio ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Mae hi wedi codi £1.5 miliwn, sy’n cefnogi gwaith y Cwmni cyfan, ar y llwyfan ac oddi arni, ac yn gwasanaethu ein cymunedau.

I ddod yn Aelod o’r WNO, a chael cefnogi gwaith a dyfodol WNO, cysylltwch â memberships@ wno.org.uk neu ffoniwch 02920 635 058.