Dathlwch y Flwyddyn Newydd gyda ffefrynnau o Fienna Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru
7 Rhagfyr 2023Bydd cyngerdd ‘Dathliad Fiennaidd’ Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, a fydd yn teithio ledled Cymru a Lloegr, yn agor yn Abertawe ar 4 Ionawr i groesawu’r Flwyddyn Newydd.
Yn ymuno â’r daith fydd Artistiaid Cyswllt newydd WNO, Emily Christina Loftus a Beca Davies.
Bydd Cerddorfa WNO yn croesawu’r Flwyddyn Newydd gyda’i thaith flynyddol Dathliad Fiennaidd, yn cyflwyno’r gerddoriaeth orau o Fienna a naws y brifddinas yn Awstria gerbron cynulleidfaoedd ledled Cymru a de-orllewin Lloegr fis Ionawr.
Yn agor yn Y Neuadd Fawr yn Abertawe ar 4 Ionawr, bydd Cerddorfa WNO yn teithio i leoliadau yn Truro, y Drenewydd, Bangor, Southampton a Chaerdydd. Bydd y Dathliad Fiennaidd hefyd yn ymweld ag Aberhonddu am y tro cyntaf erioed. Daw’r daith i ben ar 20 Ionawr yng Nghadeirlan Tyddewi yn Sir Benfro.
Bydd Blaenwr WNO, David Adams, yn arwain y Gerddorfa a chynulleidfaoedd drwy gasgliad o’r waltsiau a’r polcas o’r radd flaenaf, gan gyfansoddwyr fel Josef a Richard Strauss, Dvořák, Johann Strauss II, Weber, a berfformiwyd gan Chopin a Liszt, a Brahms.
Ymhlith repertoire calonogol y daith mae Wo die Zitronen bluh’n (Lle Blodeua’r Lemon) gan Johann Strauss II, sy’n rhan annatod o Gyngherddau Blwyddyn Newydd Fienna ers 1951; Ave Maria gan Schubert; y bolca fywiog Ohne Sorgen (Heb Ofid) gan Josef Strauss; a’r agorawd poblogaidd i Dichter and Bauer gan Suppé.
Yn ymuno ag Adams a’r Gerddorfa fydd Artistiaid Cyswllt newydd WNO, y soprano Emily Christina Loftus a’r mezzo-soprano Beca Davies, a fydd yn perfformio detholiad o ariâu, gan gynnwys Beim Schlafengehen (Wrth Gwympo i Gysgu) o Bedair Cân Olaf gan Strauss ac Ich lade gem mir Gäste ein (Rydw i'n caru gwahodd fy ffrindiau) oDie Fledermaus Johann Strauss II. Yn cloi’r cyngerdd fydd Du Solsst der Kaiser meiner Seele Sein o Der Favorit (Ti Fydd Ymerawdwr fy Enaid) gan Stolz.
Dywed Beca Davies: ‘Hyd yn hyn mae fy nghyfnod gydag WNO wedi bod yn llawn ymarferion, perfformiadau a chyngherddau gyda'r Artistiaid Cyswllt eraill, ynghyd â sesiynau hyfforddiant a mentora gyda Llysgennad WNO, Rebecca Evans.'
Medd Emily Christina Loftus: ‘Rwyf wir yn edrych ymlaen at fod yn rhan o daith y cyngerdd Dathliad Fiennaidd. Rwy’n edrych ymlaen yn benodol at gwrdd ag aelodau Cerddorfa WNO a dod i’w nabod yn well, a pherfformio Beim Schlafengehen o Bedair Cân Olaf gan Strauss.'
Gellir mynnu tocynnau ar gyfer y cyngerdd ym mhob lleoliad ac am ragor o wybodaeth, ewch i wno.org.uk/cy/orchestra
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Opera Cenedlaethol Cymru yw'r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu cyngherddau, gwaith allgymorth ac operâu ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a'n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a'n nod yw dangos i genedlaethau'r dyfodol bod opera'n gelfyddyd foddhaus, perthnasol a byd-eang sydd â'r grym i gael effaith ac i ysbrydoli.
Mae lluniau cynyrchiadau WNO ar gael i'w lawrlwytho o wno.org.uk/cy/press
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch gwaith WNO ar gael yn wno.org.uk/cy/
- Cefnogir y Gerddorfa gan Mathew a Lucy Prichard
- Cefnogir Prif Rolau’r Gerddorfa gan y Cylch Prif Chwaraewyr
- Mae rhaglen Artist Cyswllt WNO wedi ei chefnogi gan Fwrsariaeth Sheila a Richard Brooks
Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â:
Sophie Revell, Cynorthwyydd y Wasg a Chyfathrebu
Christina Blakeman, Rheolwr y Wasg
Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu
Penny James a Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu (rhannu swydd)
penny.james@wno.org.uk / rachel.bowyer@wno.org.uk
Dyddiadau Teithio’r Cyngerdd Dathliad Fiennaidd
Y Neuadd Fawr | Abertawe | Dydd Iau 4 Ionawr | 7.30pm |
Hall for Cornwall | Truro | Dydd Sadwrn 6 Ionawr | 4.00pm |
Hafren | Y Drenewydd | Dydd Mercher 10 Ionawr | 7.00pm |
Pontio | Bangor | Dydd Iau 11 Ionawr | 7.30pm |
Theatr Brycheiniog | Aberhonddu | Dydd Gwener 12 Ionawr | 7.00pm |
Turner Sims | Southampton | Dydd Sadwrn 13 Ionawr | 7.30pm |
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru | Caerdydd | Dydd Iau 18 Ionawr | 2.30pm 7.30pm |
Cadeirlan Tyddewi | Sir Benfro | Dydd Sadwrn 20 Ionawr | 2.30pm |