Newyddion

Byth yn rhy hen neu’n rhy ifanc i fod yn Gyfaill

4 Ionawr 2018

Yn Ionawr 2018 fe wnaeth Cyfeillion WNO groesawu ein haelod hynaf a’n haelod ieuengaf.

Mae gwraig 94 mlwydd oed wedi bod yn mynychu ac yn mwynhau digwyddiadau Cyfeillion Bryste ers dwy flynedd bellach ac mae hi wedi ymaelodi, ac yn difaru ei bod heb wneud hynny flynyddoedd yn ôl. Mae hyn yn dangos nad ydych fyth yn rhy hen i garu opera.

Roeddwn hefyd wrth ein bodd i groesawu ein Cyfaill WNO ieuengaf, Owen Swanborough i'n grŵp hyfryd o selogion opera. Mae Owen yn newydd ddyfodiad i opera ond darganfyddodd ei gariad at gerddoriaeth pan ddechreuodd wersi llais pan oedd dim ond yn 6 mlwydd oed. Cafodd ei brofiad operatig cyntaf pan welodd ei athrawes canu opera, Abigail Kelly yn perfformio yn The Thieving Magpie, yna cafodd ei ysbrydoli i wrando ar fwy o opera a’i hoff waith yw recordiad o La bohème gyda Freni a Pavarotti. Y cynhyrchiad WNO cyntaf i Owen ei weld oedd Die Fledermaus ym Mirmingham yn 2017 a chafodd ei swyno gan yr opera o'r canu a’r actio gwych i'r gwisgoedd ysblennydd.

Yn dilyn y cynhyrchiad hwn penderfynodd ei deulu y byddai Aelodaeth Cyfaill WNO yn anrheg wych ar gyfer ei ben-blwydd. Roedd Owen wrth ei fodd â’r anrheg ac mi oedd yn edrych ymlaen at weld Don Giovanni yng ngwanwyn 2018. Fe wnaeth y teulu hefyd dod i weld yr ymarfer gwisgoedd ym mis Chwefror 2018. Dyma ddim ond un o’r manteision y byddwch chi'n eu cael fel Cyfaill WNO. Pan fyddwch chi'n prynu tocyn i un o'n hoperâu, cewch gyfle hefyd i weld yr ymarfer gwisgoedd yng Nghaerdydd.

Trwy ddod yn Gyfaill byddwch yn cyfrannu at ein gwaith ac yn ein cynorthwyo i ddarparu operâu trawiadol, cyngherddau cerddorfaol a'r holl waith rydym yn ei wneud gydag ieuenctid a'r gymuned. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ddod yn Gyfaill WNO. 

Gobeithiwn y byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ein haelodau ac yn prynu’r rhodd o gerddoriaeth i’r carwr opera yn eich bywyd neu hyd yn oed fel anrheg Nadolig i chi eich hun.

Am fwy o wybodaeth ar ymuno’r Cyfeillion cliciwch yma.

I brynu anrheg aelodaeth ffoniwch Cyfeillion WNO ar 029 2063 5014